Cyflwynwyd i’r
Pwyllgor ei ystyried adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a
Thrawsnewid yn ymgorffori’r Hunanasesiad Corfforaethol
2021/2022.
Cyflwynodd y Cynghorydd
Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a
Boddhad Cwsmer adroddiad Hunanasesiad Corfforaethol cyntaf Cyngor
Sir Ynys Môn a baratowyd i gyflawni’r ddyletswydd
newydd a osodwyd ar gynghorau yng Nghymru gan Dfeddf Lywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i barhau i adolygu eu perfformiad
trwy hunanasesiad. Dan y Ddeddf, mae disgwyl i bob awdurdod
ystyried i ba raddau y mae'n arfer swyddogaethau'n effeithiol; ei
fod yn defnyddio ei adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn
effeithiol ac a yw ei drefniadau llywodraethu’n effeithiol ar
gyfer sicrhau’r ddau fater a grybwyllwyd uchod, a rhaid iddo
gyhoeddi adroddiad yn nodi ei gasgliadau ar gyfer pob blwyddyn
ariannol. Mae adroddiad Cyngor Sir Ynys Môn 2021/22 yn
adlewyrchu’r hyn y mae’r fframwaith cynllunio
corfforaethol a rheoli perfformiad wedi’i wneud yn y Cyngor
ac mae’n ddiwedd proses sy’n dwyn ynghyd sawl agwedd
wahanol ar y fframwaith. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y
Cyngor, ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ar ffurf
adolygiadau perfformiad gwasanaeth; adroddiadau perfformiad;
Datganiad Llywodraethu Blynyddol; adolygiadau allanol; arolwg staff
ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn fodlon bod ei waith rheoli
perfformiad, ei ddefnydd o adnoddau a'i reolaeth risg yn
“Dda” ac yn adlewyrchu llawer o gryfderau. Serch hynny,
mae'r hunanasesiad hefyd wedi amlygu meysydd lle gellir gwella a
chaiff y materion hyn eu dwyn ynghyd ar ddiwedd yr adroddiad a
chaiff ffynhonnell sicrwydd pob mater ei nodi.
Adroddodd y Prif
Weithredwr fod yr adroddiad hunanasesu, sef y cyntaf o’i fath
ar gyfer Ynys Môn dan ofynion y perfformiad newydd a
gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,
yn gadarnhaol ac yn galonogol ond ei fod, hefyd, yn cydnabod y
gellir gwneud cynnydd pellach o ran rhai agweddau ar berfformiad.
Pwysleisiodd fod y Cyngor wedi gallu cyflawni'r ddyletswydd a
osodwyd arno gan y Ddeddf heb orfod cyflwyno unrhyw ddulliau rheoli
perfformiad newydd - mae'r prosesau, y gweithdrefnau a'r trefniadau
sy'n sail i'r hunanasesiad eisoes wedi'u hen sefydlu o fewn y
Cyngor. Roedd yn gobeithio bod hyn yn cyfleu’r neges i holl
randdeiliaid, partneriaid a rheoleiddwyr y Cyngor bod y Cyngor yn
gweithredu o sylfaen gadarn a bod llawer o ddisgwyliadau’r
Ddeddf o ran perfformiad eisoes wedi’u gwreiddio yng ngwaith
beunyddiol y Cyngor. Credai fod llawer i ymfalchïo ynddo yn yr
adroddiad ac y gallai'r Cyngor fod yn fodlon bod y trefniadau sydd
ganddo yn eu lle yn helpu i adeiladu ar welliant heb ychwanegu
biwrocratiaeth ychwanegol. Mae rheoli perfformiad yn rhan o
ddiwylliant y Cyngor ac mae’n parhau i aeddfedu. Er bod
rheoli a defnyddio adnoddau’n heriol, fe’i cefnogir gan
drefniadau cadarn ac mae rheoli risg yn rhan annatod o
weithrediadau a phenderfyniadau beunyddiol y Cyngor. Bydd meysydd
sydd wedi'u nodi ar gyfer gwelliant yn rhan o gynllun gweithredu a
chânt eu monitro ar gyfer cynnydd gan Dîm yr
Arweinyddiaeth ac adroddir arnynt drwy'r sianeli democrataidd
sefydledig.
Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i’r adroddiad, gan godi’r pwyntiau a ganlyn
–
- Croesawodd yr adroddiad
yn gyffredinol yn asesiad cadarnhaol a ddangosai nifer o gryfderau,
gan dynnu sylw at yr arolwg staff fel mesur cryf sy'n adlewyrchu'n
dda ar y Cyngor.
- Cyfeiriodd at y defnydd
o adnoddau a holi a yw'r Cyngor, wrth gyflwyno arferion gwaith
hybrid, wedi ystyried ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol o ystyried y
gallai fod mewn sefyllfa lle mae ganddo fwy o ofod swyddfa nag sydd
ei angen.
- Dywedodd y Prif
Weithredwr fod y Cyngor eisoes wedi cynnal ymarfer rhesymoli
adeiladau yn ystod y blynyddoedd o galedi a barodd gadw dwy swyddfa
ganolog yn Llangefni, y naill oedd prif Swyddfeydd y Cyngor a'r
llall oedd Canolfan Busnes Môn. Gan mai megis dechrau y mae
trefniadau gweithio hybrid, mae diogelwch staff yn parhau i fod yn
flaenoriaeth, sy'n golygu y cyfyngir ar nifer y staff a all fod ym
mhob adeilad ar unrhyw adeg. Y rheswm dros hyn yw creu hyder ac
amgylchedd lle mae staff yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu
perfformio orau yn y swyddfa. Er ei fod, felly, yn meddwl ei bod yn
rhy gynnar i feddwl am gynllunio swyddfeydd, dywedodd y Prif
Weithredwr nad oedd yn rhagweld y byddai'r Cyngor mewn sefyllfa i
brydlesu neu leihau'r gofod yn y naill brif adeilad na'r llall;
byddai'n her darparu ar gyfer staff pe byddent i gyd yn gorfforol
bresennol yr un pryd. Mae angen i'r Cyngor a'r gymuned ddeall yn
well y rhagamcanion tymor hir mewn perthynas â gweithlu
hybrid ac a yw'r model sy’n rhannol swyddfa, yn rhannol
‘o bell’ yma i aros. Dylai hyn, wedyn, fod o gymorth
i’r Cyngor benderfynu a oes unrhyw fanteision ariannol ac
economaidd i'w cael o resymoli mwy.
- Cyfeiriodd at reoli pobl,
gan holi a ellir dadansoddi'r gyfradd trosiant staff o 10% ar
gyfartaledd ymhellach i amlygu unrhyw feysydd penodol lle mae
trosiant yn uwch/mwy acíwt ac angen sylw arbennig a/neu ei
graffu.
- Dywedodd y Prif
Weithredwr y caiff trosiant staff ei wrthbwyso i raddau gan nifer
uchel o bobl yn ymuno â'r Cyngor. Er ei fod yn berthnasol i
bob categori, mae trosiant staff i'w deimlo'n fwy arbennig mewn
sectorau incwm is, sgiliau is oherwydd y farchnad lafur
gystadleuol. Er bod y gwaith monitro a wnaed gan y Cyngor yn dangos
nad yw'n wahanol i'r farchnad lafur ehangach, mae'r Cyngor yn
awyddus i wella ei systemau er mwyn rhoi mwy o fanylion y gellir eu
trosi'n hawdd i adroddiadau sy'n cyflwyno gwybodaeth fanwl a data
am staffio ac y gellir cael atynt yn gyflym.
- Dywedodd y Pennaeth
Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod cyfradd trosiant staff o 10% ar
gyfartaledd yn cymharu'n dda â chyfartaledd trosiant staff o
15.5% mewn diwydiant. Mae trosiant yn amrywio ar draws gwasanaethau
a swyddi, yn enwedig felly o ran swyddi a ariennir trwy grant lle
gallai’r tymor fod yn gyfyngedig os daw cymorth grant i ben
gan beri i staff fynd i edrych i rywle arall. Mae'r Cyngor yn
monitro'r sefyllfa'n rheolaidd ac mae'n canolbwyntio ar ei
strategaeth recriwtio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, awgryma
tystiolaeth bod nifer o staff, sydd wedi gadael i weithio mewn
sectorau eraill ,wedi dychwelyd i’r Cyngor ar ôl cyfnod
o amser, sy’n galonogol yn yr hyn y mae’n ei ddweud am
arferion cyflogaeth a safonau gwaith y Cyngor.
- Cyfeiriodd at y tri
chategori hunanasesiad, gan nodi mai un o'r rhesymau a roddwyd dros
fod y Cyngor yn asesu ei ddefnydd o adnoddau fel “Da”
oedd “cronfeydd wrth gefn uwch”. Awgrymodd y Pwyllgor y
gellid dehongli'r datganiad, fel y mae ar hyn o bryd, yn gadarnhaol
neu'n negyddol gan fod y Cyngor mewn sefyllfa ariannol gref neu'n
eistedd ar gronfeydd heb unrhyw gynlluniau i'w defnyddio a gallai
hyn gael ei ystyried yn ddefnydd aneffeithiol o adnoddau. Roedd y
Pwyllgor o'r farn bod angen ehangu'r datganiad iddo egluro’r
diben o gadw lefel uchel o gronfeydd wrth gefn.
- Yn yr un modd, wrth
gyfeirio at y rhestr o welliannau a nodwyd, roedd y Pwyllgor
o’r farn y byddai’n ddefnyddiol pe gellid cynnwys
rhywfaint o ddata pendant gan ei bod yn ddogfen gyhoeddus, e.e. o
ba ganran y mae'r Cyngor yn anelu at wella'r gwastraff sy'n cael ei
ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Awgrymwyd po fwyaf
dadansoddol y mae'r adroddiad yn hytrach nag ansoddol, y
gorau.
- Wrth gydnabod y pwynt a
wnaed ynghylch lefel uchel o gronfeydd wrth gefn a gâi ei
gweld yn negyddol, os nad yw'r rhesymeg dros eu cadw yn glir,
dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y
câi’r datganiad ei ail-lunio i adlewyrchu'r sefyllfa'n
well. Eglurodd fod blwyddyn ariannol 2021/22 wedi bod yn eithriadol
gyda swm sylweddol o arian ychwanegol yn cael ei gyflwyno gan
Lywodraeth Cymru - peth ohono yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol -
i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig oedd wedi cyfrannu at y
Cyngor yn tanwario ar ei gyllideb. Roedd y pandemig hefyd wedi bod
yn ffactor arwyddocaol yn y tanwariant ar y gyllideb gyfalaf. Y
pwynt a wneir yn yr adroddiad drwy gyfeirio at lefel uchel o
gronfeydd wrth gefn yw nad oes unrhyw arian wedi’i golli wrth
beidio â chael ei ddefnyddio, sy'n arbennig o berthnasol i
arian grant, a'i fod yn parhau i fod ar gael i'w ddefnyddio yn y
flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'r adroddiadau monitro cyllideb
chwarterol i'r Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau bod y cyllidebau a
neilltuwyd i wasanaethau wedi'u gwario yn unol â'r
disgwyliadau.
- Dywedodd y Prif
Weithredwr y byddai'r pwynt a wnaed ynghylch cynnwys data mwy
penodol yn cael ei ystyried wrth baratoi adroddiad hunanasesu'r
flwyddyn nesaf, er y bydd y manylion o ran targedau, amserlenni a
sut y bydd y rheini'n cael eu cyflawni ac ati yn cael eu
hadlewyrchu yn y cynllun gweithredu ar y meysydd i'w
gwella.
- Awgrymodd y dylai'r
adroddiad hunanasesu fod yn destun arfarniad Archwilio Mewnol er
mwyn gwrthsefyll unrhyw ganfyddiad nad yw'r adroddiad yn wrthrychol
neu y gallai'r Cyngor fod yn hunanfodlon ynghylch ei werthusiad o'i
berfformiad ei hun.
Er bod y Pennaeth
Archwilio Mewnol a Risg yn cadarnhau bod Archwilio Mewnol wedi bod
yn gweithio gyda’r Tîm Perfformiad Corfforaethol ar y
ddogfen a’i fod wedi’i hadolygu fel rhan o’r
gwaith hwnnw, dywedodd y gallai cyfraniad Archwilio Mewnol gael ei
ffurfioli pe bai’r Pwyllgor yn dymuno.
Credai'r Cadeirydd y
dylid cydnabod y ffaith ei fod wedi'i adolygu gan Archwilio Mewnol
yn yr adroddiad Hunanasesu.
Dywedodd y Prif
Weithredwr ei fod yn credu bod hunanasesiad Ynys Môn yn
adlewyrchiad cytbwys a theg o safbwynt y Cyngor, er ei bod yn
bosibl i sefydliadau nodi eu hunain yn ffafriol. Mae cyfraniad
arweinwyr a gwrthwynebwyr gwleidyddol y Cyngor yn y broses yn
rhoi’r sicrwydd hwnnw. Hefyd, mae'r Ddeddf yn mynnu bod yr
hunanasesiad yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol a, hefyd, bod yn
rhaid i'r Cyngor drefnu asesiad o’r perfformiad gan banel
unwaith bob pum mlynedd. Rhaid i'r panel ymgynghori â phobl a
busnesau lleol ynghylch a yw'r Cyngor yn bodloni ei ofynion
perfformiad ac adrodd ar ei gasgliadau gydag argymhellion ar gyfer
gwella perfformiad os oes angen a, thrwy hynny, sicrhau haen
annibynnol ychwanegol o sicrwydd.
- Gwnaed un awgrym y gellid
symleiddio’r rhai o'r ffeithluniau yn yr adroddiad i wneud y
ddogfen yn haws ei darllen.
Wedi adolygu’r
Hunanasesiad drafft, penderfynwyd –
• Bod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn cytuno â chynnwys yr adroddiad
hunanasesu ar gyfer 2021/22 ar yr amod yr ystyrir y sylwadau a
wnaed am:
- Ehangu at
ddibenion egluro, ar gadw lefel uchel o gronfeydd wrth
gefn
- Cynnwys
data mwy dadansoddol ar gyfer y dyfodol yn enwedig mewn perthynas â meysydd i'w
gwella
- Cydnabod
bod yr adroddiad wedi'i adolygu gan Archwilio Mewnol
• Dirprwyo awdurdod
i'r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid mewn ymgynghoriad
â'r Aelod Portffolio i wneud rhagor o fân newidiadau
i'r Hunanasesiad cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.