Cofnodion:
Croesawodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair yr Aelodau a oedd wedi cael eu hethol am y tro cyntaf i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir.
Roedd yn dymuno diolch i’r Gwasanaeth Etholiadol a’r staff a fu’n trefnu’r Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Ychwanegodd fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir a’r gobaith yw y bydd y system hybrid ar waith yn y dyfodol agos, ar ôl cwblhau hyfforddiant a phrofion ar y system yn swyddfeydd y Cyngor.
Yn dilyn hynny, gwnaeth yr Is-gadeirydd yn y Gadair y cyhoeddiadau a ganlyn:-
· Llongyfarchwyd Mr Rhys Howard Hughes sydd wedi’i benodi i’r swydd Dirprwy Brif Weithredwr.
· Cynhaliwyd Eisteddfod Môn (Bro Esceifiog) yn ddiweddar wedi iddi gael ei chanslo am ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran yn yr Eisteddfod.
· Dymunwyd yn dda i bobl ifanc o’r Ynys fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych yr wythnos nesaf.
· Dymunwyd yn dda i’r holl bobl ifanc fydd yn sefyll arholiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
· Llongyfarchiadau i Fand Pres Biwmares a oedd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Bandiau Pres Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe yn ddiweddar. Byddant yn cynrychioli Cymru yn awr yn rownd derfynol Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr ym mis Medi.
· Llongyfarchiadau i Mr Wayne Hennessey, cyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Biwmares ac Ysgol David Hughes, a oedd yn gapten ar dîm Cymru yn ddiweddar wrth iddo ennill ei 100fed gap dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Siec yng Nghaerdydd.
· Llongyfarchiadau i holl Aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a fu’n cystadlu yng Nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd yn ddiweddar. Roedd tîm dan 14 Ynys Môn yn fuddugol yn y gystadleuaeth – aelodau’r tîm oedd Twm Môn Huws, Clwb Bodedern, Enlli Pennant a Glwys Morris Williams, Clwb Penmynydd.
· Llongyfarchiadau hefyd i Elliw Haf Griffith, Clwb Dwyran, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth Aelod y Flwyddyn.
· Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn a gyrhaeddodd rownd derfynol Côr Cymru.
· Llongyfarchiadau i Casi Evans o Benysarn, a disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a ddewiswyd yn aelod o Garfan Pêl-droed Dan 16 Cymru a chwaraeodd yn erbyn Denmarc, y Ffindir a’r Swistir dros y Pasg.
· Llongyfarchiadau hefyd i’w brodyr hŷn, Caio a Cian Evans, sydd wedi cynrychioli timau pêl-droed Ysgolion Cymru a Cholegau Cymru (yn y drefn honno) yn ddiweddar, yn ogystal ag aelod arall o’r tîm, sef Josh Stanley Williams o Langefni. Dyma’r tro cyntaf i Dimau Cymru ennill y gystadleuaeth mewn dros 40 mlynedd.
· Roedd yr Is-gadeirydd yn y Gadair yn dymuno diolch yn ddiffuant i’r holl drefnwyr a gwirfoddolwyr a fu’n gyfrifol am drefnu Gig Cymru Wcráin a gynhaliwyd ar y Cae Sioe ym Mona ar 9 Ebrill. Roedd y noddwyr yn cynnwys Cyngor Môn a Chyngor Gwynedd a nifer o fusnesau lleol. Bydd yr holl elw’n mynd tuag at gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ac, ar y nodyn hwnnw, hoffwn gyfeirio at drigolion gofalgar Ynys Môn sydd wedi croesawu teuluoedd o Wcráin i’w cartrefi.
· Dymunwyd yn dda i aelodau staff sydd wedi ymddeol o’r Cyngor yn ddiweddar.
* * * *
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod neu aelod o staff y Cyngor a oedd wedi cael profedigaeth.
Safodd Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.