Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft 2021/22

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a ymgorfforai’r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cyfrifon drafft wedi'u llofnodi’r 16eg o Fehefin, 2022 a'u bod bellach yn cael eu harchwilio. Amlygodd y gallai gwaith ychwanegol mewn cysylltiad â chadarnhau pris asedau’r Cyngor yn y fantolen olygu bod y broses archwilio’n cymryd mwy o amser i’w chwblhau. Cododd y mater yn ystod archwiliadau yn Lloegr y flwyddyn flaenorol ac mae wedi'i godi gyda phob cyngor gan Archwilio Cymru. Eglurodd y Swyddog Adran 151 fod Archwilio Cymru yn ceisio sicrwydd nad yw effaith newidiadau i werth cyfredol asedau yn gyfystyr â newid sylweddol yn y ffigur y darperir ar ei gyfer yn y cyfrifon. Er na ofynnir i gynghorau ailbrisio eu hasedau, mae'r hyn y mae'n ei olygu, o ran y gofyn ar gynghorau, wedi bod yn destun trafodaeth rhwng Archwilio Cymru a CIPFA. Mae’r Cyngor wedi gofyn i’w Brif Swyddog Prisio wneud rhagor o waith mewn perthynas â phrisio asedau’r Cyngor a allai arwain at oedi wrth gwblhau’r archwiliad.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yr isod -

 

·         Mae’r Datganiad Cyfrifon yn cynnwys y datganiadau ariannol craidd a restrir ar dudalen gyntaf y cyfrifon. Rhagflaenir y rhain gan yr Adroddiad Naratif sy’n rhan allweddol o’r cyfrifon ac sy’n rhoi arweiniad effeithiol i’r materion mwyaf arwyddocaol yr adroddwyd arnynt yn y cyfrifon, gan gynnwys blaenoriaethau a strategaethau’r Cyngor a’r prif risgiau y mae’n eu hwynebu. Mae'r adroddiad naratif yn rhoi sylwebaeth ar sut mae'r Cyngor wedi defnyddio ei adnoddau yn ystod y flwyddyn i gyflawni ei amcanion datganedig.

·         Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft yn dangos cost darparu gwasanaethau yn y flwyddyn, yn unol â gofynion cyfrifyddu statudol ac mae'n cynnwys Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'n cynnwys addasiadau cyfrifyddu megis dibrisiant a newidiadau pensiynau, nad ydynt yn cael eu hariannu gan dalwyr Treth y Cyngor, felly, mae effaith y rhain wedi'u heithrio yn y nodyn a elwir yn Addasiadau rhwng Sail Gyfrifo a Sail Ariannu (Nodyn 7 yn y Datganiad Cyfrifon). Mae’r nodyn hwn ar gyfer 2021/22 yn dangos £11.852m o addasiadau cyfrifyddu sy’n cael eu canslo yn y Datganiad Symudiad mewn Cronfeydd. Golyga hyn y caiff gwir effaith ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai o ddarparu gwasanaethau ei leihau, o warged o £5.940m i warged o £17.792m, sy'n gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor. Mae hyn i’w briodoli i danwariant ar Gronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a throsglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

·         Balans yr holl gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ar 31 Mawrth, 2022 oedd £57.772m, cynnydd o £17.792m. Mae Cronfa Wrth Gefn y Cyfrif Reveniw Tai, Balansau Ysgolion a Chronfeydd Derbyniadau Cyfalaf Wrth Gefn wedi'u neilltuo a dim ond at y diben dynodedig y gellir eu defnyddio. Mae Tabl 1 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r symudiadau yn y cronfeydd wrth gefn oherwydd perfformiad ariannol y flwyddyn a symudiadau net i mewn i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt. Yr hyn y mae Tabl 2 yn ei wneud yw crynhoi'r symudiadau yn y cronfeydd wrth gefn gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Datganiad Cyfrifon. Er bod y ffordd y cyflwynir y wybodaeth yn wahanol, mae'r ddau yn arwain at yr un balans wrth gefn.

·         £12.050m oedd y Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn ar 31 Mawrth, 2022, sy'n cyfateb i 8.2% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Roedd perfformiad ariannol y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn dangos tanwariant net o £4.798m oherwydd derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig a darparu nifer gyfyngedig o wasanaethau i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw.

·         Cynyddodd asedau net cyffredinol drafft y Cyngor o £164.162m ar 31 Mawrth, 2021 i £247.577m ar 31 Mawrth, 2022. Y rheswm dros hyn yw buddsoddi mewn asedau newydd ac adnewyddu asedau presennol; ailbrisio asedau eraill y Cyngor a chynyddu asedau cyfredol megis arian parod, asedau sydd cyfwerth ag arian parod a buddsoddiadau tymor byr. Yn ogystal, gostyngodd rhwymedigaethau’r Cyngor a’r mwyaf arwyddocaol oedd gostyngiad o £55m ym mhrisiad y rhwymedigaeth bensiwn oherwydd perfformiad gwell na’r disgwyl gan asedau’r gronfa bensiwn a newid yn rhagdybiaethau’r actiwari o ganlyniad i gyfraddau llog cynyddol. Mae'r Cyngor yn rhan o Gronfa Bensiwn Gwynedd a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a thrafodwyd y materion a ganlyn –

 

·         Y cynnydd ym malansau ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod balansau ysgolion wedi’u cryfhau gan gyllid grant Llywodraeth Cymru, a rhan ohono oedd helpu ysgolion i ddelio ag effaith barhaus y pandemig. Bwriad y rhan arall ohono oedd helpu disgyblion i ddal i fyny â’r dysgu yr oeddynt wedi’i golli yn ystod y pandemig. Caiff y cyllid ei fonitro gan Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i ysgolion adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar sut y defnyddiant y cyllid.

 

·         Prisiad asedau eiddo’r Cyngor nad yw’n cynnwys rhwydwaith priffyrdd y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod prisiwr mewnol y Cyngor yn cynnal prisiad yn unol â gofynion Cod CIPFA. Yn hanesyddol, roedd asedau gwerth dros £500k yn cael eu prisio’n flynyddol a’r gweddill, gan gynnwys stoc tai’r Cyngor, yn cael eu prisio ar sail gylchol. Caiff stoc tai’r Cyngor, sef elfen fwyaf portffolio eiddo’r Cyngor, ei brisio ar sail wahanol oherwydd bod tenantiaid yn yr eiddo ar hyn o bryd. Cânt eu prisio ar werth y farchnad a'u disgowntio i adlewyrchu'r ffaith na fyddai'r Cyngor yn gallu eu gwerthu am werth y farchnad. Mae gwaith prisio stoc tai’r Cyngor i fod i gael ei gynnal y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei wneud drwy edrych ar  sampl o eiddo o wahanol gategorïau o anheddau. Caiff y prisiad hefyd ei lywio gan yr arolwg cyflwr stoc a gynhelir i sicrhau y cynhelir stoc tai’r Cyngor i Safonau Ansawdd Tai Cymru. Er y bu trafodaeth yn flaenorol ynghylch cynnwys priffyrdd wrth brisio asedau yn y cyfrifon, mae'r her ynghylch rhoi union werth ar seilwaith priffyrdd wedi golygu nad yw hyn wedi digwydd eto.

 

·         Y rhwymedigaethau ar y Gronfa Bensiwn a'i heffaith ar y cyfrifon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyfanswm y rhwymedigaeth net ar Gronfa Bensiwn y Cyngor wedi gostwng £55m yn 2021/22 o £178.2m yn 2020/21 i £121.2 yn 2021/22. Gall y rhwymedigaeth pensiwn amrywio’n sylweddol o un flwyddyn i’r llall gan ddibynnu ar newidiadau yn y tybiaethau a ddefnyddir gan gynnwys y cyfraddau disgownt a pherfformiad asedau’r gronfa bensiwn. Er bod y rhwymedigaeth pensiwn, fel y’i dangosir yn y cyfrifon, yn cael effaith ar werth net y Cyngor, fel y'i cofnodir yn y Fantolen, ceir trefniadau statudol i ariannu'r diffyg er mwyn sicrhau bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn parhau'n iach. Mae'r rhwymedigaeth yn annhebygol o gael ei gwireddu tra bydd y cynllun yn parhau ar agor ac mae aelodau'n parhau i wneud cyfraniadau i'r cynllun. Prisiad mwy arwyddocaol o safbwynt y Cyngor yw prisiad teirblwydd yr Actiwari o’r gronfa bensiwn at ddiben pennu cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr am y tair blynedd nesaf, sy’n seiliedig ar dybiaethau gwahanol. Mae gan y Cyngor strategaeth gydag actiwari’r cynllun i gyflawni lefel ariannu o 100% dros yr 20 mlynedd nesaf. Caiff lefelau ariannu eu monitro'n flynyddol.

 

·         Y tanwariant ar gyllidebau refeniw a chyfalaf y Cyngor a’r goblygiadau o ran rheolaeth cyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn ogystal â chael setliad gwell na’r disgwyl ar gyfer 2021/22, fod y dyraniad gan Lywodraeth Cymru wedi newid yn ystod y flwyddyn pan gyflwynwyd cyllid ychwanegol o £1.389m yn hwyr yn y flwyddyn ym mis Mawrth drwy'r Grant Setliad Refeniw. Rhoddwyd cyllid, hefyd, i dalu costau parhaus yn ymwneud â Covid a cholledion incwm ac yn ogystal, derbyniwyd nifer sylweddol o grantiau eraill yn hwyr yn y flwyddyn ariannol oedd yn cynnwys grantiau gwastraff a grantiau pwysau gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw’r tanwariant o £4.798m ar y gyllideb refeniw yn adlewyrchu’n gywir sefyllfa rhai o wasanaethau’r Cyngor gan nad oedd rhai gwasanaethau wedi agor yn llawn tan hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ac ni wnaethant ddefnydd llawn o’r grantiau a gyflwynwyd. Mae’r galw am gymorth yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol Oedolion a Phlant bellach ar gynnydd a’r disgwyl yw y bydd yn parhau i dyfu. Mae hyn, ynghyd â chost gynyddol lleoliadau, yn ei gwneud yn debygol y bydd y gwasanaethau hynny'n gorwario eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r gwarged ar gyllideb refeniw 2021/22 y Cyngor wedi cryfhau balansau cyffredinol y Cyngor, sy’n ei roi mewn sefyllfa ariannol gref i allu delio â’r galw ychwanegol ar wasanaethau a heriau eraill yn y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf.

 

·         O ran y gyllideb gyfalaf, efallai y bydd rhagamcanion y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn rhy optimistaidd yn enwedig o ran tai cyngor a datblygiadau tai newydd ac efallai y bydd achos dros adolygu Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Fodd bynnag, mae blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22 wedi bod yn eithriadol o ran yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar wasanaethau’r Cyngor ac ar gynnydd prosiectau cyfalaf sy’n ei gwneud yn heriol cyflawni prosiectau ar amser. Mae costau cynyddol ac amser adeiladwyr a sicrhau bod deunyddiau ar gael yn heriau newydd o ran gwariant cyfalaf.

 

·         Yr her y mae derbyn cyllid hwyr yn ogystal â'r sefyllfa economaidd yn ei gosod ar gyfer cynllunio a rhagweld y gyllideb. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cynnydd presennol mewn tâl a phrisiau yn creu ansicrwydd ynghylch costau’r Cyngor yn 2022/23 a lefel y gyllideb sydd ei hangen yn 2023/24. Fodd bynnag, bydd y balansau uwch yn helpu'r Cyngor i liniaru'r risgiau hynny yn 2022/23 ac wedi hynny. Fel hyn, bydd modd i’r Cyngor brynu amser i ailfodelu gwasanaethau a lleihau costau.

 

·         Cywiriadau, sef rhoi’r gair “cynyddu” yn lle’r gair “gostwng” ym mharagraff 3.3, tudalen 75 yn Atodiad 1, a rhoi £5.94m yn lle “£8.143m” yn y naratif rhwng y ddau dabl ar dudalen 84.

 

·         Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw faterion wedi'u codi hyd yma gan yr archwilwyr o ran ansawdd y papurau gwaith a gyflwynwyd. Mae'r Datganiad Cyfrifon yn parhau i gael ei adolygu er mwyn cael gwared ag unrhyw flerwch diangen, yn unol ag argymhellion a wnaed gan yr archwilwyr.

Ar ôl adolygu’r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2021/22, penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi’r datganiadau ariannol drafft ar gyfer 2021/22 nad ydynt wedi’u harchwilio.

 

Dogfennau ategol: