Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 – FPL/2022/116 – Gallt y Mwg (Wylfa) Ty Croes, Pencarnisiog

FPL/2022/116

 

10.2 – FPL/2020/149 – Stad y Felin, Llanfaelog

FPL/2020/149

 

Cofnodion:

10.1  FPL/2022/116 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad a ganiatawyd o dan apêl cyfeirnod APP/L6805/A/11/2158396 ) yng Ngallt y Mwg (Wylfa), Pencarnisiog, Tŷ Croes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi PCYFF1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod gan y safle ganiatâd sydd wedi ei ddiogelu ar gyfer annedd newydd i gymryd lle annedd sy’n bodoli’n barod, a

dderbyniodd ganiatâd cynllunio o dan gais rhif 28C108D ac mae

wedi cael ei ddiogelu trwy ddechrau gwaith perthnasol gan olygu fod y caniatâd yn ddilys am byth. Mae’r cais ar gyfer newid dyluniad yr annedd; mae’r caniatâd sydd wedi’i ddiogelu ar gyfer codi byngalo 1.5 llawr ac mae’r cynnig yn ceisio derbyn caniatâd ar gyfer eiddo 2 lawr gyda tho llai. Bydd arwynebedd llawr yn cynyddu o 120m2 i 165m2 a chynigir defnyddio gorffeniadau mwy modern. Ar ôl ystyried y cynllun yn erbyn y caniatâd a ddiogelwyd a pholisïau perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol, bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn gweddu â’r eiddo cyfagos a chymeriad yr ardal ac yn welliant ar y caniatâd sy’n bodoli’n barod. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2020/149 – Cais llawn ar gyfer codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa cerbydau newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi TAI 16 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning, o blaid y cais a dywedodd bod llwyddiant y cynllun gwreiddiol yn Stad y Felin wedi annog Grŵp Cynefin i edrych ar ymestyn y stad i ddarparu ragor o gartrefi fforddiadwy i bobl leol sydd mewn angen. Grŵp Cynefin sydd berchen ar y tir a’r bwriad yw gosod y tai ar rent cymdeithasol, tebyg i’r tai eraill ar y safle. Mae adeiladu tai cymdeithasol yn galluogi i Grŵp Cynefin ymgeisio am grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu a chadw rhenti’n fforddiadwy ar hyd oes y tai. Yn sgil hyn, mae’r cynllun yma wedi ei gynnwys yn rhaglen datblygu tai fforddiadwy Ynys Môn, sy’n cael ei weinyddu gan y Tîm Strategol Tai, gyda chyllid wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cynllun wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran ei ddyluniad - sydd yn gorfod cwrdd â’r gofynion ansawdd datblygu ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol (2021). Fodd bynnag mae Bryn Du wedi’i ddynodi’n setliad clwstwr sydd yn groes i ddarpariaethau polisi Cynllunio TAI 16. Mae Uned Polisi Cynllunio ac Adran Gyfreithiol y Cyngor wedi cadarnhau nad yw polisi TAI 16 yn berthnasol mewn clystyrau fel Bryn Du. Ond, wedi dweud hynny ar ôl cwblhau asesiad angen tai a chael trafodaeth helaeth gyda’r tîm polisi cynllunio mae pawb yn gytûn nad oes cyfleoedd i ddatblygu tai fforddiadwy i’r nifer sydd ei angen yn Rhosneigr; Llanfaelog a Phencaernisiog. Yr opsiwn gorau felly (neu’r unig opsiwn yn yr achos ym) yw’r safle yma yng nghlwstwr Bryn Du.  Aeth ymlaen i ddweud y byddai Cytundeb Adran 106 yn atal y datblygwr rhag sicrhau grant tai cymdeithasol gan fod Llywodraeth Cymru wedi newid y ddeddfwriaeth yn ddiweddar sy’n golygu bod anghenion tai fforddiadwy’n cael eu sicrhau drwy amod cynllunio yn hytrach na rhwymedigaeth cynllunio.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod Bryn Du wedi’i ddynodi’n glwstwr o dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly mae polisi TAI 6 yn berthnasol. Mae polisi Tai 6 yn cefnogi tai newydd mewn clystyrau cyn belled y gellir bodloni’r meini prawf a restrwyd yn adroddiad y Swyddog. Oherwydd y diffyg cyfleodd yn yr ardal ar gyfer datblygu tai fforddiadwy gellir ystyried y datblygiad arfaethedig fel safle eithrio oddi mewn i bolisi cynllunio TAI 16 er mwyn darparu tai fforddiadwy.  Mae’r Adran Dai a’r Uned Polisi Cynllunio wedi cadarnhau bod angen tai fforddiadwy yn yr ardal ac maent yn gefnogol o’r cais i godi 8 tŷ fforddiadwy ar y safle gan y bydd yn estyniad naturiol i  Stad y Felin.  Aeth y Rheolwr Rheoli Datblygu ymlaen i ddweud mai’r argymhelliad yw dirprwyo’r pŵer i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ar 3 Awst, 2022 yn unol â’r argymhelliad yn adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwnnw a bod tai fforddiadwy’n cael eu sicrhau drwy amod yn hytrach na rhwymedigaeth cynllunio.

Cynigodd y Cynghorydd Ken Taylor bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r pŵer i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad yn adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw a bod tai fforddiadwy’n cael eu sicrhau drwy amod yn hytrach na rhwymedigaeth cynllunio.

 

 

Dogfennau ategol: