Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori’r gofyniad ar y Cyngor i sefydlu system gadarn i fonitro a rheoli ei gyllideb refeniw, ac elfen allweddol o’r system honno yw Cynllun Ariannol Tymor Canolig, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod hwn fel arfer yn gynllun tair blynedd ond oherwydd yr ansicrwydd bernir na fyddai rhagamcan ar gyfer 2025/26 o unrhyw werth, gan y byddai’n golygu nifer o ragdybiaethau, heb fawr neu ddim tystiolaeth i’w cefnogi. Rhoddwyd diweddariad ar Economi’r DU a strategaeth economaidd y Llywodraeth i’r Aelodau. Cyfeiriodd at y prif bwysau cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod tymor y cynllun hwn fel y gwelir yn adran 5.2 yn yr adroddiad h.y. Codiadau Cyflog – cyflogau staff nad ydynt yn athrawon a chyflogau athrawon; Cyfraniadau Pensiwn Llywodraeth Leol ac Athrawon; Contractau Gwasanaeth Mawr; Costau Ynni; Cartrefi Gofal Henoed, Nyrsio, Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl a Phreswyl; Contract Gofal Cartref; Gwasanaethau Plant ac Oedolion; Digartrefedd; Trafnidiaeth Ysgol; Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor; Costau Cyllido Cyfalaf a Chwyddiant Cyffredinol mewn Prisiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad fyddai’r setliad dangosol o 3.6% a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gyfan yn ddigonol i gyllido’r pwysau cyllidebol a wynebir gan y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau yn benodol Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr amcangyfrifiad cychwynnol yn dangos y bydd cyllideb y Cyngor yn cynyddu o £158m i oddeutu £176m, sydd yn gynnydd o 11.5%. Cyfeiriwyd at Dabl 3 yn yr adroddiad sydd yn amlygu’r effaith y bydd y newidiadau yn yr AEF a’r Dreth Gyngor yn 2023/24 yn ei gael ar Gyllid y Cyngor ac mae’n dangos na fydd cynnydd o 10% yng nghyllid Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor yn ddigonol i ariannu’r gofyniad cyllidebol a ragwelir ar gyfer 2023/24. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor falansau cyffredinol o £11m a £23m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig er mwyn ymorol am unrhyw gostau annisgwyl yn ystod y flwyddyn. Nododd bod gan y Cyngor y gallu i ddefnyddio balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn i helpu i leihau’r bwlch cyllido, ond wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn mae risgiau i'r graddau nad ydynt yn ffynhonnell incwm gylchol ac nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn yn dileu'r angen i bontio'r bwlch cyllido yn y tymor hir.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, a oedd yn y Gadair, ei fod o’r farn bod angen trefnu Sesiwn Briffio ar gyfer yr Aelodau Etholedig i drafod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac amlygu’r pwysau cyllidebol y bydd y Cyngor yn ei wynebu oherwydd yr ansicrwydd yn yr economi fyd-eang.
PENDERFYNWYD:-
|
Dogfennau ategol: