Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2021/2022 i’r Pwyllgor Gwaith
ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a nododd ei bod yn galonogol adrodd bod y mwyafrif (92%) o'r dangosyddion corfforaethol a gafodd eu monitro yn erbyn y targedau wedi'u cyflawni. Roedd hefyd yn galonogol bod dangosyddion gwasanaeth wedi'u cyrraedd gyda 91% o'r dangosyddion perfformiad penodol yn perfformio uwchlaw'r targed. Rhoddodd enghreifftiau o berfformiad da yn ystod y flwyddyn oedd yn cynnwys canran y cleientiaid NERS yr oedd eu hiechyd wedi gwella ar ôl cwblhau'r rhaglen ymarfer corff - sydd â pherfformiad o 84% yn erbyn targed o 80%. Nifer yr eiddo gwag yr aethpwyd yn ôl i’w defnyddio - aethpwyd yn ôl i ddefnyddio 91 eiddo yn erbyn targed o 50. Dywedodd yr Aelod Portffolio ymhellach fod tri dangosydd rheoli gwastraff wedi perfformio'n dda yn erbyn targedau yn ystod y flwyddyn, gyda 95.5% o strydoedd a gafodd eu harolygu yn yr ardal yn lân a dim gwastraff arnynt. Mae'n galonogol nodi, hefyd, bod achosion o dipio anghyfreithlon yn cael eu clirio o fewn 0.25 diwrnod. Mae’r tri dangosydd priffyrdd sy’n ymwneud ag arolygon o gyflwr ffyrdd A, B ac C yr Ynys yn wyrdd yn erbyn targedau ac wedi gwella o gymharu â 2020/21. Mae perfformiad blwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer yr holl ddangosyddion cymaradwy (cyfanswm o 30) yn dangos bod 18 (60%) wedi gwella yn ystod y flwyddyn, 10 (33%) wedi dirywio a 2 (7%) wedi cynnal lefel eu perfformiad.
Amlinellodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, rôl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Dywedodd fod Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 20 Mehefin, 2022 a chodwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor:
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor wedi penderfynu derbyn yr adroddiad, nodi'r meysydd y mae'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd y caiff y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ei graffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn chwarterol a rhagwelir y bydd y Cerdyn Sgorio’n datblygu yn y dyfodol i gyd-fynd â Chynllun y Cyngor. Roedd yn dymuno diolch i'r staff am eu gwaith a chroesawodd y Cerdyn Sgorio cadarnhaol a gyflwynwyd i'r cyfarfod hwn.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch4 2022/23, nodi'r meysydd y mae'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth yn llwyddo i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ynddynt a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: