Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1    – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn

     FPL/2021/370

 

7.2    – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona

     HHP/2021/303

 

7.3    – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

        FPL/2021/61

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau), yn

       Chwarelau, Brynsiencyn.

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y cyn aelod lleol oherwydd pryderon ynglŷn â’r briffordd. Yn ei gyfarfod ar 6 Ebrill, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais.  O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Mehefin, 2022. 

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Dr Siôn Morris Williams yn erbyn y cais. Dywedodd ei fod yn cynrychioli ei deulu, ffrindiau a’r cyhoedd sy’n defnyddio’r ffordd i Ynys Wen o briffordd y B4419.   Dywedodd bod ei deulu wedi ffermio’r tir yn Ynys Wen ers tair cenhedlaeth ers i’w hen daid ddychwelyd o’r Rhyfel yn 1918 a dechrau tenantiaeth drwy Gyngor Ynys Môn.  Yn y dyfodol, mae’n gobeithio mai ef fydd y bedwaredd genhedlaeth i ffermio’r tir yn Ynys Wen. Aeth Dr Morris Williams ymlaen i ddweud bod y ffordd o briffordd y B4419 i Ynys Wen bellach yn gwasanaethu 3 eiddo; Fferm Chwarelau, Tŷ Fron Goch a Fferm Ynys Wen. Yn y 1970au cynnar cafodd y ffordd ei mabwysiadu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn cytundeb gyda pherchennog Fferm Chwarelau, Mr John Jones. Roedd y ffordd mewn cyflwr gwael ar y pryd ac roedd yn gwasanaethu dau o ffermydd y Cyngor sef Ynys Wen a Fron Goch yn ogystal â’r fferm gyntaf (Fferm Breifat) ar hyd y ffordd, sef Chwarelau. Gosodwyd tarmac ar hyd y ffordd gan y Cyngor ac mae’r ffordd wedi cael ei chynnal a’i chadw ganddo ers dros hanner canrif.  Nododd ei fod ef a’i deulu’n gwrthwynebu’r cais cynllunio oherwydd diogelwch. Mae 3 rhan o’r cais cynllunio, yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd a’r briffordd (y ffordd i Ynys Wen o’r B4419), yn destun pryder iddynt. Mae cerbydau, peiriannau amaethyddol trwm, cerbydau nwyddau a cherddwyr yn defnyddio’r ffordd yn ddyddiol. Mae man pasio wedi cael ei greu erbyn hyn ond mae wedi’i leoli yn y man anghywir ac mewn lle peryglus iawn ar dro cas ac nid yw’r man pasio wedi ei wneud o’r un deunyddiau â’r ffordd. Cyfeiriodd at gynllun lleoliad cais FPL/2019/212. Yn y cynllun lleoliad mae’r man pasio wedi’i leoli mewn man diogel ac addas yn unol ag amod rhif 6 a oedd yn caniatáu cymeradwyo’r cais ‘yn unol â diogelwch y briffordd’. Roedd wedi’i leoli ar ddarn syth o’r ffordd rhwng y B4419 a Chwarelau, gyda gwelededd clir a fyddai’n galluogi i gerbyd i dynnu i mewn yn ddiogel pe byddai traffig yn dod i’r cyfeiriad arall.  Nid oedd yn ymwybodol o fan pasio arall sydd wedi cael ei leoli ar droad mor beryglus â hon, ond roedd yn ymwybodol o fannau pasio ar ffyrdd syth, gyda gwelededd er mwyn cynnal diogelwch. Yn anffodus, nid yw’r man pasio sydd wedi cael ei greu yn helpu i ddiogelu’r briffordd.  Cyfeiriodd yn ôl at gais cynllunio FPL/2019/212. Roedd y man pasio ar y cynllun lleoliad mewn man addas a diogel y tu ôl i’r llety gwyliau ac roedd yn cyd-fynd ag amod rhif 7 o’r caniatâd “fel y gall cerbydau i dynnu i ffwrdd a throi’n glir o’r briffordd er mwyn lleihau’r perygl ac anhwylustod i ddefnyddwyr y briffordd gyfagos”. Nid yw’r ardal barcio arfaethedig sydd wedi’i nodi ar y cynllun lleoliad ar gyfer y cais newydd yn cydymffurfio â’r amod hon.  Mae ar ochr y briffordd, mae gwelededd yn wael ac mae risg i ddiogelwch y cyhoedd. Mae Ynys Wen yn fferm sy’n gweithredu 24 awr o’r dydd. Am resymau diogelwch, mae’n hanfodol bod y ffordd yn glir bob amser am y rhesymau canlynol:

 

-          Er mwyn cludo anifeiliaid at filfeddyg ar frys

-          Er mwyn mynd i’r ysbyty, ymweld â’r Meddyg Teulu neu ddeintydd mewn argyfwng neu er mwyn mynychu apwyntiadau penodol.

-          Yr wyf i yn feddyg arbenigol ac yn treulio llawer o amser yn Ynys Wen – gallaf gael fy ngalw at glaf mewn argyfwng unrhyw adeg.

 

Mae gan yr ymgeisydd agoriad o flaen y tŷ, cwrtil llydan ym mlaen yr adeilad a fydd yn cael ei drosi’n llety gwyliau, a digon o dir bob ochr i’r ffordd sy’n fwy nag addas i’r diben yn hytrach nag effeithio ar ddefnyddwyr y ffordd yn y modd hwn gyda mesurau rheoli traffig. 

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Mr Gerwyn Jones a oedd wedi gofyn i gael siarad ar y cais yn flaenorol ond nad oedd yn gallu bod yn bresennol.

 

Darllenwyd y datganiad canlynol gan Mr Jones:-

 

Pwrpas y cais cynllunio hwn yw cytuno a chymeradwyo mân newidiadau i’r hyn sydd eisoes wedi’i gytuno o dan gais cynllunio rhif FPL/2019/212, i drosi adeilad allanol yn llety gwyliau Chwarelau, Brynsiencyn.

 

Mae’r mân newidiadau i’r cais hwn yn cynnwys gosod dau ddrws Ffrengig yn lle ffenestri, newidiadau i’r estyniad bach a symud lleoliad y mannau parcio. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn dymuno cael cymeradwyaeth ar gyfer y man pasio a gafodd ei adeiladu cyn cytuno ar ei leoliad gyda’r adran briffyrdd fel y nodwyd o dan amod 6 yn y cais gwreiddiol FPL/2019/212. Fel y mae’r swyddog cynllunio wedi nodi yn ei adroddiad, nid oes unrhyw bryderon ynglŷn â’r newidiadau i’r adeilad ac mae’r adran briffyrdd hefyd wedi cadarnhau nad oes ganddynt bryderon ynglŷn ag ail-leoli’r mannau parcio na lleoliad y man pasio sydd wedi cael ei adeiladu. Felly, mae’r Swyddog yn argymell cymeradwyo’r cais a gofynnwn i chi gytuno ag o. 

 

Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi’u derbyn: yn benodol, lleoliad y man pasio, ond fel y nodwyd eisoes, nid os gan yr adran briffyrdd bryderon ynghylch ei leoliad.  Derbyniwyd gwrthwynebiad hefyd mewn perthynas â statws y ffordd - p’un ai a yw’n ffordd breifat neu fabwysiedig. Fel y nodwyd gan y Swyddog, nid yw hyn yn fater cynllunio ac ni ddylai ddylanwadu ar y cais.  I orffen, rydym yn eich atgoffa bod y caniatâd i drosi’r tai allan yn llety gwyliau wedi’i gymeradwyo yn ôl yn 2019 ac felly o ystyried argymhellion y Swyddog Cynllunio a’r Adran Briffyrdd, gofynnwn i chi gymeradwyo’r cais sydd ger eich bron heddiw yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn seiliedig ar faterion cynllunio yn unig.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ar y prif ystyriaethau cynllunio sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad a chyfeiriodd at y newidiadau i’r cais mewn perthynas â’r man pasio, y trefniadau parcio a’r newidiadau i’r adeilad. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y man pasio a nododd bod Amod (06) o’r cais blaenorol yn mynnu bod yr ymgeisydd yn darparu manylion ynglŷn ag adeiladwaith a lleoliad y man pasio cyn cychwyn ar y gwaith. Cwblhawyd y man pasio heb gyflawni’r amod hwn. Mae’r man pasio wedi cael ei adeiladu mewn lleoliad gwahanol i’r cynlluniau a gymeradwywyd.  Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r man pasio newydd a’i leoliad. Ystyrir felly fod y newid hwn yn dderbyniol. Aeth ymlaen i sôn bod y trefniadau parcio wedi cael eu diwygio ac y bydd ceir yn cael eu parcio o flaen yr adeilad allanol yn hytrach nag o fewn cwrtil eiddo Chwarelau. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r trefniadau parcio newydd.       

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y newidiadau i’r adeilad fel y gwelir yn yr adroddiad ysgrifenedig a nododd ei fod o’r farn bod y newidiadau yn dderbyniol ac na fyddant yn cael dim mwy o effaith negyddol ar yr eiddo preswyl gerllaw na’r cais a gymeradwywyd yn flaenorol.

 

Cyfeiriodd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r cais a dywedodd bod yr Adran Briffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r man pasio a adeiladwyd a’r trefniadau parcio newydd ac felly mae’r Awdurdod Cynllunio’n derbyn y cyngor proffesiynol hwn. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd John I Jones, Aelod Lleol, bod y maes parcio ar gyfer y datblygiad hwn y tu ôl i’r llety gwyliau yn y cais gwreiddiol er mwyn rhoi digon o le i gerbydau droi a gadael y safle ar y ffordd un trac. Roedd y man parcio gwreiddiol oddi mewn i ffin yr eiddo. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at Bolisïau Cynllunio mewn perthynas â’r cais hwn a chwestiynodd pam nad oedd polisi TWR 2 wedi cael ei ystyried mewn perthynas ag ansawdd y ddarpariaeth parcio ar y safle. Ystyriodd bod y cais diwygiedig a oedd gerbron y Pwyllgor yn anaddas gan fod cerbydau amaethyddol yn defnyddio’r ffordd gul un trac. Roedd y cais gwreiddiol yn cynnwys man diogel ar gyfer troi cerbydau er mwyn diogelu’r briffordd yn yr ardal hon.   Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod yr Awdurdod Cynllunio’n ddibynnol ar sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â materion diogelwch priffyrdd a pharcio a nodir yn yr adroddiad i’r Pwyllgor bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r cais diwygiedig. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John I Jones at leoliad y man pasio a grëwyd yn groes i’r cais gwreiddiol a’i fod wedi’i leoli oddeutu 50 metr oddi wrth y lleoliad gwreiddiol. Mae’r man pasio wedi’i leoli ar gornel ddall ac nid oes modd i gerbydau mawr weld a oes cerbydau’n dod o’r cyfeiriad arall. Roedd Amod (06) yn y cais gwreiddiol yn mynnu bod yr ymgeisydd yn darparu manylion ynglŷn ag adeiladwaith a lleoliad y man pasio cyn dechrau ar y gwaith.  Mae TAN 18 yn cyfeirio at welededd a nododd bod y man pasio wedi’i leoli ar ddarn mwy diogel o’r ffordd yn y cais gwreiddiol. Mewn ymateb i hyn dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Swyddogion Traffig a Pharcio mewn perthynas â’r man pasio a’r ddarpariaeth parcio ar y safle a daethpwyd i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth dros wrthwynebu’r cais a lleoliad y man pasio.

 

Dywedodd y Cynghorydd K Taylor bod yr ymgeisydd wedi anwybyddu’r gofyniad o ran lleoliad y man parcio a bod hyn yn groes i Amod (06).  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais gerbron y Pwyllgor yn gais ôl-weithredol mewn perthynas â lleoliad y man pasio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams bod ceisiadau ôl-weithredol yn dderbyniol o fewn y gyfraith cynllunio ond ei bod hi’n rhwystredig pan fydd ceisiadau o’r fath yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Cynigodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

Cynigodd y Cynghorydd John I Jones bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig dros wrthod y cais gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

Yn dilyn pleidlais roedd 6 o blaid gwrthod y cais a 4 o blaid cymeradwyo’r cais felly:-

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd pryderon ynghylch lleoliad y man pasio a’r trefniadau parcio ar y safle. 

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais).

 

7.2  HHP/2021/303 – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi swyddfa gartref/campfa yn ei lle ym Mhant y Bwlch, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ar ran Cyngor Cymuned Llanddona. Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar y 6ed o Ebrill 2022, penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol. Cynhaliwyd yr ymweliad ar 15 Mehefin, 2022.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, bod safle’r cais o fewn ardal sensitif a’i fod saith gwaith yn fwy na’r ystafell ardd bresennol. Nododd y bydd y cynnig yn newid edrychiad a chymeriad y morlin ac y byddai’n annedd gyda nifer o ffenestri a fyddai’n achosi llygredd golau mewn ardal awyr dywyll. Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai cymeradwyo’r cais hwn yn gosod cynsail a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried goblygiadau cymeradwyo cais o’r fath.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Ms Elenor Carpenter o Cadnant Planning o blaid y cais a dywedodd bod yr adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio fel ystafell ardd ac y byddai’r adeilad newydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion tebyg gan yr ymgeisydd sydd berchen ar ac sydd yn byw ym Mhant y Bwlch.  Mae gardd a chwrtil Pant y Bwlch yn ymestyn at tua 10 acer ac mae’r holl safle wedi ei lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. 

 

O ystyried ei leoliad sensitif o fewn y dirwedd, mae ystyriaeth fanwl wedi ei roi i’w ddyluniad a’r deunyddiau arfaethedig er mwyn sicrhau na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol ar y dirwedd ac yn weledol. Mae’r adeilad presennol sydd wedi ei wneud o bren bellach wedi dyddio ac wedi gweld dyddiau gwell ac felly bwriedir codi adeilad arall yn ei le. Derbynnir bod yr adeilad arfaethedig yn fwy na’r adeilad presennol ac mae hyn er mwyn cwrdd â gofynion yr ymgeisydd ar gyfer darparu swyddfa gartref ac ystafell ffitrwydd. Fodd bynnag, nid fyddai’r adeilad arfaethedig yn cynnwys y dec pren, sy’n sownd yn yr ystafell ardd bresennol. Mae’r deunyddiau arfaethedig yn adlewyrchu lleoliad gwledig y safle yn cynnwys cladin pren a ffenestri a drysau pren, ynghyd â tho sinc. Bydd ffenestri ar hyd drychiad blaen yr adeilad gyferbyn â Thraeth Coch ac er mwyn lleihau trosglwyddiad golau mae’r ymgeisydd yn fodlon derbyn amod rhif 3 a gynigwyd gan y swyddogion.  Bydd yr adeilad wedi’i leoli  2.5km o Draeth Coch. Mae’r adeilad, ynghyd ag annedd Pant y Bwlch, wedi’i leoli oddi mewn i Goedwig Pentraeth ac mae adeiladau yma ac acw ar hyd y llethr gyferbyn â Thraeth Coch a Thraeth Llanddona. Mae coed aeddfed uchel a llwyni Coedwig Pentraeth yn amgylchynu’r safle. Nid oes  gan Ymgynghorydd a swyddogion Tirwedd y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r cais ar sail effaith weledol.

 

 

Mae llwybr troed trwy ardd Pant y Bwlch a chynhaliwyd trafodaethau gyda’r Swyddog Hawliau Tramwy. Diwygiwyd  y cynnig i sicrhau nad fydd yr uned yn amharu ar y llwybr  troed fel y nodir yn nogfennau’r Cyngor.  Does dim gwrthwynebiad erbyn hyn o ran effaith y cynnig ar lwybrau cyhoeddus.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai’r prif ystyriaethau cynllunio yw dyluniad a maint y cynnig gan ei fod wedi’i leoli yn ardal arfordirol Llanddona/Coedwig Pentraeth ac o fewn yr AHNE. Codwyd pryderon ynghylch dyluniad y cynnig a p’un ai a fydd y newidiadau’n arwain at orddatblygu’r safle gan fod yr ystafell ardd arfaethedig yn fwy na’r ystafell ardd sydd ar y safle ar hyn o bryd.  Ystyrir bod y cynnig yn welliant ar yr ystafell ardd/sied bresennol sydd mewn cyflwr gwael iawn ar hyn o bryd. Ystyrir bod y dyluniad modern sydd yn cael ei gynnig a’r deunyddiau a ddewiswyd yn dderbyniol gan eu bod yn cyd-fynd â chymeriad datblygiadau newydd, modern o ansawdd uchel yn yr ardal.

 

Bydd y ffenestri hyn yn gorchuddio’r drychiad blaen cyfan o’r llawr i lefel isaf y to, a byddant tua 1.75m o uchder. Mae’r cynnig wedi ei leoli o fewn ardal awyr dywyll arbennig ar hyd arfordir Ynys Môn. Gosodir amod (03) i sicrhau bod y gwydr a ddefnyddir yn addas er mwyn amddiffyn yr awyr dywyll drwy atal llygredd golau ac atal unrhyw effaith weledol andwyol ar yr ardal gyfagos.  Bydd Amod (04) yn sicrhau bod yr ystafell ardd yn cael ei defnyddio fel ategiad i’r prif annedd yn unig. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn gweddu ac yn gwella cymeriad yr eiddo presennol, yn unol â Pholisi PCYFF3 ac AMG1 o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones bod ganddo bryderon am y datblygiad oherwydd ei leoliad oddi mewn i’r ardal arwyr dywyll a bod rhaid amddiffyn ardaloedd o’r fath.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts. 

 

Cynigodd y Cynghorydd R Ll Jones bod y cais yn cael ei wrthod.  Ni chafwyd eilydd i’r cynnig dros wrthod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  FPL/2021/61 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i 2 uned gwyliau, newid defnydd modurdy dwbl ar wahân i anecs ynghyd â datblygiadau cysylltiedig yn Nhyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6ed Ebrill 2022, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle’n rhithiol. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 15 Mehefin, 2022.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol,  ei fod yn gobeithio ei bod hi’n amlwg yn dilyn yr ymweliad safle bod y ffyrdd tuag at y safle hwn yn gul; a bod y ffyrdd yn yr ardal hefyd yn gul iawn. Nododd bod pryderon wedi cael eu codi’n lleol y byddai’r datblygiad yn cynyddu’r traffig sy’n teithio ar y ffyrdd hyn.   Roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno amlygu bod gan y safle ddwy fynedfa. Roedd o’r farn y byddai’r cynnig yn gorddatblygu’r safle ac nad yw’n gynaliadwy oherwydd ei bellter o’r safle bysiau agosaf ac at fwynderau lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer trosi’r adeilad allanol yn 2 uned gwyliau, ynghyd â throsi garej dwbl yn anecs.  Mae’r datblygiadau cysylltiedig yn cynnwys gwelliannau i’r fynedfa er mwyn sicrhau’r lleiniau gwelededd gofynnol a darparu man pasio. Dywedodd bod Polisi Cynllunio TWR 2 yn berthnasol yn achos y datblygiad hwn gan ei fod yn ymwneud â llety gwyliau. Mae’n datgan y bydd cynigion yn cael eu caniatáu cyn belled â’u bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, ac os gellir cwrdd â meini prawf perthnasol y polisi. Mae maen prawf (ii), yn nodi bod rhaid i raddfa’r datblygiad arfaethedig fod yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu’r anheddiad dan sylw.  Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd â maen prawf ii.  Mae maen prawf iv yn nodi na ddylai’r datblygiad gael ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl ardal.  Mae’r ardal sydd union gerllaw'r safle yn ardal breswyl yn bennaf ond, fodd bynnag, mae yna ysgol uwchradd a chanolfan hamdden yn y cyffiniau agos, felly nid ystyrir y byddai’r cynnig yn niweidio cymeriad preswyl yr ardal. Mae achos busnes wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais i asesu hyfywedd y cynllun. Bernir bod y cynllun busnes yn darparu digon o fanylion i fodloni maen prawf v yn y polisi. Ymhellach, mae adran 4.6 yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Llety a Chyfleusterau i Dwristiaid yn ceisio diffinio gorddarpariaeth ac mae paragraff 4.6.1 yn nodi y gall nifer neu grynodiad uchel o lety gwyliau mewn ardal benodol gael effaith andwyol ar wead cymdeithasol y cymunedau hynny.

 

Fodd bynnag, mae paragraff 4.6.5 yn datgan wrth asesu a oes gorddarpariaeth o lety gwyliau, dylid ystyried y canlynol - Ansawdd y llety gwyliau - Ni roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau ar gyfer llety gwyliau hunanwasanaeth pan fo cyfuniad o’r nifer presennol o lety gwyliau ac ail gartrefi o fewn ardal y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yn uwch na 15%. Dengys y data treth gyngor diweddaraf bod poblogaeth ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal cyngor cymuned Amlwch yn 8.64%. Felly, ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â darpariaethau maen prawf polisi TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiad strwythurol wedi’i gyflwyno gyda’r cais a bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon bod yr adroddiad strwythurol yn dangos bod yr adeilad presennol yn strwythurol gadarn a bod modd ei drosi heb orfod gwneud gwaith adeiladu sylweddol, yn unol â phwynt pharagraff 3.21 yn TAN 23 a’r canllawiau a gynhwysir yn y CCA. Ymgynghorwyd â’r Adran Briffyrdd ynghylch y bwriad sy’n cynnwys gwella’r fynedfa bresennol a darparu lle pasio newydd. Daethant i’r casgliad nad yw’r datblygiad, oherwydd ei faint, sef dwy uned wyliau un ystafell wely ac anecs, yn debygol o greu cynnydd sylweddol mewn traffig yn yr ardal. Yn ogystal, maent wedi nodi nad oes ffordd drwodd yn mynd heibio’r safle, ac felly nid yw’r traffig yn drwm a thraffig lleol ydyw yn bennaf. Maent yn fodlon hefyd y gellir sicrhau gwelededd digonol o’r fynedfa trwy wneud y gwelliannau arfaethedig i’r fynedfa sy’n cynnwys gostwng uchder y waliau terfyn i wella gwelededd a hefyd darparu’r lle pasio arfaethedig sy’n cael ei gynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones ei fod o’r farn y byddai’r ffordd i’r safle yn achosi problemau gan fod y ffordd yn gul ac y byddai’r cais yn achosi problemau traffig yn yr ardal pe byddai’n cael ei gymeradwyo.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi ymweld â’r safle ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad gan nad yw traffig yn debygol o gynyddu’n sylweddol yn yr ardal. Mae’r ymgeisydd yn cynnig darparu lle pasio a fydd yn fanteisiol yn y cyswllt hwn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol bod awgrym i leihau uchder y waliau terfyn, ac roedd yn dymuno nodi  bod nifer o dai yn agos iawn at y safle ac y byddai codi 4 tŷ ar y safle, pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gyfystyr â chodi ystâd fechan o dai.  Cwestiynodd a oedd y tir ar gyfer y lle pasio ym meddiant yr ymgeisydd. Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’n dymuno cadarnhau bod y cynnig ar gyfer codi 2 anecs ar y safle. Cyfeiriodd at y lle pasio ymhellach i lawr y ffordd o’r safle tuag at Bentrefelin a dywedodd bod yn fater i’w drafod rhwng yr ymgeisydd a pherchennog y tir. O safbwynt cynllunio, mae’r tystysgrifau cynllunio gofynnol wedi cael eu cyflwyno gyda’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Liz Wood ac Aelod Lleol bod problemau parcio ym Mhentrefelin a phroblemau pan fydd bysys ysgol yn defnyddio’r ffordd i Bentrefelin.

 

Cynigodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigodd y Cynghorydd R Ll Jones bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd y cynnig dros wrthod gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

Yn dilyn pleidlais roedd 9 o blaid cymeradwyo’r cais a 2 o blaid gwrthod y cais:-

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: