Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyngor hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/2022
i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad a dywedodd fod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2021/2022 ar 9 Mawrth, 2021 gyda gwariant gwasanaeth net o £147.420m, i'w ariannu o Incwm Treth y Cyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o £1.333m ar gyfer cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac eraill. Gostyngwyd y gyllideb ar gyfer Premiwm Treth y Cyngor o £0.121m i £1.514m. Defnyddiwyd £0.300m o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei phennu gyda'r cynnydd o 2.75% yn Nhreth y Cyngor y cytunwyd arno. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw cyllideb 2021/2022 yn gosod gofynion ar y gwasanaethau i wneud arbedion. Dywedodd ymhellach fod yr adroddiadau’n nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth, 2022. Y flwyddyn ariannol hon, ceir hawliadau mewn perthynas ag argyfwng Covid i Lywodraeth Cymru, sef cyfanswm o £6.135m, gyda £3.854m wedi'i dderbyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd unrhyw arian pellach yn cael ei ryddhau i dalu am y golled incwm yn ystod cam newydd y pandemig Covid. Rhagwelir tanwariant o £4.798m yn y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2021/2022, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor. Mae hyn yn 3.25% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/2022. Mynegodd yr Aelod Portffolio ei bod yn amhosibl rhagweld yr heriau a wynebir yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol ynghyd â'r heriau cynyddol gyda chostau cynyddol ac mae gwaith yn cael ei wneud gan yr Adran Gyllid ar yr effeithiau posibl y byddir yn debygol o'i hwynebu.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod blwyddyn ariannol 2021/22 yn flwyddyn eithriadol oherwydd y pandemig Covid a gafodd effaith ar waith y Cyngor yn enwedig yn ystod Ch1. Cyfeiriodd at y tanwariant fel y nodwyd yn yr adroddiad a dywedodd fod grantiau'n cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru tuag at wasanaethau ac yn arbennig Gwasanaethau Cymdeithasol i gynorthwyo gyda'r pwysau a wynebir o fewn y gwasanaeth. Derbyniwyd y grant Grant Cynnal Refeniw arferol gan Lywodraeth Cymru ynghyd â grant ychwanegol o £1.4m ar ddiwedd y flwyddyn a dderbyniwyd gan bob awdurdod lleol arall yng Nghymru ac mae hyn wedi cyfrannu at y tanwariant o fewn y gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach fod y costau benthyca wedi gostwng oherwydd y tanwariant yn y gyllideb gyfalaf ac mae premiwm Treth y Cyngor wedi bod yn uwch na’r targedau. Mae hyn, hefyd, wedi cyfrannu at y tanwariant yn y gyllideb ynghyd â swyddi gweigion yn yr awdurdod ac incwm a dderbyniwyd yn arbennig yn y Gwasanaeth Morwrol yn ystod Haf 2021 oherwydd y cynnydd mewn ymwelwyr i'r Ynys. Mae'r incwm o ffioedd cynllunio ac ailgylchu hefyd wedi cyfrannu at y tanwariant yn enwedig yn ystod y chwarter diwethaf. Mae'r balansau cyffredinol yn dal i fod oddeutu £12m ar ôl gwario £3m ar wahanol brosiectau, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae balansau ysgolion hefyd wedi cynyddu o £3.9m i £7.8m.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â balansau’r Cyngor i egluro pam fod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn. Mae blwyddyn ariannol 2022/23 yn wynebu cynnydd mewn costau mewn gwahanol feysydd, a’r gobaith yw y bydd y cronfeydd wrth gefn hyn yn gallu ariannu’r codiadau hyn. Rhagwelir y bydd blwyddyn ariannol 2023/2024 yn heriol oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant ond bydd yn ddibynnol ar setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn honno.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grantiau yn ystod y pandemig ond bod £1.8m yn weddill, gofynnodd a oedd y grant hwn i’w dalu’n llawn oherwydd y nodir yn yr adroddiad eglurhaol i’r Pwyllgor Gwaith fod Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oedd unrhyw gyllid pellach yn cael ei ryddhau i dalu am golli incwm. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y rhan fwyaf o'r £1.8m wedi'i drosglwyddo i'r Cyngor.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yn rhaid cymryd i ystyriaeth y byddai cyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gorwario dros £1m yn y Gwasanaethau Oedolion a £0.5m o fewn y Gwasanaeth Plant heb y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â phwysau digartrefedd ar y gyllideb.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2021/22;
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 y manylir arnynt yn Atodiad C;
· Nodi sefyllfa’r rhaglenni ‘buddsoddi i arbed’ yn Atodiad CH;
· Nodi gwaith monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2021/22
yn Atodiadau D a DD;
· Nodi balansau ysgolion yn Atodiad E.
Dogfennau ategol: