Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  FPL/2022/51 – Plas Rhianfa, Glyn Garth, Porthaethwy

 

FPL/2022/51

 

Cofnodion:

cysylltiedig ym Mhlas Rhianfa, Glyngarth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai'r adeilad arfaethedig ar safle'r cwrt tennis segur presennol yng ngardd addurniadol gwesty Plas Rhianfa. Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol am lety deulawr, wyth ystafell wely atodol ond fe’i diwygiwyd oherwydd pryderon a godwyd gan rai yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â dyluniad, graddfa ac effaith y bwriad ar gymeriad ac edrychiad yr adeilad rhestredig cyfagos a'r ardal leol. Mae'r bwriad diwygiedig sydd ar gyfer adeilad unllawr chwe ystafell wely bellach yn amlwg yn eilradd o ran uchder a graddfa. Mae diwygiadau eraill, hefyd, wedi’u gwneud sy’n mynd i’r afael â phryderon yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch talcen arfaethedig cychwynnol yr estyniad, sef y brif olygfa o’r gerddi ac yr ystyriwyd ei fod yn llwm ei olwg ac yn anghydnaws â thir yr ardd addurniadol Fictoraidd. Mewn perthynas â'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw, mae CADW yn fodlon â'r cynnig diwygiedig ac mae'r Awdurdod Priffyrdd, yn yr un modd, yn fodlon gyda'r trefniadau parcio arfaethedig lle ceir 65 o leoedd parcio ar y safle ar gyfer 36 ystafell wely, sydd bron ddwywaith y nifer sy'n ofynnol yn ôl safonau parcio. Ystyrir, hefyd, bod y ddarpariaeth barcio yn ddigonol o ystyried anghenion staff ac anghenion parcio eraill. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu i liniaru unrhyw effeithiau ar y briffordd yn ystod y cyfnod adeiladu a sicrhau diogelwch priffyrdd. Er bod pryderon hefyd wedi’u codi ynghylch posibilrwydd o olau’n gollwng, o ystyried natur israddol yr adeilad arfaethedig, y ffaith ei fod ynghlwm wrth adeilad tri llawr ac wedi’i amgylchynu gan goed, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru na Chynghorydd Tirwedd yr Awdurdod wedi codi unrhyw fater ynghylch hyn. Yr argymhelliad, felly, yw caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, ei fod yn falch y rhoddwyd sylw i bryderon a godwyd ganddo yn yr ymweliad safle rhithwir a chan drigolion lleol ynghylch traffig, llygredd golau, cadwraeth coed a'r cynnig gwreiddiol oedd yn fwy. Croesawodd y ffaith y câi amodau eu rhoi ar sefyllfa draffig, gan ddweud bod y briffordd ger safle'r cais yn brysur a bod damweiniau wedi digwydd, yn enwedig lle mae dwy ffordd o Landegfan yn ymuno; gyferbyn â Gwesty Plas Rhianfa. Dywedodd fod ganddo rai pryderon o hyd ynghylch parcio ar y ffordd yng nghyffiniau'r Gwesty, yn enwedig o ran ei effaith ar welededd ond roedd yn gobeithio y câi hyn ei liniaru trwy amod pan roddir caniatâd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa draffig ar safle'r cais ac o'i amgylch ac ymatebodd Peiriannydd Grŵp Priffyrdd iddo drwy gadarnhau bod Lôn y Mawr a Lôn Bryn Teg yn cydgyfarfod ger y safle, gyda'r naill yn briffordd gofrestredig a'r llall yn lôn nad yw ar gael i'w defnyddio’n briffordd gyhoeddus. Tra bod drych traffig yn helpu modurwyr sy'n gadael mynedfeydd presennol, ystyrir mai cynllun y ffordd yn hytrach na pharcio sy'n gwneud gweld yn anos yn yr ardal hon. Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd yr ardal ger y Gwesty'n cael ei hystyried yn fan problemus o ran damweiniau, er nad oedd ganddo wrth law ystadegau damweiniau ar gyfer y briffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John I. Jones,.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: