Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â Strategaeth y Farchnad Rhanbarthol a Lleol (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio ar 26 Medi, 2022 lle cafwyd trafodaeth hir ynglŷn â goblygiadau’r Strategaeth. Nododd bod y Cyngor yn wynebu heriau o ran y gwasanaethau a fydd ar gael yn y dyfodol. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod problemau recriwtio ledled y sector gofal a’i bod hi’n anodd iawn denu pobl ifanc yn benodol i’r rolau hyn.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu asesiadau ar y cyd ar ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn galluogi’r awdurdod i ddeall y farchnad gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, fel y gall yr awdurdod gomisiynu a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gwrdd ag anghenion y boblogaeth yn effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr adroddiad sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn cynnwys asesiad o’r farchnad ar gyfer gofal a chymorth ym mhob ardal awdurdod lleol yn ogystal ag ardal y BPRh yn ei chyfanrwydd. Bydd yr adroddiad yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch comisiynu gofal a chymorth, gan fwydo i mewn i'r cynllun ardal strategol ar gyfer ardal y BPRh a helpu i lunio strategaethau comisiynu lleol a rhanbarthol. Nododd bod cysylltiad cryf rhwng yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth sy’n nodi'r angen a'r galw ar hyn o bryd ac a ragwelir am ofal a chymorth, ac ystod a lefel y gwasanaethau y bydd eu hangen i ateb y galw hwnnw. Bydd y dogfennau Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Asesiad Sefydlogrwydd y Farchnad yn cael eu defnyddio i gynllunio cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a chynlluniau datblygu gwasanaethau wrth symud ymlaen. Aeth ymlaen i adrodd bod y Gwasanaeth Gofal Cartref wedi gweld cynnydd o 33% yn y galw am wasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf a bod disgwyl i’r galw gynyddu. Bu gostyngiad mewn darparwyr gwasanaeth gofal cartref ac mae’n peri pryder bod llai yn dewis gweithio yn y Sector Gofal, yn enwedig yn y gwasanaeth Gofal Cartref gydag oedran cyfartalog gweithwyr Gofalwyr Cartref dros 50 oed. Aeth y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ymlaen i ddweud bod angen cymorth anffurfiol i Ofalwyr ar yr Ynys. Dywedodd bod angen cynyddu’r ddarpariaeth arbenigol sydd ar gael ynghyd â Gofal Dementia oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio. Mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant rhaid cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth h.y. anawsterau dysgu, problemau emosiynol ac iechyd meddwl.
Yn absenoldeb Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi trafod yr Adroddiad Rhanbarthol a Lleol ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2022 ac ar ôl ystyried yr adroddiad a ddarparwyd gan y Swyddogion yn ystod y Cyfarfod, cyfeiriodd y Pwyllgor at yr her o recriwtio staff i’r Sector Gofal ac y dylai’r Cyngor barhau i weithio’n agos gyda’r ysgolion a’r colegau lleol i ddenu pobl ifanc i weithio yn y Sector Gofal. Nododd y Pwyllgor bod angen gweithio ar ddatrysiad cenedlaethol i gynyddu cyflogau Gweithwyr Gofal er mwyn cydnabod eu gwaith hanfodol. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi amlygu’r her o recriwtio staff dwyieithog fel Gofalwyr Cartref ac yn enwedig mewn Cartrefi Gofal Preswyl. Cafwyd trafodaeth hefyd ar effaith y penderfyniad gan ddau awdurdod lleol cyfagos i newid y strwythur ffioedd cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio. Ar ôl trafod yr adroddiad yn fanwl penderfynodd y Pwyllgor Partneriaeth a Sgriwtini dderbyn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Gogledd Cymru a’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Sir Fôn.
Dogfennau ategol: