Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yr Archwiliwyr Allanol oedd yn cynnwys y Cynllun Archwilio arfaethedig ar gyfer blwyddyn archwilio 2022. Roedd y Cynllun yn nodi'r gwaith y bwriedir ei wneud mewn perthynas â'r archwiliad ariannol, y rhaglen archwilio perfformiad am y flwyddyn, ynghyd â'r rhaglen o waith ardystio grantiau ac amserlen adrodd ar yr archwiliad.
Dywedodd Ms Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru fod effaith pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith na welwyd mo’i thebyg o’r blaen ar waith sefydliadau’r sector cyhoeddus ac efallai y byddai angen adolygu amserlen y gwaith. Bydd yr Archwilwyr Allanol yn cyhoeddi tystysgrif ac adroddiad ar waith Archwilio datganiadau ariannol. Cyfeiriodd at y risgiau fel y gwelir yn Nhabl ar Dudalen 6 yr adroddiad. Ychwanegodd yr amcangyfrifir y byddai'r ffi a nodir yn y Cynllun Ffioedd yn cynyddu 3.6%.
Cyfeiriodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru, at y tabl ar Dudalen
10 yr adroddiad mewn perthynas â rhaglen archwilio perfformiad 2022/2023. Cyfeiriodd at yr Asesiad Sicrwydd a Risg a nododd mai'r pedwar maes prosiect fydd yn canolbwyntio ar Ynys Môn fydd: Sefyllfa ariannol; Rheoli’r Rhaglen Gyfalaf; Defnyddio gwybodaeth perfformiad – gan ganolbwyntio ar adborth a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth a gosod amcanion llesiant, ac Adolygiad thematig – gofal heb ei drefnu, a nododd mai’r bwriad yw cynnal adolygiad traws-sector yn canolbwyntio ar lif cleifion allan o’r ysbyty. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried sut mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’i bartneriaid i roi sylw i’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol i gefnogi pobl i gael gadael yr ysbyty, yn ogystal ag atal pobl rhag mynd i’r Ysbyty yn y lle cyntaf. Bydd y gwaith hefyd yn ystyried pa gamau sy'n cael eu cymryd i roi atebion yn y tymor canolig i’r tymor hwy. Ychwanegodd Mr Alan Hughes y cynhelir Adolygiad Lleol o'r gwasanaeth cynllunio.
Mewn ymateb i gwestiwn mewn perthynas â diweddariad ar y 'Risg Archwilio' yn ymwneud â'r ffaith bod y Cyngor wedi rhoi gwybod y byddai'n symleiddio Datganiad Cyfrifon 2020/21, dywedodd Mr Gareth Evans, Arweinydd yr Archwiliwyr (Archwiliwyr Ariannol), mai mater i’r Cynghorau unigol yw’r hyn y maent yn ei gynnwys yn eu Datganiadau Ariannol. Nododd y gall symleiddio'r cyfrifon arwain at ansawdd uchel a gall fod yn haws i'w ddeall. Mae'r Cyngor wedi dweud ei fod wedi rhoi mesurau ar waith i wella ansawdd y datganiad cyfrifon drafft a'r papurau ategol. Ni fydd effaith effeithiolrwydd y mesurau hyn yn hysbys hyd nes y cyflwynir y wybodaeth i'w harchwilio yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uwch-reolwr yn yr Adran Gyllid. Ychwanegodd y câi Adroddiad Diweddaru ar y Cyfrifon Drafft ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr argymhellion a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru wedi'u hystyried a bod mesurau wedi'u cymryd i wella'r Datganiad Cyfrifon. Nododd yn ystod y sesiynau hyfforddi a drefnwyd i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Datganiad Cyfrifon y byddai'n amlygu'r rhesymau pam fod rhai nodiadau yn cael eu cynnwys yn y Cyfrifon.
PENDERFYNWYD:- derbyn Cynllun Archwiliwyr Allanol 2022 a nodi ei gynnwys.
Dogfennau ategol: