Eitem Rhaglen

Costau Byw – Cynllun Dewisol

Cyflwyno adoddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i alluogi cymorth dan gynllun dewisol, er mwyn helpu aelwydydd yr ystyrir bod angen cymorth arnynt gyda'u costau byw. Bwriad y cynlluniau yw rhoi cymorth ar unwaith i aelwydydd wrth i Gymru wella ar ôl y pandemig ac ymdrin ag effaith ynni cynyddol a chostau byw eraill. Wrth ddatblygu’r Cynllun Dewisol lleol, mae gan bob awdurdod lleol rwydd hynt i dargedu’r arian i gynorthwyo ei drigolion yn y ffordd orau ac i sicrhau bod ei ddull yn gweddu orau i anghenion aelwydydd unigol. Mae’r cynlluniau fel a ganlyn:-

 

Y Prif Gynllun bydd tua 23,000 o aelwydydd Ynys Môn yn derbyn taliad o £150 os ydynt ym Mandiau Treth Cyngor A i D, ynghyd ag unrhyw aelwydydd sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor sy’n byw mewn eiddo ym mandiau E i I. Mae hyn tua 75% i 80% o aelwydydd.

 

Cynllun Dewisol Awdurdodau Lleol –Mae tua £580,000 ar gael i'r Cyngor ei weinyddu ar sail angen a galw lleol, er mwyn cefnogi aelwydydd y mae’r cynnydd sylweddol mewn costau byw yn cael effaith arnynt.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at sut y bydd yr Awdurdod yn dosbarthu cyllid y ddau gynllun, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dymunodd Arweinydd y Cyngor ddiolch i'r rhai a weithiodd ar y cyd i ddosbarthu’r cyllid hwn fydd yn helpu pobl yn y sefyllfa heriol a wynebir ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

 

PENDERFYNWYD:- 

·           Cymeradwyo rhoi £150 i’r grwpiau a nodir yn adran 2.1.1 yr adroddiad, a bod cyllideb gwerth £150,000 yn cael ei gweinyddu gan  Adain Refeniw a Budd-daliadau Cyngor Sir Ynys Môn;

·           Cymeradwyo cyllid caledi i drigolion sy’n symud o lety brys i lety sefydlog:-

Hyd at £300 o gyllid i dalu am gostau bwyd a / neu danwydd wrth symud i lety mwy sefydlog. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau tanwydd uniongyrchol megis olew. At hyn, gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer costau dodrefnu. Bydd y cyllid o £50,000 yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol yn seiliedig ar anghenion sydd wedi’u hasesu.’

·           Cymeradwyo £150 ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch ac sy’n rhentu neu’n berchen ar lety ar yr Ynys ac sydd wedi’u heithrio o gam un:-

·         Rhoi £5,000 i Grŵp Llandrillo Menai i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod;

 Rhoi £5,000 i Brifysgol Bangor i weinyddu ar gyfer y grŵp uchod.

·           Cymeradwyo’r isod ar gyfer ail gam y cynllun costau byw ar gyfer trigolion Ynys Môn sy’n gyn-aelodau o’r lluoedd arfog / cyn-filwyr ac sydd mewn caledi ariannol. Bydd y taliad o hyd at £300 i bob aelwyd sy’n wynebu caledi yn seiliedig ar anghenion sydd wedi’u hasesu:-

Rhoi £10,000 i Leng Brydeinig Ynys Môn a SAFFA i gefnogi cyn-filwyr sy’n wynebu caledi

·           Cymeradwyo’r grwpiau a ganlyn ar gyfer trigolion Ynys Môn sydd mewn caledi ariannol ac nad ydynt yn cael cyllid caledi ychwanegol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol. Fe all y cyllid fod tuag at gostau bwyd a thanwydd.

·        Bydd yr agwedd hon yn gefn i drigolion sydd yn wynebu tlodi er eu bod mewn gwaith. Bydd y taliad hwn o hyd at £300 yn seiliedig ar anghenion sydd wedi’u hasesu a byddai modd iddo gael ei ariannu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (Canolfan J E O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·         Bydd yr agwedd hon yn cynnwys pob math o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a bydd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o galedi. 100,000 i’w weinyddu gan ein Huned Hawliau Lles mewnol (Canolfan J E O’Toole), ein Tîm Cynhwysiant Ariannol a CAB Ynys Môn.

·      Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 i gynyddu cyllidebau sefydliadau sy’n dangos yr angen a’r galw, a hynny’n seiliedig ar achos busnes derbyniol.

 

Dogfennau ategol: