11.1 – HHP/2022/38 – Mandela, Rhosmeirch
11.2 – FPL/2022/23 – Ger y Bont, Elim
Cofnodion:
11.1 HHP/2022/38 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Mandela, Rhosmeirch
(Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r brif ystyriaeth cynllunio yw'r effaith ar fwynderau lleol i eiddo cyfagos o ran y newidiadau arfaethedig i'r eiddo. Mae’r eiddo yn eiddo un llawr sengl gyda gerddi blaen ac ochr sylweddol fel rhan o'i gwrtil. Mae'r tai sengl cyfagos bob ochr i’r eiddo yn dai deulawr. Bydd llinell newydd y to yn cynnwys 4 ffenestr to a 4 ffenestr dormer ar ongl ar gyfer ystafelloedd gwely newydd yr estyniad. Bydd 2 o'r ffenestri newydd hyn i'w codi ar ddrychiad blaen yr eiddo sy'n wynebu'r briffordd gyhoeddus gyda phellter o tua. 30m o'r eiddo cyfagos agosaf. Mae'r 2 ffenestr dormer arall i'w codi ar ddrychiad cefn yr eiddo, sy'n cefnu ar gaeau amaethyddol heb unrhyw gymdogion cyfagos yn wynebu'r ochr hon. Ystyrir nad fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr ardal nac ar eiddo cyfagos ac argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 FPL/2022/23 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau a'r tir ger Ger y Bont, Elim
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad. Roedd y Swyddog Monitro wedi craffu r y cais yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cynnig yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Mae’r adeilad arfaethedig ar gyfer storio peiriannau amaethyddol. Ceir mynediad i'r safle drwy fynedfa amaethyddol bresennol ac ni chynigir unrhyw draciau na mannau caled fel rhan o'r datblygiad. Mae safle'r cais ar dir sy'n berchen i'r ymgeisydd ac mae’n ymestyn i 5.7erw, fodd bynnag, ynghyd â safle'r cais, mae'r ymgeisydd hefyd yn berchen ac yn ffermio tua 100 erw arall ym Modedern. Mae'r ACLl felly yn fodlon bod cyfiawnhad digonol yn bodoli ar gyfer y datblygiad. Mae'r adeilad arfaethedig yn briodol o ran ei leoliad, graddfa a dyluniad ac ni fyddai'n anghydnaws yn y dirwedd wledig. Ni ystyrir ychwaith y byddai'n achosi effeithiau annerbyniol ar fwynderau eiddo cyfagos. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Cyngor Cymuned Tref Alaw hefyd wedi codi pryderon mewn perthynas â chael gwared ar ddŵr wyneb, perygl llifogydd, cydymffurfio â gofynion SDCau a chaniatâd hanesyddol ar y tir. Er y bydd angen cymeradwyaeth SDCau ar wahân ar gyfer y datblygiad, nid oes unrhyw faterion yn ymwneud â draenio dŵr wyneb na pherygl llifogydd wedi’u codi gan yr ymgyngoreion statudol perthnasol. Mae’r hanes cynllunio’r tir yn nodi bod cais am hysbysiad ymlaen llaw blaenorol wedi’i wneud i’r ACLl yn 2017 i benderfynu a oedd angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol tua. 200m i ffwrdd yn y cae nesaf. Penderfynwyd nad oedd angen caniatâd ymlaen llaw a bod y datblygiad felly yn Ddatblygiad a Ganiateir o dan ddarpariaethau Dosbarth A, Rhan 6 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae’r hawliau Datblygu a Ganiateir a roddir dan ddarpariaethau Rhan 6A yn amodol ar gyflawni’r datblygiad o fewn cyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad cyflwyno’r cais am hysbysiad ymlaen llaw i’r ACLl. Mae'r 5 mlynedd wedi dod i ben heb i'r datblygiad gael ei gyflawni ac o ganlyniad ni chaniateir bwrw ymlaen â’r datblygiad heb gais priodol pellach i'r ACLl. Dywedodd mai’r unig reswm pam nad ydi'r datblygiad yn gymwys fel 'Datblygiad a Ganiateir' yw oherwydd ei fod wedi'i leoli o fewn 25m i'r briffordd ddosbarthiadol. Argymhellwyd ei fod yn cael ei gymeradwyo gan ei fod yn dderbyniol o ran ei leoliad a’i ddyluniad ac ni ystyrir y byddai maint y sied yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau’r anheddau preswyl gerllaw.
Roedd y Cynghorydd John Griffith yn dymuno cael gwybod a oedd y tir yn Ger y Bont a’r 100 acer ym Modedern ym meddiant yr ymgeisydd. Atebodd y Prif Swyddog Cynllunio mai dyma oedd ei ddealltwriaeth ef o’r sefyllfa.
Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: