Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy

          FPL/2021/267

 

12.2  – FPL/2022/7 - Mornest Caravan Park, Pentre Berw

          FPL/2022/7

 

12.3  – FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

         FPL/2021/317

 

12.4– FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes

         FPL/2021/349

 

12.5  – FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Treaddur

          FPL/2022/63

 

12.6  – MAO/2022/11 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

         MAO/2022/11

 

12.7  – FPL/2022/65 - Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi

          FPL/2022/65

 

12.8  – FPL/2021/266 – Ffordd Garreglwyd, Caergybi

         FPL/2021/266

 

12.9  – VAR/2020/20 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni

          VAR/2022/20

 

12.10  – FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Trearddur

           FPL/2021/160

 

12.11  – TP/2022/8 – 12 Brig y Nant, Llangefni

            TPO/2022/8

 

12.12 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd

           OP/2021/10

 

12.13– FPL/2021/198 - Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

           FPL/2021/198

 

 

Cofnodion:

  FPL/2021/267 - Cais llawn ar gyfer codi llety gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alun Mummery, aelod lleol, am ymweliad safle gan fod y cais gwreiddiol wedi’i gyflwyno yn 2010.  Nododd bod pryderon wedi cael eu codi’n lleol am y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.2  FPL/2022/7 – Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau symudol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd llawn ym Mharc Carafanau Mornest, Pentre Berw

 

Bu i’r Cynghorydd Alwen Watkin ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â hi mewn perthynas â chais rhif 12.2.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Dafydd Roberts.  

 

Nododd y Cynghorydd Alwen Watkin, aelod lleol, y byddai’n fanteisiol pe byddai’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle gan fod yr adroddiad yn argymell gwrthod un elfen o’r cais a derbyn elfen arall ohono.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.3  FPL/2021/317 - Cais llawn i ddymchwel yr adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod, cyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Geraint Bebb a Ken Taylor am ymweliad safle gan fod pryderon ynglŷn â gorddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â pharcio a mynediad.

 

Bu i’r Cynghorydd Neville Evans, aelod lleol, hefyd ofyn am ymweliad safle oherwydd bod Cyngor Cymuned Llanfaelog wedi mynegi pryder ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.4  FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu 'menage' marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yng Nghaerau, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi am ymweliad safle oherwydd pryderon yn lleol y byddai’r cynllun yn arwain at orddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â diogelwch priffyrdd.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.5  FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y sied storio bresennol i fod yn giosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen ia, wafflau a diodydd meddal yn Ocean’s Edge, Lon Isallt, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y ciosg yn elfen israddol i'r bwyty presennol ar y safle. Bydd gan y ciosg arwynebedd llawr o 13m2 a ystyrir hyn yn fach iawn o ran graddfa. Oherwydd graddfa fechan yr uned, ni ystyrir y byddai'r busnes a gynhyrchir i'r fath raddau a fyddai'n niweidio siopau eraill y pentref yn sylweddol. Bydd y trefniadau mynediad yr un fath â’r trefniadau presennol ar gyfer Ocean’s Edge. Oherwydd hyn ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio a Pholisi MAN 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, aelod lleol, ei fod yn credu nad oes uned storio ar y safle ac felly nad oes adeilad i’w addasu’n giosg i werthu bwyd a diod.  Cyfeiriodd at y ffaith bod faniau gwerthu hufen iâ a byrgyrs ger y safle ac y gallai’r cais effeithio ar y busnesau hyn pe byddai’n cael ei ganiatáu.  Bydd y ciosg mewn safle amlwg o flaen Ocean’s Edge ym Mae Trearddur.  Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod defnydd tir yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod Cynllunio ond nad yw cystadleuaeth â busnesau eraill yn fater cynllunio. Nododd y gallai’r ymgeisydd werthu’r eitemau hyn o gyfleuster Ocean’s Edge yn barod a bod y cynnig ar gyfer creu ciosg bach ar y safle.

 

Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE a oedd trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â’r cais. Dywedodd bod problemau traffig ar y briffordd ger y safle ac y gallai’r cais achosi problemau pellach. Nododd bod gorsaf RNLI ger y safle ac y gallai hyn achosi problemau pan fydd angen lansio’r bad achub.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Cynllunio wedi ymgynghori â’r Awdurdod Priffyrdd ac nad oedd wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dafydd Roberts bod y cais yn cael ei wrthod gan ei fod o’r farn y byddai’r busnes yn effeithio busnesau eraill yn yr ardal. Eiliwyd y cynnig dros wrthod gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

Yn dilyn pleidlais roedd 6 o blaid cymeradwyo’r cais a 5 o blaid gwrthod y cais:-

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  MAO/2022/11 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/34 er mwyn diwygio tirlunio meddal yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

(Bu i’r Cynghorwyr Glyn Haynes a Ken Taylor ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â’r cais).

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol a , gadawodd y Cynghorydd Liz Wood y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan bod y tir ym meddiant yr awdurdod lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â diwygio’r cynllun tirlunio ar y safle.  Mae’n amlwg bod y gwaith ar y safle bron â’i gwblhau ac felly mae caniatâd eisoes wedi cael ei roi ar gyfer datblygu’r safle ac o ganlyniad mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli o dan gais cynllunio rhif  FPL/2019/341.  Ymgynghorwyd â’r arbenigwr tirlunio mewn perthynas â’r cais sydd o’r farn bod y sgrinio/coed presennol yn parhau i ddarparu sgrin ac wedi cael eu gwella ar hyd un drychiad.  Ystyrir felly bod y trefniadau arfaethedig yn cyd-fynd â pholisi  PCYFF yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae CDA Canllawiau Dylunio yn argymell pellteroedd rhwng yr unedau arfaethedig a’r unedau presennol.  Ystyriwyd yr effaith ar fwynderau’r anheddau gerllaw fel rhan o’r caniatâd gwreiddiol.   Oherwydd y pellteroedd rhwng yr anheddau ynghyd â’r mesurau lliniarol megis ffensys terfyn, ni ystyrir y bydd yr adeiladau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr adeiladau presennol o ganlyniad i’r newidiadau a gynigir. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones bryder bod y cynnig ar gyfer lleihau’r tirlunio a phlannu llai o goed ar y safle ac o’r herwydd dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig dros wrthod gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

Yn dilyn pleidlais roedd 7 o blaid gymeradwyo’r cais a 2 o blaid gwrthod y cais:-

 

         PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  FPL/2022/65 – Cais llawn i gadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis yn Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn rhan o drefniadau Brexit i sicrhau bod modd pentyrru cerbydau HGV yn ddiogel er mwyn mynd i’r afael â phryderon a godwyd yn lleol yn gysylltiedig â’r diffyg cyfleusterau parcio yn yr ardal yn dilyn cau safle Road King.  Mae’r cais yn ymdrin â materion a phryderon ehangach ac mae’r Swyddogion o’r farn y dylent gael eu hystyried gan Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig ar gyfer cadw’r ardal barcio i gerbydau HGV a gwaith yn gysylltiedig â hynny am gyfnod o 12 mis o ddyddiad y caniatâd. Mae’r cynnig yn gofyn am ganiatâd dros dro am gyfnod o 12 mis er mwyn rhoi digon amser i Lywodraeth Cymru sefydlu’r Safle Rheoli Ffiniau ym Mhlot 9, Parc Cybi, Caergybi.  Dewiswyd Plot 9 yn bennaf oherwydd ei fod mewn lleoliad strategol ac oherwydd bod y safle’n darparu mynediad hwylus i’r seilwaith presennol gerllaw. Bydd y cyfleuster yn lleoliad i bentyrru cerbydau HGV yn ddiogel er mwyn achosi cyn lleied o anhwylustod â phosib i bobl a busnesau lleol yn yr ardal. Aeth ymlaen i ddweud bod yr Awdurdod Cynllunio a Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n helaeth â’r ymgyngoreion statudol i wneud yn siŵr nad fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau lleol. Bydd y mesurau lliniaru arfaethedig yn sicrhau nad yw’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar dderbynyddion sensitif yn cynnwys mwynderau’r eiddo cyfagos a diogelwch y briffordd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, aelod lleol, bod problemau wedi bod yn lleol oherwydd bod cerbydau HGV wedi bod yn defnyddio cyfleusterau parcio archfarchnadoedd lleol. Mae hyn wedi effeithio ar fwynderau’r eiddo cyfagos o ganlyniad i lygredd golau a sŵn o systemau rhewgell y cerbydau HGV.   Nododd bod Llywodraeth Cymru a CThEM angen ystyried y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer gyrwyr cerbydau HGV gan fod y rhain wedi cael eu colli ers cau’r cyfleuster Road King ym Mharc Cybi.  

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ac aelod lleol, ei fod yn cytuno â sylwadau ei gyd-aelod lleol mewn perthynas â’r cais. Dywedodd bod angen glynu wrth yr amodau er mwyn sicrhau nad yw’r datblygiad yn effeithio ar fwynderau lleol yr eiddo cyfagos.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ken Taylor bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r argymhellion ac amodau yn adroddiad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cynnig gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8  FPL/2021/266 – Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio caled a meddal ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn lleol mewn perthynas â diogelwch y briffordd, gorddatblygu’r safle a’i effaith weledol ar yr ardal leol.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.9  VAR/2022/20 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (Symud adeilad ac adfer y tir i gyflwr blaenorol cyn 01/04/2022) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/220 ( Adeilad parod dros dro) er mwyn cadw'r adeilad ar y safle hyd at 31/01/2023 yng Nghanolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn,

         Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y tir sydd ym meddiant y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (01) (Symud adeilad oddi ar y safle ac adfer y tir i’w gyflwr blaenorol cyn 01/04/2022) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/220. Mae angen y caban symudol oherwydd y gwaith cynnal a chadw helaeth sydd angen ei wneud ar y to yng Nghanolfan Addysg y Bont. Fel trefniant wrth gefn, gosodwyd y caban symudol ar y tir dros dro er mwyn i ddisgyblion barhau i i gael mynediad at addysg trwy gyfrwng cymaint â phosib o addysg wyneb yn wyneb. Mae’r caniatâd blaenorol wedi dod i ben ers 1 Ebrill 2022; fodd bynnag mae’r gwaith helaeth ar y to yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae’r caniatâd cynllunio a gyflwynwyd yn gofyn am ymestyn y caniatâd dros dro tan 31 Ionawr, 2023.

 

Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Alwen Watkin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10  FPL/2021/160 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3) i fod yn Fusnes Tecawê Bwyd Poeth (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd ag addasiadau i adeilad a gwneud addasiadau i fynedfa i gerbydau ym Mryn Bela, Lôn Sant Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn ymwneud â thraffig a pharcio. Am y rhesymau hyn gofynnodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE am ymweliad safle. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.11  TPO/2022/8 - Cais i wneud gwaith ar goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir ger 12 Brig Y Nant, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y tir ym meddiant y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhif 12 Brig y Nant yn terfynu â choetir Nant y Pandy ac mae’r goeden sy’n destun y cais yn goeden onnen aeddfed sydd yn hongian drosodd i’r ardd gefn.  Gwaith bychan yw hwn ac mae’n golygu torri un gangen yn unig ar derfyn yr ardd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ken Taylor bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.12  OP/2021/10 - Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 10 annedd gyda mynediad cysylltiedig, ffordd fynediad fewnol a pharcio yn ogystal â manylion llawn y mynediad a gosodiad yn: Tir gerllaw Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, bu i’r Cynghorydd Llinos Medi, sydd ddim yn aelod o’r Pwyllgor, adael y cyfarfod)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn ymwneud â thraffig a llefydd parcio ychwanegol yng ngorsaf Llannerch-y-medd. Am y rhesymau hyn gofynnodd y Cynghorydd Jackie Lewis am ymweliad safle. 

 

 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd. 

 

12.13  FPL/2021/198 – Cais llawn ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llanerch-y-medd

 

Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan bod cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cysylltu ag o mewn perthynas â chais 12.3.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards, Cadnant Planning, o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl cael ei ystyried gan y Pwyllgor ym mis Medi.  Penderfynodd y cyn-bwyllgor y dylid trafod y cais yn dilyn 2 benderfyniad apêl ym mis Awst y llynedd.   Dwedodd bod yr ymgeisydd wedi prynu’r eiddo gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer trosi’r adeilad allanol yn annedd ac adeiladu garej newydd (fe’i cymeradwywyd yn wreiddiol ym mis Awst 2016, ac yna’r fersiwn diwygiedig ym mis Ionawr 2018). Roedd yr ymgeisydd yn tybio (fel y byddech) bod y caniatâd a roddwyd yn benderfyniad cadarn a bod y penderfyniad wedi cael eu hasesu’n drylwyr gan yr Awdurdod Cynllunio lleol a’i fod yn gywir cyn i benderfyniad gael ei wneud.  Fodd bynnag, daeth i’r amlwg bod y cynlluniau a’r Arolwg Strwythurol a gyflwynwyd gyda'r cais yn gwrth-ddweud ei gilydd.  O ganlyniad, mae’r ymgeisydd, heb yn wybod iddo,  wedi prynu eiddo â chaniatâd cynllunio na ellir ei weithredu. Y peth cyntaf a wnaeth yr ymgeisydd cyn ymgymryd â’r gwaith oedd cysylltu â’r swyddogion cynllunio i amlygu’r problemau  a’r anawsterau. Aeth y trafodaethau ymlaen am nifer o fisoedd. Oherwydd bod yr Awdurdod wedi methu â rhoi sylw dyledus i oblygiadau’r argymhellion yn yr Arolwg Strwythurol mae’r caniatâd a roddwyd yn amwys ac yn agored i’w ddehongli. Mae’r ymgeisydd wedi buddsoddi amser ac arian yma, a nawr mae wedi ystyried ffordd ymlaen i osgoi colled ariannol sylweddol o ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w reolaeth.  Mae’r cais ger eich bron ar gyfer uned wyliau newydd. Mae’r Cyngor wedi  mynegi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y safle; fodd bynnag, mae bythynnod gwyliau gyferbyn â’r safle eisoes. Felly pam bod y safle yma’n anghynaladwy? Beth ydi’r gwahaniaeth? Mae’r Swyddogion wedi diystyru dwy apêl ym Mryndu a Bodorgan, gan eu bod yn addasiadau yn hytrach nag unedau gwyliau newydd. Fodd bynnag, mae rhesymau’r Cyngor dros wrthod, a’r hyn sy’n sail i benderfyniad yr archwilydd, yn ymwneud yn benodol â chynaliadwyedd y lleoliadau. Felly, mae modd eu cymharu â Bryn Gollen. Bu achosion tebyg yn y gorffennol, megis cais ym mis Hydref 2018 i adeiladu uned wyliau newydd yn Nhai Hirion, Rhoscefnhir. Cymeradwywyd y cais hwn gan y Cyngor ac ystyrir bod y sefyllfa union yr un fath ym Mryn Gollen. Gofynnodd i aelodau’r Pwyllgor ystyried y cefndir helaeth sydd wedi arwain at  y cais presennol ac roedd yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi ymgais yr ymgeisydd i ddod o hyd i ddefnydd addas o’r safle y gellir ei gefnogi o dan bolisi TWR 2 yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ar y prif ystyriaethau mewn perthynas â’r cais sydd ar gael yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog. Rhoddwyd caniatâd cynllunio cyfeirnod 25C259B/VAR ar gyfer trosi adeilad yn annedd ar y safle. Ar ôl derbyn cwyn a chynnal ymchwiliad, rhoddwyd hysbysiad gorfodaeth cynllunio ym mis Ionawr 2020 yn honni bod yr adeilad a oedd i’w drosi wedi cael ei ddymchwel a bod adeilad newydd yn cael ei godi.  Apeliwyd yn erbyn yr hysbysiad gorfodaeth, ac, heblaw am ymestyn y cyfnod cydymffurfio, gwrthodwyd yr apêl gan yr Arolygydd Cynllunio. Daeth yr Arolygydd Cynllunio i’r casgliad fod y caniatâd a roddwyd ar gyfer trosi’r adeilad gyda’r mymryn lleiaf o waith adeiladu o’r newydd, ond bod y strwythur ar y safle yn adeilad cwbl newydd na roddwyd caniatâd iddo. Cyflwynwyd cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 7 Gorffennaf, 2021 ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â’r gwaith i adeiladu uned wyliau newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar fir ger Bryn Gollen Newydd, Llannerch-y-medd fodd bynnag, cafodd y cais ei wrthod.  Roedd y cynnig ar gyfer adeiladu uned wyliau newydd mewn cefn gwlad agored. Mae’r cynnig yn groes i bolisïau TWR 2, PCYFF 1 a PCYFF 2 yn y Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd.  Nid yw’r safle wedi’i leoli mewn lleoliad cynaliadwy a byddai’r cynnig yn ddibynnol iawn ar gludiant preifat. Mae’r cynnig felly’n gores â Pholisi PS4, PS5, TWR 2 a TAN 18.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ken Taylor bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig dros wrthod gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: