Eitem Rhaglen

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu rhagor ar raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Ynys Môn ac yn rhanbarthol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth wybodaeth gefndir a chyd-destun i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi'i lansio gan Lywodraeth y DU, yn lle'r rhaglenni cyllid Ewropeaidd, ac a ariennir yn ddomestig. Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn sicrhau £2.5b o fuddsoddiad tan fis Mawrth, 2025 ledled y DU gyda’r nod o feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd. Mae Llywodraeth y DU wedi pennu tair blaenoriaeth fuddsoddi dan y themâu Y Gymuned a Lle; Cefnogi Busnes Lleol a Phobl a Sgiliau. Bydd y rhaglen yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Leol ar draws y DU gyda chyllid yn cael ei neilltuo iddynt lleol drwy fformiwla yn hytrach na thrwy gystadleuaeth. Mae disgwyl Cynllun Buddsoddi sy’n nodi dull cyflawni’r rhaglen er mwyn rhyddhau’r cyllid a bydd angen i Lywodraeth y DU ei dderbyn erbyn 1 Awst, 2022. Gofynnwyd i Lywodraethau Lleol yng Nghymru gydweithio i gynhyrchu un Cynllun Buddsoddi ar gyfer pob rhanbarth ac i enwebu un Corff Arweiniol i gyflwyno'r Cynllun a gweithredu fel corff atebol. Ar hyn o bryd, y cynnig yw gofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel awdurdod arweiniol rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen. Mae disgwyl hefyd i Lywodraethau Lleol, ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y trydydd sector a'r gymuned fusnes, wrth ddatblygu'r rhaglen. £13.304m yw’r arian craidd a neilltuwyd i Ynys Môn ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth, 2025 gyda £2.77m pellach wedi’i neilltuo i’r rhaglen Lluosi, sef menter gan Lywodraeth y DU i hybu rhifedd oedolion.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Carwyn Jones y cynnydd hyd yma o ran ymgynghori â rhanddeiliaid a datblygu’r Cynllun Buddsoddi er mwyn ei gyflwyno erbyn 1 Awst, 2022 a chadarnhaodd fod strwythurau wedi’u sefydlu’n rhanbarthol i arwain y broses hon, gweithdai a chyfarfodydd wedi’u cynnal yn rhanbarthol i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac, yn lleol, bod y Cyngor hefyd wedi ymgysylltu â phartneriaid allanol ac wedi cynnal proses agored i ofyn am i syniadau a phrosiectau lefel uchel cychwynnol gael eu cyflwyno. Y bwriad yw bod y Cyngor yn canolbwyntio ei adnoddau ar nifer lai o flaenoriaethau er mwyn cael yr effaith fwyaf; dylai'r rhain gael eu llywio gan y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, Cynllun y Cyngor a'r Cynllun Llesiant a chanlyniad y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau y cyflwynir y Cynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU erbyn y dyddiad cau, sef 1 Awst.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn cael adroddiad tebyg ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’n rhaid datblygu’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol a’i gyflwyno erbyn 1 Awst ac mae’r adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu blaenoriaethau Ynys Môn yn lleol o fewn y rhaglen. Bydd adroddiad pellach ar fanylion y prosiect yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith maes o law.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo datblygu rhagor ar y rhaglen cronfa ffyniant gyffredin yn Ynys Môn ac yn rhanbarthol trwy fewnbwn swyddogion, yn unol â'r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r deiliad portffolio i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Ynys Môn i’w cynnwys yn y cynllun buddsoddi rhanbarthol er mwyn tynnu’r rhaglen i lawr.

·      Cefnogi'r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel y corff arweiniol i gyflwyno'r cynllun buddsoddi rhanbarthol i lywodraeth y DU ac arwain gwaith cyflawni'r rhaglen ddilynol.

·      Dirprwyo awdurdod i ddeiliaid portffolio datblygu economaidd a chyllid, mewn ymgynghoriad â’r tîm arwain, gymeradwyo blaenoriaethau gwariant Fframwaith Polisi Diogelwch y Cyngor am 2022/23.

 

 

Dogfennau ategol: