Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - Strategaeth yr Archwilwyr Mewnol 2022/2023.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg fod Safonau Archwilwyr Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pennaeth Archwilio a Risg sefydlu strategaeth yn seiliedig ar risg i bennu blaenoriaethau gwaith yr archwilwyr mewnol, sy’n gyson â nodau’r Cyngor. Wrth flaenoriaethu'r adnoddau cyfyngedig, mae angen gwneud digon o waith i’r Pennaeth Archwilio a Risg allu cyflwyno barn yr archwiliwyr mewnol blynyddol i'r Cyngor er mwyn llywio ei Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Defnyddir y Gofrestr Risg Strategol i bennu'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith yr archwiliwyr mewnol ac, yn ogystal, cynhelir trafodaethau gyda'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth a Phenaethiaid Gwasanaeth i drafod eu barn ar y meysydd arfaethedig i'w hadolygu a'u meysydd pryder. Byddir yn adolygu’r blaenoriaethau yn ôl yr angen, eu haddasu mewn ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithrediadau a rhaglenni’r Cyngor i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol. Er mwyn sicrhau bod yr Archwilwyr Mewnol yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'r Cyngor, mae mwyafrif y gwaith yn canolbwyntio ar adolygu'r risgiau coch ac ambr gweddilliol ar y gofrestr risg strategol. Ar hyn o bryd, mae'r gofrestr risg strategol yn cynnwys pum risg lle mae'r Cyngor wedi asesu'r risg gynhenid a gweddilliol yn goch fel y gwelir yn yr adroddiad. Wedi defnyddio holl alluoedd technegol TG, mae Archwilwyr TG Cyngor Dinas Salford wedi'u comisiynu i gynnal rhaglen waith i roi sicrwydd i'r Cyngor bod ei wendidau TG yn cael eu rheoli'n effeithiol. Yn ystod 2021/22, ar wahân i gefnogi Llywodraeth Cymru gyda’i Menter Twyll Genedlaethol, cynnal ymchwiliadau adweithiol a chynnal adolygiad o dwyll a llygredd ym maes caffael, lleihawyd y rhaglen atal twyll oherwydd problemau gyda chapasiti. Ymhlith y cynlluniau roedd darparu hyfforddiant a phecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth a nodi’n rhagweithiol dwyll yn y sefydliad. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg ymhellach at y gwaith adolygu Gweinyddu Pensiynau Athrawon a gafwyd yn sgil cwynion am fylchau yng nghofnodion gwasanaeth pensiynadwy rhai athrawon a drafodwyd, yn fanwl, yn yr eitem flaenorol. Nododd y penderfynwyd archwilio gweinyddiaeth Cynllun Pensiynau Llywodraeth Leol hefyd.
Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at y 'Cronfeydd Ysgol Answyddogol' sydd yn gronfeydd y tu allan i gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion ac mae'r Archwiliwyr Mewnol yn parhau i gefnogi'r
Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i roi sicrwydd y cyfrifir yn briodol am incwm a gwariant o fewn ysgolion answyddogol a bod y trefniadau llywodraethu’n briodol. Bydd hyn yn cynnwys adborth a rhagor o hyfforddiant i Benaethiaid, ac yn sicrhau ansawdd tystysgrifau archwilio cronfeydd ysgol.
Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai rheolaeth ariannol mewn Ysgolion yn elwa o gael ei adolygu’n agosach. Parhau i fonitro'r system credydwyr i ddadansoddi data mewn perthynas â thaliadau dyblyg a thwyll. Ychwanegodd y byddai Gwaith Heb ei Wneud ers 2021/2022 yn cael ei wneud mewn perthynas â: Treth y Cyngor ac Addaliadau Trethi Annomestig; Archwiliadau Diogelwch Nwy; Cyllid Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chyllid Grant. Pwysleisiodd mai'r Gofrestr Risg Strategol yw blaenoriaeth Archwiliwyr Mewnol a chyfeiriodd at Atodiad A yr adroddiad sy'n amlygu'r Risgiau Gweddilliol Coch ac Oren.
Cyfeiriodd ymhellach at y Mesurau Perfformiad sy'n anos eu monitro wrth ddefnyddio archwiliwyr mewnol ar sail risg sy'n ymwneud â monitro cynnydd yn erbyn cynllun sy'n newid yn gyson. Mae Rhaglen Sicrhau Ansawdd a Gwella wedi'i rhoi ar waith i sicrhau bod y gwasanaeth archwilio mewnol yn gwella’n barhaus. Mabwysiadwyd cyfres lai a symlach o fesurau perfformiad i bennu effeithiolrwydd y gwaith a ddangoswyd yn Nhabl ar Dudalen 15 yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch ystyr Cadernid Ariannol yn y Cyngor ac yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn prisiau ynni a deunyddiau, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod Archwilwyr Mewnol wedi gwneud gwaith i feincnodi Cod Ymarfer Ariannol CIPFA yn 2019/2020. Mae gan y cod hwn chwe egwyddor y mae'n rhaid i'r Cyngor gydymffurfio â nhw. Nododd mai’r cwestiwn allweddol ar gyfer yr archwiliwyr o ran Cadernid Ariannol yn y Cyngor fydd ‘a oes gan y Cyngor drefniadau digonol ar waith i reoli’r goblygiadau o ran gostyngiadau mewn cyllid mewn termau real i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei flaenoriaethau ac yn rhoi gwasanaethau o safon' a dyma fydd canolbwynt y gwaith gyda'r Adran Gyllid. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai canolbwynt y gwaith ar gyfer Archwiliwyr Mewnol fydd sut y bydd y Cyngor yn blaengynllunio ar gyfer y dyfodol. Dywedodd fod asesu anghenion y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn anrhagweladwy, yn enwedig felly gyda'r cynnydd mewn chwyddiant.
PENDERFYNWYD:- bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystyried bod y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2022/2023 yn bodloni anghenion sicrwydd y Cyngor.
Dogfennau ategol: