Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i’w gymeradwyo’n gan yr Aelod Portffolio i’w gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn gwerthuso cydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau’r Gymraeg yn 2021/22 ac yn dogfennu’r ffyrdd y mae’r Cyngor wedi hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn gan sicrhau nad yw’r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad yn absenoldeb yr Aelod Portffolio, dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, er gwaethaf yr angen parhaus i ymateb i heriau’r pandemig Covid-19 a oedd yn gorfodi’r Awdurdod i addasu ei arferion gwaith arferol i ymateb yn gyflym i’r heriau eithriadol, ni chafodd safon uchel ei gwasanaethau Cymraeg ei heffeithio diolch i raddau helaeth i swyddogion yr Awdurdod. Siaradodd am ddatblygiad parhaus sgiliau iaith Gymraeg gweithlu’r Cyngor gyda dros 90% o swyddogion yn gallu defnyddio’r Gymraeg a chyfeiriodd hefyd at ddatblygiad a defnydd technoleg i hybu a hwyluso defnydd o’r iaith ar adeg pan fo cyfleoedd i ddosbarthu deunyddiau hyrwyddo yn brin. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, lansiwyd adran newydd o'r wefan yn ymwneud â'r Gymraeg yn ogystal â mabwysiadu enw parth newydd; mae'r meicrowefan hon yn dod â chyfoeth o wybodaeth ac adnoddau am yr iaith at ei gilydd. I gloi, roedd yn bleser gallu adrodd ar faes cyffrous o fusnes y Cyngor lle mae cynnydd yn cael ei yrru gan awydd diffuant i weld y Gymraeg a’i defnydd o fewn y Cyngor yn datblygu ac yn ffynnu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod dyletswydd ar yr Awdurdod i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Awdurdod yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn credu bod gwneud hynny'n bwysig ac oherwydd ei fod yn gweld dwyieithrwydd yn rhan annatod o'i waith. Mae hefyd yn bwysig bod y Cyngor yn adlewyrchu’r ffaith bod dros hanner poblogaeth yr Ynys yn siarad Cymraeg. Mae'r Cyngor yn croesawu dwyieithrwydd ac yn ymdrechu i ailadrodd hyn yn ei holl gyfathrebu ysgrifenedig a llafar gyda'r cyhoedd. Mae hefyd yn ystyried dwyieithrwydd yn gryfder arbennig ac yn agwedd ar gyflwyno gwasanaeth y mae'n ceisio ei datblygu. O ran llwyddiannau nodedig, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y buddsoddiad y mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y tair blynedd diwethaf mewn offer ffitrwydd dwyieithog yn ei ganolfannau hamdden a hefyd at rôl Fforwm yr Iaith Gymraeg wrth ddod â phartneriaid ynghyd mewn maes lle mae cydweithio yn hanfodol. Yr her wrth symud ymlaen yw parhau i adeiladu ar y corff hwn o waith cadarnhaol a chadw enw da’r Cyngor fel sefydliad cwbl ddwyieithog. Mae Tîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor wedi ymrwymo i’r dasg hon ac i gwrdd â dewis iaith y bobl y mae’r Cyngor yn eu gwasanaethu yn ogystal â datblygu sgiliau a hyfedredd Cymraeg y sefydliad ymhellach.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a'i fformat diwygiedig; wrth ystyried y trosolwg o ymdrechion y Cyngor yn ystod y flwyddyn o ran cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd ynghylch y pwyntiau a ganlyn –

 

·           A oedd y cynnydd mewn cwynion am ddefnydd y Cyngor o’r Gymraeg yn 2020/21 yn arwydd o unrhyw duedd a all fod yn destun pryder.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a'r Iaith Gymraeg, er ei fod yn parhau'n isel ar 5 cwyn, roedd y ffigwr ar gyfer cwynion am safonau darparu gwasanaeth yn gynnydd amlwg o gymharu ag un gŵyn y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd, derbyniwyd 4 cwyn am safonau llunio polisi o gymharu â dim y flwyddyn flaenorol. Dywedodd wrth yr Aelodau efallai mai un rheswm oedd newid yn y ffordd y mae cwynion am yr iaith yn cael eu cofnodi; yn flaenorol, roedd cwynion yn cael eu datrys yn bennaf gan y gwasanaeth cyfrifol fel rhan o gam cyntaf gweithdrefn gwynion y Cyngor; ers Gorffennaf 2021, mae cwynion am ddefnydd y Cyngor o’r Gymraeg yn cael eu cyfeirio at y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg i’w hystyried ac i’w cofnodi. Sicrhaodd y Rheolwr Polisi ac Iaith, er y gall mân lithriadau ddigwydd, nid oedd yn credu bod y cwynion a dderbyniwyd yn dynodi unrhyw faterion systemig o bwys. Fodd bynnag, mae angen i'r Cyngor fod yn effro i gwynion o fewn y gymuned gyda thair cwyn wedi eu gwneud am enwau tai ac eiddo di-gymraeg. Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn cyfyngu ar awdurdod y Cyngor yn hyn o beth sy’n golygu mai dim ond yn y cyd-destun hwn y gall annog y defnydd o enwau Cymraeg.

 

·           Wrth nodi a chroesawu'r nifer uchel o swyddogion o fewn y Cyngor sy'n gallu siarad Cymraeg, roedd y Pwyllgor am wybod beth arall y gallai'r Cyngor ei wneud i helpu staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor a’r Rheolwr Polisi a’r Gymraeg yn gytûn mai un o’r ffyrdd gorau o hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yw drwy greu’r amodau lle gall unigolion, beth bynnag fo lefel eu sgiliau Cymraeg, ymarfer defnyddio’r iaith mewn modd cynhwysol, mewn amgylchedd croesawgar ac anfeirniadol. Dywedodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg fod cyfleoedd dysgu anffurfiol yr un mor bwysig o ran ymarfer a gwella sgiliau iaith Gymraeg â gwersi mwy traddodiadol ac mae gan y Cyngor ystod o opsiynau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn. Mae'r diwylliant o fewn timau a gweithleoedd yn bwysig hefyd y gall staff roi cynnig ar eu sgiliau heb ofni agweddau negyddol neu farnu; mewn meysydd lle gallai staff fod yn ddihyder – ysgrifennu yn y Gymraeg er enghraifft, yna mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod ganddo’r adnoddau i gefnogi a galluogi staff i ddatblygu’r sgiliau hynny.

·           Nododd y Pwyllgor fod nifer yr ymwelwyr sy’n defnyddio fersiwn Saesneg gwefan y Cyngor yn sylweddol uwch na’r nifer sy’n dewis defnyddio’r fersiwn Gymraeg. Roedd y Pwyllgor eisiau gwybod a oes disgwyl, gyda gweithrediad y polisi iaith Gymraeg mewn ysgolion a’r defnydd o’r Gymraeg fel rhywbeth sy’n dod yn naturiol i bobl ifanc, y bydd nifer y bobl sy’n defnyddio gwefan Gymraeg y Cyngor yn tyfu.

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg mai dyna’r gobaith a’r amcan a gyda nifer cynyddol o bobl ifanc wedi derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, byddant yn gyfarwydd â’r dechnoleg ac na fyddant yn bryderus wrth newid o’r un iaith i'r llall. Wrth fuddsoddi mewn gwasanaethau Cymraeg, mae angen i'r Cyngor sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn apelgar a bod pobl yn gallu eu defnyddio'n hyderus.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er mwyn egluro, bod y Cyngor yn asesu gofynion iaith pob swydd newydd a gwag ar raddfa o 0 i 5 lle mae 5 yn gwbl rugl yn y Gymraeg ar lafar a/neu yn ysgrifenedig; mae’r arfer hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws gwasanaethau’r Cyngor ac mae’n broses weinyddol allweddol. Lle ceir cais i beidio â gosod gofynion iaith ar gyfer swydd, bydd y Cyngor yn gofyn am dystiolaeth a’r rhesymeg dros pam nad ystyrir bod penodiad dwyieithog yn angenrheidiol. Mae'r Cyngor yn ceisio galluogi swyddogion i fynychu hyfforddiant iaith Gymraeg yn ystod oriau gwaith ac mae'n annog staff i fanteisio ar yr ystod o gyrsiau a ddarperir i wella sgiliau ac ansawdd iaith. Mae'r un mor bwysig, lle penodir pobl ddi-Gymraeg, bod y Cyngor yn parhau i'w cefnogi i ddysgu Cymraeg ac yn rhoi amser iddynt wneud hynny.

·           Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw risgiau penodol wedi’u nodi o ran cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y farchnad lafur - yn benodol y cynnwrf a grëwyd gan y pandemig Covid - yn cael ei gweld fel risg ac yn gyfle wrth i fwy o bobl fanteisio ar amodau gwaith hybrid i weithio'n agosach at adref. Yr her yw bod pobl yn defnyddio'r hyblygrwydd hwn i wneud newid gyrfa ac i chwilio am lwybrau gyrfa gwahanol ac mae'n rhywbeth y bydd angen i'r Cyngor ei fonitro. Er nad yw recriwtio yn broblem benodol ar hyn o bryd mae'r farchnad lafur yn parhau i fod yn heriol. Hefyd, mae rhaglen hyfforddai’r Cyngor yn rhoi cyfle i ddod â phobl ifanc i mewn i’r Cyngor ar lawr gwlad ac i roi cymorth iddynt symud ymlaen o fewn y sefydliad wedi hynny. Pe bai’r Cyngor yn canfod ei hun yn methu â phenodi staff dwyieithog ac o ganlyniad yn gorfod troi at staff asiantaeth neu staff o’r tu hwnt i’r ffin yn gweithio o bell, yna fe allai hynny fod yn risg o ran tanseilio’r hyn sy’n cael ei weld fel un o brif gryfderau’r Cyngor.

·           O ran cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth y Cyngor, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o’r prif heriau o ran prif ffrydio’r Gymraeg ar draws y sefydliad.

Dywedodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg fod prif ffrydio yn golygu mynd y tu hwnt i gwrdd â safonau'r Gymraeg. Dywedodd fod y Cyngor yn parchu dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth a bod gan y Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal o fewn ei waith a'i weinyddiaeth. Fodd bynnag, wrth gyflawni ei dyletswydd i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, ystyriai hyder yn ffactor allweddol yn enwedig o ran sgiliau ysgrifennu Cymraeg. Credai ei bod yn bwysig felly bod y Cyngor yn sicrhau bod ganddo’r adnoddau i gefnogi staff i wella eu sgiliau a’i fod yn gwneud y gorau o ddatblygu darpariaeth technoleg a chyfieithu i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o waith o ddydd i ddydd y Cyngor. O ystyried bod y pandemig wedi cyfyngu’n ddifrifol ar y cyfleoedd i staff ymarfer eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliad gwaith anffurfiol, gall y Cyngor ddarparu cymorth i’w galluogi i adennill yr hyder i ailddechrau ymarfer eu sgiliau ac i ddychwelyd i raglenni a oedd yn rhedeg cyn y pandemig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach cadarnhaodd yr Arweinydd fod cyfleoedd i ddysgu a gwella sgiliau Cymraeg hefyd ar gael i Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd yr aelodau eu bod yn gwerthfawrogi argaeledd pecyn meddalwedd “Cysgliad” i helpu gyda chywirdeb iaith a gramadeg y Gymraeg a’u bod hefyd yn ddiolchgar am wasanaeth cyfieithu cynhwysfawr y Cyngor. Awgrymwyd hefyd y gallai sesiynau ymwybyddiaeth iaith fod yn ffordd ddefnyddiol o annog siaradwyr Cymraeg yn ogystal â dysgwyr Cymraeg i fyfyrio ar yr iaith ac ar Gymreictod.

·           Wrth groesawu’r adroddiad blynyddol a’i eglurder, gofynnodd y Pwyllgor pa ddata ychwanegol a fyddai’n ychwanegu gwerth at yr adroddiad.

Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud ei fod yn credu bod angen system AD newydd a fyddai'n rhoi mwy o fanylder i'r data gan arwain at ddadansoddi mwy effeithiol a chynhyrchu data o ansawdd gwell ar draws gwasanaethau'r Cyngor. Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg y byddai’n ddefnyddiol gallu olrhain cynnydd unigolion wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u hyder yn y Gymraeg wrth i’w gyrfa fynd yn ei blaen ac adrodd yn flynyddol ar hynny. O ran ymwybyddiaeth o’r Gymraeg dywedodd fod hyn yn rhan o anwythiad y sawl a benodir o’r newydd i’r Cyngor sy’n cael gwybodaeth ffeithiol am safonau a gofynion y Gymraeg law yn llaw â’r elfen o godi ymwybyddiaeth i’w hysbrydoli i ymrwymo i ddysgu a/neu wella eu sgiliau Cymraeg. Mae sesiynau o'r fath wedi'u cyflwyno'n fewnol ac mewn cydweithrediad â Menter Iaith Môn ac yn ychwanegol mae sesiynau hefyd wedi'u cynnal ar lefel tîm o fewn gwasanaethau.

 

Wrth gloi'r drafodaeth ar yr eitem hon, diolchodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor am ei graffu meddylgar ar y mater ac i'r Swyddogion am y sicrwydd a roddwyd. Cadarnhaodd y byddai'r pwyntiau a wnaed gan Sgriwtini yn cael eu hanfon ymlaen at yr Aelod Portffolio pan gyflwynir yr adroddiad ar gyfer cymeradwyaeth dirprwyedig ac yna'i gyhoeddi.

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2021/22, nodi ei gynnwys ac anfon sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini at yr Aelod Portffolio fel rhan o’i gyflwyniad ar gyfer cymeradwyaeth dirprwyedig ac yna’i gyhoeddi.

 

Dogfennau ategol: