Eitem Rhaglen

Penodi Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg ar ganlyniad y broses o recriwtio aelodau lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i sylw’r Pwyllgor.

 

Wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y mater hwn, gadawodd Mr Dilwyn Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad arno. Etholwyd y Cynghorydd Alun Roberts i gadeirio'r eitem (a gymerwyd olaf yn nhrefn busnes).

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno diwygiadau i'r drefn perfformiad a llywodraethu, gan gynnwys newidiadau i gyfansoddiad a thrafodion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sy'n ei gwneud yn ofynnol i draean o aelodaeth y Pwyllgor fod yn aelodau lleyg a dwy ran o dair yn aelodau o'r Cyngor. Ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, mae hyn yn golygu y bydd angen pedwar aelod lleyg i wasanaethu ar y Pwyllgor. Mae Mr Dilwyn Evans, yr aelod lleyg presennol wedi nodi ei fod yn fodlon gwasanaethu am ail dymor o bum mlynedd y darperir ar ei gyfer yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor a Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at y broses recriwtio a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac a oedd yn cynnwys rhaglen hyrwyddo genedlaethol fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor. Arweiniodd y broses at y Cyngor yn derbyn 13 o geisiadau. Roedd y rhain yn destun ymarfer llunio rhestr fer ar 19 Ionawr, 2022 a gynhaliwyd gan banel yn cynnwys Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a nododd bedwar ymgeisydd i’w cyfweld. Wedi hynny, cynhaliwyd y cyfweliadau ym mis Chwefror, 2022 gan banel a oedd yn cynnwys Gadeirydd y Pwyllgor, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Prif Weithredwr. Dewisodd y panel gyfweld y tri ymgeisydd a ganlyn i’w hystyried ar gyfer penodiad - Mr Michael Wilson, Llangefni, Ynys Môn Sharon Warnes, Pwllheli, Gwynedd a Mr William Parry, Rhosneigr, Ynys Môn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pam mai dim ond pedwar ymgeisydd allan o dri ar ddeg o ymgeiswyr a gynhyrchodd yr ymarfer llunio rhestr fer ar gyfer cyfweliad, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod nifer o resymau pam y cafodd nifer o ymgeiswyr eu dileu yn ystod y cam llunio rhestr fer gan gynnwys ffurflenni cais anghyflawn a dim cysylltiad neu’n anghyfarwydd â'r awdurdod neu ardal yr awdurdod. Roedd rhai ymgeiswyr hefyd wedi gwneud cais i bob cyngor yng Nghymru. Roedd y panel yn fodlon bod y broses o lunio rhestr fer wedi cynhyrchu pedwar ymgeisydd cryf y gellid ystyried tri ohonynt i'w penodi i wasanaethu fel aelodau lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar ôl bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo dewis a phenodi Michael Wilson, Sharon Warnes a William Parry yn aelodau lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell eu penodi i'r Cyngor.

·         Argymell i'r Cyngor fod Mr Dilwyn Evans yn parhau fel aelod lleyg am ail dymor o bum mlynedd.

 

Dogfennau ategol: