Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/2022.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Boddhad Cwsmer yr adroddiad, gan ddweud bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu ei berfformiad, sef i ba raddau y mae’n ymarfer ei swyddogaethau yn effeithiol; y mae'n defnyddio ei adnoddau'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol ac y mae ei lywodraethu'n effeithiol ar gyfer sicrhau'r ddau fater cyntaf. Mae disgwyl i bob cyngor gyflawni'r ddyletswydd hon drwy hunanasesu a rhaid iddo gyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr hunanasesiad. Yn unol â’r gofyn hwn, mae hunanasesiad cyntaf y Cyngor am 2021/22 wedi’i baratoi. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu gwaith y fframwaith cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad ac yn cyflwyno sail dystiolaeth o sut mae’r Cyngor wedi perfformio, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ganddo wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig yn ystod cyfnod heriol ac ansicr i lywodraeth leol wrth iddo ymateb i’r pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams y gofynnwyd i bob un o naw gwasanaeth y Cyngor gwblhau hunanwerthusiad, gan sgorio eu perfformiad ar feysydd a nodwyd ac a ystyriwyd yn bwysig, megis “Rhagorol”, “Da”, “Digonol” neu “Anfoddhaol.” I gyd-fynd â gwaith gwerthuso’r perfformiad, gofynnwyd hefyd i bob un o'r gwasanaethau amlygu lle'r oeddent yn credu bod y gwasanaeth o ran y rhagolygon ar gyfer gwella i'r dyfodol gan ddefnyddio'r un meini prawf. Gyda'i gilydd mae gwaith gwerthuso’r perfformiad, yn ogystal â gwireddu'r gobeithion am welliannau, yn rhoi darlun cyfredol a chywir o ble mae gwasanaethau'n gweld eu hunain ac yn rhoi rhan o'r dystiolaeth ar gyfer yr hunanasesiad corfforaethol. Mae'r Cyngor wedi bod yn gwella ac yn aeddfedu gwaith datblygu'r fframwaith rheoli perfformiad yn barhaus dros y naw mlynedd diwethaf. Mae’r hunanasesiad, sydd ar ffurf Datganiad Sefyllfa, yn crynhoi casgliad y gwaith hwnnw am 2021/22 ac yn canfod bod Rheolaeth Perfformiad y Cyngor; ei ddefnydd cyffredinol o adnoddau a'i reolaeth risg yn “Dda” a bod y naratif yn rhoi'r rhesymeg a'r sail resymegol dros y casgliad hwn. Mae'r hunanasesiad hefyd wedi nodi meysydd lle gellir gwella perfformiad a chaiff y rhain eu hamlygu dan bob adran unigol a’u dwyn ynghyd mewn rhaglen wella ar ddiwedd yr adroddiad sydd hefyd yn dangos y ffynhonnell sicrwydd ar gyfer pob maes gwelliant.
Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai’r adroddiad, yn ogystal â rhoi sicrwydd am berfformiad y Cyngor, gael ei ystyried yn destun balchder. Mae'r Hunanasesiad wedi'i lywio gan adolygiadau perfformiad gwasanaeth; adroddiadau perfformiad; y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, adolygiadau allanol; arolwg staff ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sydd i gyd yn brosesau parhaus ym mywyd gwaith y Cyngor sy’n cefnogi gwelliant parhaus. Cytunodd fod bob amser le i wella ymhellach a bod agweddau ar berfformiad y gellir eu gwella’n cael eu hamlygu a'u nodi yn yr hunanasesiad. Mae adnoddau a rheoli adnoddau wedi'u cysylltu'n agos â pherfformiad ac mae'r rhain yn debygol o fod yn heriol dros y flwyddyn nesaf; Mae rheoli risg yn rhan annatod o brosesau a phenderfyniadau’r Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr yr hoffai ddiolch i dîm Trawsnewid y Cyngor am yr adroddiad ac am reoli’r prosesau perfformiad sy’n sail i’r adroddiad gan fod y rhain yn golygu llawer iawn o waith.
Cydnabu holl aelodau’r Pwyllgor Gwaith y gwaith oedd ynghlwm wrth gynhyrchu'r adroddiad a hefyd y gwaith o ddydd i ddydd sy'n sail iddo. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod bod hunanasesu yn broses barhaus o geisio gwella wrth wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Gan hynny, cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams y dylid cyflwyno adroddiadau diweddaru chwarterol i'r Pwyllgor Gwaith ar gynnydd yn erbyn y meysydd a nodwyd i'w gwella, a hynny at ddibenion sicrwydd.
Penderfynwyd –
· Derbyn yr asesiad a'r rhaglen wella gysylltiedig yn ddogfen ddrafft sy'n cydnabod ac yn cyfleu sefyllfa bresennol y Cyngor Sir.
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i roi sylwadau pellach yn ei gyfarfod 26 Gorffennaf, 2022, a
· Gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyflwyno’r asesiad i’r Cyngor Sir 13 Medi, 2022.
· Rhoi i’r Pwyllgor Gwaith adroddiadau diweddaru chwarterol ar gynnydd yn erbyn y meysydd i'w gwella a nodwyd.
Dogfennau ategol: