Eitem Rhaglen

Cyfrifon Drafft 2021/22 a defnydd o'r Balansau ac Arian wrth Gefn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2021/22 a’r Fantolen ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2022. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth fanylach am falansau cyffredinol y Cyngor a’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gan gynnwys y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau yn 2022/23 a’r blynyddoedd dilynol.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer ei fod yn gosod allan y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ac yn rhoi crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor a’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Yn unol â’r rheoliadau, llofnodwyd y datganiadau ariannol drafft gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor 17 Mehefin, 2022 ymhell o fewn y gofyn ar gyfer llofnodi’r cyfrifon drafft ar 31 Awst, 2022 (wedi i amserlen y cyfrifon gael ei hymestyn eto ar gyfer 2021/22) i gydnabod y gallai’r pandemig gael effaith o hyd ar staff awdurdodau lleol) ac mae’r gwaith o archwilio’r cyfrifon wedi dechrau. Y bwriad yw cwblhau'r archwiliad dros yr haf gyda'r cyfrifon archwiliedig terfynol yn cael eu cymeradwyo erbyn y dyddiad cau estynedig, sef 30 Tachwedd, 2022.

 

Yn seiliedig ar y cyfrifon drafft y gellid eu newid unwaith y bydd yr archwiliad a’r cyfrifon terfynol wedi’u cwblhau, Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth, 2022 oedd £12.050m, sy’n cyfateb i 8.2% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod isafswm lefel Balans y Gronfa Gyffredinol ar 5% o'r gyllideb refeniw net a fyddai'n cyfateb i £7.4m, sy'n golygu bod Balans y Gronfa Gyffredinol £4.650m yn fwy na'r isafswm gwerth. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo £500k o’r gronfa wrth gefn gyffredinol i’w wario ar wella priffyrdd a bydd £261k yn cael ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn y gwasanaethau yn unol â’r polisi wrth gefn gwasanaethau a gymeradwywyd yn 2019/20. £11.289m yw’r gronfa gyffredinol ddrafft wrth gefn ar ôl yr ymrwymiadau hyn.

 

Rhybuddiodd y Cynghorydd Robin Williams na fydd y Cyngor yn eistedd ar ei gronfeydd wrth gefn. Mae cyllidebau’r Cyngor yn debygol o ddod dan bwysau cynyddol yn y flwyddyn gyfredol gan fod yr argyfwng costau byw sy’n cael effaith ar y genedl yn cael effaith debyg ar y Cyngor wrth i gostau gwasanaeth, tanwydd a deunyddiau cynyddol gael eu gyrru’n rhannol gan gyfradd uchel chwyddiant. Gallai mynd i’r afael â hyn yn ogystal ag â heriau eraill, megis cynnydd yn y galw, olygu bod yn rhaid i’r Cyngor dynnu ar ei gronfeydd wrth gefn a dyna pam eu bod yn cael eu dal yn y lle cyntaf - i sicrhau bod arian wrth gefn i gwrdd â heriau ariannol o’r math hwn a sicrhau bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn parhau’n gadarn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y daith y mae’r Cyngor wedi bod arni yn ariannol dros y pedair blynedd diwethaf, o’r adeg pan fynegodd Archwilio Cymru bryder ynghylch lefel ei gronfeydd wrth gefn i’r sefyllfa llawer cadarnach y mae’n cael ei hun ynddi ar hyn o bryd, gan ei roi mewn lle da i gwrdd â’r heriau hynny.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2021/22 ar gael ar wefan y Cyngor a bod y cyfrifon yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, oedd yn golygu y gallai’r ffigurau ynddo newid. Eglurodd fod y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn Atodiad 2 yn dangos cost darparu gwasanaethau yn y flwyddyn ar sail cyfrifyddu yn hytrach nag ariannu ac nad yw’n adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor. Felly mae'n rhaid gwneud nifer o addasiadau i'r cyfrifon er mwyn dangos y swm sy'n cael ei ariannu gan Dreth y Cyngor. Mae'r adroddiad yn nodi pwrpas a defnydd y cronfeydd wrth gefn y mae’r Cyngor yn eu dal ac yn cadarnhau sefyllfa well y Cyngor o gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r Gronfa Gyffredinol ddrafft ar ôl ymrwymiadau, bellach yn £11.2m, sy'n sylweddol uwch na'r isafswm balans o £7.9m a osodwyd gan y Cyngor. Mae'r Cyngor felly mewn sefyllfa gref i ymdrin â'r heriau ariannol y mae'n debygol o'u hwynebu eleni a thu hwnt. Dywedodd y Swyddog Adran 151 ei fod yn fodlon â sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys lefel ei gronfeydd wrth gefn.

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi'r prif ddatganiadau ariannol drafft heb eu harchwilio ar gyfer 2021/22 (Cyhoeddir Datganiad drafft llawn o Gyfrifon 2021/22 ar https://www.anglesey.gov.wales/documents/Docs-en/Finance/Statement-of-Accounts/2021-2022/Draft-statement-of-accounts-2021-2022.pdf)

·         Nodi sefyllfa balansau cyffredinol o £12.050m a chymeradwyo gwaith creu'r arian wrth gefn newydd a glustnodwyd ac a nodir yn Nhabl 4 o'r adroddiad, sy'n dod i £9.371m.

·         Nodi Atodiad 4 a chymeradwyo balans o £23.181m o gyfanswm y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer 2021/22 (£14.079m yn 2020/21). Mae hyn yn £9.102m yn uwch na 2020/21 ac mae’n cynnwys £9.371m o gronfeydd wrth gefn newydd, fel yr argymhellwyd uchod, a £0.269m o newid i’r cronfeydd wrth gefn presennol (er bod hyn yn cynnwys cynnydd sydd bron yn gwneud iawn, a gostyngiadau i’r cronfeydd presennol).

·         Nodi sefyllfa balansau ysgolion, sef £7.827m.

·         Nodi balans y Cyfrifon Refeniw Tai, sef £12.333m

·         Cymeradwyo'r cynnydd o £0.261m yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Gwasanaeth i £1.625m yn unol â'r Polisi Cronfeydd Gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn 2019/20, fel yn Atodiad 1, Tabl 3 yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: