Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

FPL/2021/61

 

12.2 – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona

HHP/2021/303

 

12.3 - FPL/2022/43 – Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

FPL/2022/43

 

12.4 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn

FPL/2021/370

 

12.5 – FPL/2022/36 - Mona Island Dairy, 8 Parc Ddiwydiannol Mona, Mona

FPL/2022/36

 

Cofnodion:

FPL/2021/61 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahân i anecs ynghyd â datblygiadau cysylltiedig yn Nhyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones, aelod lleol, am ymweliad safle oherwydd cyflwr y ffyrdd tuag at safle’r datblygiad a hefyd cynaliadwyedd y cais mewn cefn gwlad agored.

 

Cynigodd y Cynghorydd K P Hughes bod ymweliad safle rhithwir yn cael ei gynnal ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2  HHP/2021/303 - Cais llawn i ddymchwel ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei lle ym Mhant y Bwlch, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol ar ran Cyngor Cymuned Llanddona.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, aelod lleol, am ymweliad safle oherwydd pryderon ynglŷn â’r cais yn lleol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod ymweliad safle rhithwir yn cael ei gynnal ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3  FPL/2022/43 -Cais llawn ar gyfer codi 6 uned busnes ynghyd a thirlunio a datblygiadau cysylltiedig yn Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn  cael ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod safle’r cais wedi’i amgylchynu gan ddatblygiadau masnachol / diwydiannol y tu ôl i siop Morrisons; mae’r unedau busnes yn ymyl y safle arfaethedig eisoes wedi cael eu cwblhau.  Aeth ymlaen i ddweud bod y datblygiad yn cyd-fynd â Pholisïau Cynllunio Cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd o ran egwyddor. Bernir bod y cynnig yn dderbyniol mewn termau technegol ac na fydd yn achosi niwed i fwynderau lleol, yr AHNE gerllaw, yr amgylchedd hanesyddol na diogelwch y briffordd.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio nad yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad wedi’i dderbyn eto mewn perthynas â’r traffig dyddiol cyfartalog blynyddol a fydd yn cael ei gynhyrchu gan y datblygiad a’r effaith ar Gyffordd 2 yr A55.  

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE er ei fod yn cefnogi’r cais bod ganddo bryderon ynglŷn â’r cerbydau HGV sy’n parcio ar balmentydd ger y safle. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cyfarfodydd ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r problemau parcio yn yr ardal o amgylch safle’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Glyn Haynes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais, gydag amodau priodol, yn dilyn ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r traffig dyddiol cyfartalog blynyddol a ragwelir gan y datblygiad arfaethedig, a'r effaith y rhagwelir y bydd hyn yn ei chael ar Gyffordd 2 yr A55.

 

12.4  FPL/2021/370 - Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau, yn Chwarelau, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelodau lleol.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Bryan Owen, aelod lleol, wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd pryderon ynglŷn â’r briffordd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod ymweliad safle’n cael ei gynnig ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.5  FPL/2022/36 Cais llawn i addasu ac ehangu'r adeilad presennol (gan gynnwys estyniad a gymeradwywyd fel rhan o'r cais cynllunio FPL/2020/234), codi seilos ychwanegol, creu maes parcio ceir, creu mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr, tirlunio ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mona Island Dairy, 8 Parc Diwydiannol Mona, Mona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards o blaid y cais a dywedodd mai dyma oedd trydydd cam y datblygiad a dderbyniodd ganiatâd cynllunio yn ôl yn 2019 i addasu ac ehangu’r uned bresennol ar y safle i ffatri cynhyrchu caws. Cymeradwywyd ail gam y datblygiad yn 2021.  Mae’r gwaith ar y cam cyntaf yn mynd rhagddo a bydd y ffatri’n dechrau cynhyrchu caws ymhen blwyddyn ac unwaith y bydd ar agor, hon fydd y ffactri gaws fwyaf modern yn Ewrop a bydd yn defnyddio ynni cynaliadwy. Ar ôl cwblhau trydydd cam y datblygiad bydd modd cynyddu cynhyrchiant o 7,800 tunnell i 18,000 tunnell y flwyddyn.  Bydd 150 miliwn litr o lefrith o 35 o ffermydd Cymreig yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu caws o’r ansawdd uchaf. Byddai ehangu'r ffatri yn sicrhau hyfywedd hir dymor y fenter ac roedd ehangu'r ffatri yn rhan o'r cynnig cychwynnol a gyflwynwyd ar gyfer cam cyntaf ac ail gam y datblygiad. Bydd y ffatri’n gosod safonau newydd ar gyfer y diwydiant, trwy gyfuno dulliau traddodiadol ac arloesol i gynhyrchu dewis eang o gawsiau cyfandirol megis Gouda ac Edam. Mae cynnydd yn y galw am y math hwn o gawsiau ar hyn o bryd. Byddai’r cynhyrchwyr yn cael pris cyfartalog am eu llaeth sydd o fudd i gynhyrchwyr lleol. Bydd y datblygwr yn buddsoddi £10m yn ystod y trydydd cam yn ychwanegol i’r 27.5m sydd eisoes wedi’i fuddsoddi yn ystod y cam cyntaf a’r ail gam. Dyma fydd y buddsoddiad mwyaf yn y sector bwyd eleni a bydd yn creu 38 o swyddi llawn amser a 48 o swyddi rhan amser.  Erbyn 2025 bydd hyn yn cynyddu i 100 o swyddi a bydd yn galluogi i bobl leol ddatblygu eu sgiliau ac mae’r datblygwr wedi bod yn gweithio’n agos gyda Choleg Menai sydd wedi cytuno i gynnal cyrsiau ar y safle. Aeth Ms Edwards ymlaen i ddweud eu bod fel Asiant yn bwriadu mynd i’r afael â’r sylwadau gan Dŵr Cymru a bod trafodaethau hefyd ar y gweill gydag Ecolegydd a Swyddogion Cynllunio’r awdurdod lleol mewn perthynas â’r datblygiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai dyma oedd trydydd cam y datblygiad ar y safle.  Mae egwyddor y datblygiad yn dderbyniol yn y lleoliad hwn ar yr ystâd ddiwydiannol.  Nododd bod nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad yn dal heb eu datrys, yn cynnwys materion bioamrywiaeth ac ecolegol, ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn, CADW a Dŵr Cymru.  Yr argymhelliad oedd dirprwyo’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn derbyn ymateb boddhaol gan yr ymgyngoreion statudol a restrir yn yr adroddiad a bod angen cytundeb cyfreithiol Adran 106 i sicrhau bod y mesurau lliniaru ecolegol oddi ar y safle yn cael eu cyflawni a’u rheoli’n briodol.

 

Cynigodd y Cynghorydd K P Hughes bod yr awdurdod i gymeradwyo’r cais yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddogion yn dilyn derbyn ymateb boddhaol gan yr ymgyngoreion statudol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais, gydag amodau priodol, ar ôl derbyn ymateb boddhaol gan yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cadw a Dŵr Cymru;

 

·         bod cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn angenrheidiol i sicrhau bod y mesurau lliniaru ecolegol oddi ar y safle yn cael eu gweithredu a’u cynnal yn briodol.

 

Dogfennau ategol: