Derbyn diweddariad gan Aelodau’r CYSAG a fynychodd y cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022.
Cofnodion:
Derbyniwyd diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas yn dilyn cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022.
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-
• Cynhaliwyd cyfarfod CCYSAGauC yn Sir y Fflint a thrafodwyd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac ati.
• Cafwyd cyflwyniad ar bartneriaethau a modiwlau gan Dr Tania ap Sion.
• Rhoddodd Kevin Parker ddiweddariad ar gydweithio ar restrau chwarae – bydd y 4 modiwl cyntaf ar gael o fis Medi.
• Mynegwyd pryder fod geiriau fel “rhestr chwarae” yn newydd yn y cwricwlwm ac nad yw pawb yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig aelodau etholedig newydd sy’n aelodau o’r CYSAG.
• Wrth adlewyrchu ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ym mis Mawrth – codwyd y broblem o gynnal cyfarfodydd dwyieithog ar Microsoft Teams. Gobeithir y bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailgychwyn yn y dyfodol, er mwyn dod â’r 22 awdurdod lleol ynghyd.
• Cynhelir cyfarfod nesaf CCYSAGauC yn Sir Gaerfyrddin yn yr Hydref.
• Mae CYSAG Cymru wedi awgrymu newidiadau i wefan Hwb ond bydd rhaid i’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru eu cadarnhau. Sefydlir Panel Hwb i adolygu adnoddau ar gyfer y wefan – anfonir copi o’r adnoddau at CCYSAGauC maes o law. Bydd angen i’r Panel sicrhau fod yr holl ddeunydd ar Hwb yn cyd-fynd â syniadau newydd, neu gallai’r cynnwys gael ei dynnu oddi ar y wefan. Nodwyd fod un ymgynghoriaeth yng Nghymru yn credu nad yw Hwb yn cydymffurfio â gofynion y cwricwlwm newydd gan fod y wefan yn cynnwys gormod o fanylion a’i fod yn awgrymu beth ddylai athrawon ei wneud, sydd yn groes i egwyddorion sylfaenol y cwricwlwm newydd, sef fod ysgolion yn penderfynu ar eu cynlluniau gwaith eu hunain.
• Derbyniwyd cyflwyniad gan Jennifer Harding Richards ar ran NAPFRE ar y bartneriaeth Consortiwm. Nodwyd fod Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Nedd Port Talbot wedi dod at ei gilydd i ariannu Ymgynghorydd llawn amser i gefnogi’r CYSAGau.
Rhannodd Mr Chris Thomas ei bryderon am y cynnydd yn nifer y CYSAGau mewn rhannau o Gymru sy’n cydweithio i dalu ymgynghorydd annibynnol am eu harbenigedd. Dywedodd nad oes cyfle cyfartal i bob CYSAG dderbyn y cymorth y mae angen dybryd amdano.
Cyfeiriodd Mr Thomas at Gyfarfod Blynyddol CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022, a chododd y pwyntiau a ganlyn:-
• Gwnaed mân newidiadau i Gyfansoddiad CCYSAGauC, a dderbyniwyd gan y CYSAGau.
• Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol nesaf yn Sir Ddinbych ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
• Gofynnwyd i CYSAG Ynys Môn gymeradwyo Tanysgrifiad Blynyddol CCYSAGauC o £480, sef tâl aelodaeth y Pwyllgor, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Trysorydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r taliad o £480, sef Tanysgrifiad Blynyddol y CYSAG i fod yn aelod o CCYSAGauC.
Mewn perthynas â Phwyllgor Gwaith CCYSAGauC, nodwyd fod Dr Tania ap Sion wedi’i phenodi’n Gadeirydd a Mr Edward Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Nodwyd mai dim ond 12 CYSAG ledled Cymru a bleidleisiodd ar aelodaeth y Pwyllgor Gwaith, a bod hyn yn siomedig iawn.
PENDERFYNWYD bod yr Ymgynghorydd AG yn gwahodd Mr Phil Lord i roi trosolwg o’r adnoddau fydd ar gael ar Hwb yn y dyfodol.