Eitem Rhaglen

Dyfodol yr Uned Cynllunio Polisi ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar ddyfodol Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd oedd yn nodi’r bwriad i ddod â’r trefniant cydweithio presennol gyda Chyngor Gwynedd ar ddarparu’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i ben ym mis Mawrth, 2023. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod dod â'r cytundeb cydweithio i ben yn golygu y bydd yn rhaid creu Gwasanaeth a Thîm Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Ynys Môn. Mae’r trefniant cydweithio presennol wedi bod yn llwyddiannus gan arwain at greu Cyd-gynllun Datblygu Lleol cyntaf Cymru ar gyfer ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol Ynys Môn a Gwynedd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Nicola Roberts y byddai’r un adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo i gyfarfod heddiw o Gabinet Cyngor Gwynedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y sefydlwyd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC) gan Gynghorau Ynys Môn a Gwynedd 1 Mai, 2011 ac, yn dilyn adolygiad yn 2017, adnewyddwyd y trefniant hyd at 31 Gorffennaf 2022 gyda chytundeb y ddau Gyngor. Wrth i'r cytundeb cydweithio ddod i ben ddiwedd y mis hwn bu trafodaethau lefel uchel rhwng Swyddogion y ddau awdurdod am ddyfodol yr UPCC. Daethpwyd i gasgliad ar y cyd y dylid argymell i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn a Chabinet Cyngor Gwynedd ddirwyn i ben y cytundeb cydweithio presennol. Mae’r cyd-destun cynllunio yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol wedi newid yn sylweddol ers 2011, yn ogystal â dyheadau, blaenoriaethau ac anghenion y ddau awdurdod. Hefyd, mae sefydlu'r Cydbwyllgor Corfforaethol rhanbarthol sydd yn statudol ofynnol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru yn ychwanegu haen newydd o bolisi cynllunio nad oedd yn bodoli pan grëwyd yr UPCC yn 2011. Argymhellir ymestyn y cytundeb cydweithio tan 31 Mawrth, 2023 er mwyn sicrhau y ceir trefn wrth wahanu a bod y Pwyllgor Gwaith yn cytuno mewn egwyddor i sefydlu Tîm Polisi Cynllunio newydd i Ynys Môn. Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yn ystyried strwythur staffio a phroses recriwtio, gofynion adnoddau a rhaglen waith gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach ar oblygiadau cost i'r Pwyllgor Gwaith maes o law. Dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn parhau i gael ei fonitro tan 2026.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, wrth wneud sylw fel aelod o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, bod cyfarfodydd diweddar wedi dangos bod gan y ddau gyngor safbwyntiau gwahanol o ran polisi cynllunio’r dyfodol, cyfeiriad, anghenion a threfniadau gweithredu, er ei bod wedi bod yn bleser gwasanaethu ar y Cyd-bwyllgor.

 

Cynigiodd y Cadeirydd mewn perthynas ag argymhelliad 5 o'r adroddiad y dylid hefyd ymgynghori â'r Aelod Portffolio Cynllunio mewn perthynas â chytuno ar drefniadau cydweithio gyda Chyngor Gwynedd mewn perthynas â gwaith monitro statudol parhaus y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd –

• Ymestyn y trefniant cydweithio ar gyfer darparu'r polisi cynllunio ar y cyd hyd at 31 Mawrth, 2023.

• Dirwyn y cytundeb cydweithio ac, felly, yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd i ben 31 Mawrth, 2023 a bod cytundeb mewn egwyddor i greu polisi newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.

• Bod y gwasanaeth polisi cynllunio newydd yn paratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Ynys Môn.

• Cyflwyno trefniadau ar gyfer cefnogi a gwneud penderfyniadau ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd a materion polisi cynllunio perthnasol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio ynys Môn.

• Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Rheoli a Datblygu gytuno ar drefniadau cydweithio gyda Gwynedd, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr a'r Deilydd Portffolio i sicrhau bod y cyngor yn parhau i gwrdd â’r gofynion statudol (ac unrhyw waith cysylltiedig) sy'n angenrheidiol ar gyfer monitro'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dogfennau ategol: