Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid Corfforaethol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid gan gynnwys Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 blwyddyn ariannol 2021/22 er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, a oedd yn Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yn ystod y cyfnod adrodd hwn, y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 sef y pedwerydd adroddiad cerdyn sgorio a’r un olaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 a’r cyntaf o’r Weinyddiaeth newydd. Roedd yn falch o allu adrodd bod 90% o Ddangosyddion Perfformiad wedi’u cyrraedd neu’n agos at y targed, a thrwy edrych yn ôl ar y Cerdyn Sgorio dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae’n adlewyrchu perfformiad y Cyngor, gallai gadarnhau bod perfformiad wedi gwella’n raddol yn ystod y cyfnod hwn er gwaethaf yr heriau yn sgil mesurau cyni a delio â'r pandemig. Mae enghreifftiau penodol o berfformiad da a welwyd yn ystod y flwyddyn wedi’u darparu yn yr adroddiad sy’n ymwneud â Gwasanaethau Oedolion, atal digartrefedd a nifer yr eiddo gwag sydd yn ôl mewn defnydd.
Wrth gydnabod tôn cadarnhaol yr adroddiad yn gyffredinol a pherfformiad cadarn y Cyngor a adlewyrchwyd ganddo, nododd y Pwyllgor hefyd y meysydd perfformiad canlynol oedd islaw’r targed a heriodd gan gydnabod y bydd y meysydd hyn yn debygol o ddylanwadu ar y dull gweithredu yn y flwyddyn i ddod –
· Dangosydd 32 – Canran o wastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn Goch gyda pherfformiad o 62.39% yn erbyn targed lleol o 70% a tharged statudol cenedlaethol o 64% am y flwyddyn. Mae'r perfformiad hwn hefyd ychydig yn is na'r 62.96% a welwyd ar ddiwedd 2020/21.
Cadarnhaodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y perfformiad ar gyfer y dangosydd hwn wedi disgyn yn is na tharged statudol 2021/22 o 64% yn rhannol oherwydd cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd y telir amdano sydd wedi arwain at ostyngiad o 2,000 tunnell yn y gwastraff gwyrdd a gesglir a hefyd cynnydd mewn gwastraff bin du dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rhagwelodd Swyddogion bryderon ynghylch cwrdd â thargedau interim a thymor hwy (70% erbyn 2024/25) dros 12 mis yn ôl ac am y rheswm hwn fe wahoddwyd WRAP Cymru (The Waste and Resources Action Programme) i gynorthwyo’r Cyngor gyda dadansoddi perfformiad gweithredol a gwneud argymhellion i gynorthwyo gyda chwrdd y targedau gofynnol. Mae WRAP Cymru yn ymweld â'r Ynys i gynnal asesiadau ymarferol yn ystod Ch1 a Ch2 2022/23 a disgwylir i ganlyniadau ei ddadansoddiad fod ar gael yn ystod Ch3 2022/23. Mewn ymateb i gwestiynau pellach am gosbau a/neu sancsiynau am beidio â chyflawni targedau ailgylchu statudol a’r rhan a chwaraewyd gan gynnydd mewn twristiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn cyfraddau ailgylchu/cyfraddau cynyddol o wastraff bin du, dywedodd y Swyddog, er ei fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru osod cosbau am golli cyfraddau ailgylchu statudol mae’n ystyried y cynlluniau sydd gan awdurdod lleol i wella perfformiad a chyrraedd targedau ailgylchu yn y dyfodol ac yn hyn o beth cydweithrediad y Cyngor â WRAP Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ar yr Ynys yn ei gosod mewn sefyllfa gadarn. Yn ogystal, bydd rhan o waith WRAP Cymru yn cynnwys dadansoddi effaith twristiaeth ar gyfraddau ailgylchu.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai'r flaenoriaeth gyntaf yw cwblhau'r gwaith sy'n cael ei wneud gan WRAP Cymru sy'n ymwneud â dadansoddi'r gwastraff sy'n cael ei gasglu a faint sy'n cael ei ailgylchu a fydd yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i'r Cyngor. Efallai y bydd angen ymchwil pellach i ganfod sut mae’r farchnad breifat wedi perfformio gan gynnwys sut mae’r sector masnachol wedi addasu i lefelau twristiaeth uwch o ystyried bod y boblogaeth wedi cynyddu i oddeutu 300,000 o ymwelwyr yn ystod y ddau haf blaenorol o gymharu â’r boblogaeth breswyl o tua 70,000. Er bod hyn yn debygol o fod wedi cael effaith ar berfformiad ailgylchu, mae angen data manwl i ddangos i ba raddau y mae unrhyw gynnydd mewn twristiaeth wedi cael effaith negyddol ar reoli gwastraff a lefelau ailgylchu. Unwaith y bydd gwaith WRAP Cymru wedi cyrraedd cam digon datblygedig, gellir dod â’i gasgliadau i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w harchwilio a’u craffu’n fanwl.
Cytunodd y Pwyllgor fod angen craffu’n barhaus ar berfformiad y Cyngor o ran ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff gan ei fod hefyd yn gysylltiedig â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ymrwymo iddo. Croesawodd y Pwyllgor yr awgrym y dylid dod â chanlyniad gwaith WRAP Cymru i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w archwilio.
· Dangosydd 36 – Canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd yn goch gyda pherfformiad o 50% yn erbyn targed o 65%.
Wrth gadarnhau y bu tri phenderfyniad newydd ar apeliadau yn ystod chwarter olaf y flwyddyn pan wrthodwyd dwy o'r apeliadau gan ddod â'r ganran gyffredinol ar gyfer y flwyddyn o 46% i 59%, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y dangosydd hwn yn delio â ffigyrau bach iawn bod y tanberfformiad yn ganlyniad i 5 allan o 10 apêl cynllunio yn cael eu cymeradwyo – 8 o'r apeliadau hynny yn geisiadau a benderfynwyd gan swyddogion a 2 yn geisiadau a benderfynwyd gan y Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai nifer fach iawn yw'r 10 apêl sy'n codi o'u hystyried yng nghyd-destun y 1,000 a mwy o geisiadau ar gyfartaledd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn delio â nhw yn ystod y flwyddyn. Mae yna hefyd elfen o ddehongli / goddrychedd yn ymwneud â cheisiadau cynllunio ac mae dadansoddiad o benderfyniadau apêl wedi dangos eu bod yn amrywio o ran eu natur heb unrhyw batrwm amlwg wedi'i nodi a fyddai'n gofyn am ddehongliad gwahanol o bolisïau cynllunio lleol. Er bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwrando ac yn penderfynu ar apeliadau cynllunio ac felly allan o reolaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol, mae’r Awdurdod yn parhau i ymdrechu i wella perfformiad ac i’r perwyl hwnnw mae’r tîm Cynllunio wedi’i gryfhau a phenodiadau newydd wedi’u gwneud a rhaglen o gyflwyno hyfforddiant ar gyfer Swyddogion ac Aelodau Etholedig. Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol hefyd yn parhau i fonitro penderfyniadau apêl ar gyfer unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ac fel y gellir dysgu gwersi er mwyn parhau i wella effeithiolrwydd y broses o wneud penderfyniadau. Dywedodd y Swyddog ymhellach, er nad oedd data cymharol ar gael yn ystod cyfnod pandemig Covid, ei fod yn ymwybodol bod y sefyllfa ranbarthol yn debyg.
Derbyniodd y Pwyllgor y rhesymau pam fod perfformiad cynllunio mewn perthynas ag apeliadau wedi methu’r targed ac fe’i bodlonwyd gan esboniad y Swyddog.
· Dangosydd 04b – Cyfanswm canran yr ymatebion ysgrifenedig i gwynion o fewn 15 diwrnod (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn goch gyda pherfformiad o 66% yn erbyn targed o 80%.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sicrwydd, er na ddarparwyd ymateb ysgrifenedig i gwynion ym mhob achos, y gallai gadarnhau bod 39 o’r 41 o gwynion a dderbyniwyd wedi’u trafod gyda’r achwynydd o fewn 5 diwrnod gwaith, a 7 o’r 13 o ymatebion ysgrifenedig hwyr wedi’u cytuno gyda'r achwynydd cyn iddynt gael eu nodi’n hwyr fel y nodwyd yn y protocol cwynion. Mae natur gymhleth y cwynion a dderbyniwyd a chymhlethdod y materion a godwyd yn aml yn gofyn am fewnbwn aml-asiantaeth sy'n golygu y gall achosion gymryd mwy na 15 diwrnod i ymchwilio iddynt a'u datrys. Yn ogystal, mae'r cyfrifoldeb am ymateb i gwynion bellach yn cael ei rannu rhwng rheolwyr gwasanaeth gyda'r nod o gyflymu ymateb i gwynion.
Nododd a derbyniodd y Pwyllgor yr esboniad.
· Dangosydd 23 - Hyd amser cyfartalog yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn ac a ail-gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn yn Ambr gyda pherfformiad o 318 diwrnod yn erbyn targed o 270 diwrnod.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gweithdrefnau clir ar gyfer cofrestru a dadgofrestru plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Cadarnhaodd ar adeg drafftio’r adroddiad fod 14 o blant (allan o 48 ar y gofrestr) wedi bod ar y gofrestr ers dros 7 mis; mae'r achosion hyn yn gymhleth ac mae llawer o'r plant hyn yn ddarostyngedig i'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus sy'n nodi'r broses i'w dilyn pan fydd achosion gofal plentyn yn cael eu cychwyn. Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw'r ffaith bod 14 o blant wedi bod ar y gofrestr am fwy na 7 mis o reidrwydd yn adlewyrchiad o berfformiad gwael gan fod tynnu plant oddi ar y gofrestr yn dasg amlddisgyblaethol sy'n gofyn am gwrdd â nifer o feini prawf llym. Byddai dadgofrestru plant yn gynamserol neu y tu allan i'r broses hon yn golygu risg i'r Cyngor. Cyflwynwyd y Dangosydd Perfformiad yn wreiddiol pan oedd nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn uwch ac roedd elfen o lithriad wedi'i nodi mewn rhai achosion ac felly mae'n ddangosydd hanesyddol. Mae'r sefyllfa wedi gwella ers hynny ac mae'r Gwasanaeth wedi symud ymlaen. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adnoddau fel ffactor, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod argaeledd adnoddau yn un elfen ond bod cymhlethdod anghenion y plant hyn a'r ffaith eu bod wedi'u gosod ar y gofrestr am nifer o resymau yn fwy arwyddocaol yn yr achosion dan sylw.
Wrth dderbyn yr eglurhad, cydnabu’r Pwyllgor fod gwerthuso perfformiad ar gyfer y Dangosydd hwn yn fater cymhleth ac nad yw nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’r amser y maent wedi bod ar y gofrestr yn dangos y darlun cyfan o ran natur a difrifoldeb eu hanghenion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'u tynnu oddi ar y gofrestr yn rhy fuan.
Wrth holi ymhellach, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd y gellir cynnal y perfformiad cadarnhaol mewn perthynas â DP 26 – canran yr aelwydydd a gafodd eu hatal yn llwyddiannus rhag dod yn ddigartref (80.95% yn erbyn targed o 70%) – yn y dyfodol pe bai cyllid Llywodraeth Cymru yn lleihau neu’n tynnu cyllid yn ôl.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod nifer y bobl mewn llety brys yn llawer uwch nag y bu'n hanesyddol a bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i gefnogi'r sefyllfa honno. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal y lefel bresennol o gyllid ar gyfer 2022/23 sydd wedi cyfrannu at berfformiad cadarn y Gwasanaeth mewn perthynas â’r Dangosydd hwn, nid oes sicrwydd y bydd yr un gefnogaeth ar gael yn y blynyddoedd dilynol. Mae’r Gwasanaeth yn gwneud ei orau o fewn yr adnoddau presennol i sicrhau lefelau staffio yn y tymor hwy a bwriad y Gwasanaeth yw gwneud cais i ddefnyddio arian wrth gefn y gwasanaeth i gynnal lefelau staffio ar gyfer 2023/24. Gall y sefyllfa sy'n datblygu yn Wcráin a nifer cynyddol o ffoaduriaid o ganlyniad i'r gwrthdaro hefyd ychwanegu at y galw am lety brys.
Ar ôl ystyried adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 4 2021/22 a’r eglurhad a’r sicrwydd a roddwyd ar lafar gan Swyddogion yn y cyfarfod ynghylch y pwyntiau a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, i nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn llwyddo i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith.
Dogfennau ategol: