Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1  FPL/2022/93 – Cysgod y Plas, Llanddeusant

 

FPL/2022/93

 

11.2  FPL/2022/151 – Rhyd Goch, Llanfaethlu

 

FPL/2022/151

 

11.3  HHP/2022/172 – Bryn Parys, Amlwch

 

HHP/2022/172

Cofnodion:

11.1 FPL/2022/93 – Cais llawn i godi newydd sydd bellach yn rhannol ôl-weithredol (estyniad ochr unllawr a chyntedd blaen), garej ar wahân, mynedfa newydd i gerbydau ac estyniad i fynwent yng Nghysgod y Plas, Llanddeusant

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu eu caniatáu. Mae’r ymgeisydd hefyd yn perthyn i “swyddog perthnasolfel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro, fel sy'n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai cais yw hwn i godi eiddo preswyl newydd i'r gogledd-ddwyrain o Landdeusant. Mae dipyn o waith datblygu wedi’i wneud ar yr annedd y gwneir y cais ar ei chyfer. Cyfeiriodd at hanes cynllunio'r safle, yn benodol caniatadau blaenorol oedd yn arbennig o berthnasol oedd yn cynnwys caniatâd cynllunio amlinellol 47C153 i godi annedd gyda manylion llawn y fynedfa gerbydol ynghyd ag estyniad i'r fynwent bresennol ym mis Ebrill, 2017. Wedi hyn, cyflwynwyd cais RM/2020/1 ar gyfer gweddill y materion a gadwyd yn ôl ac a gyflwynwyd ac a gymeradwywyd ym mis Mawrth, 2020. Cyflwynwyd a chymeradwywyd cais VAR/2020/48 i amrywio amod (1) RM/2020/1 yn ddiweddarach yn 2020. Diwygiodd hyn leoliad y datblygiad arfaethedig i'r dwyrain o'r lleoliad a ganiatawyd yn flaenorol. Ym mis Tachwedd, 2020 cyflwynwyd cais FPL/2020/225 i godi annedd a garej ynghyd â chreu mynedfa gerbydol ar dir Cysgod y Plas, Llanddeusant. Gan na chyflwynodd yr ymgeisydd fwy o wybodaeth i ddilysu'r cais, agorwyd ymholiad gorfodaeth a dangosodd ymchwiliadau fod gwaith wedi cychwyn ar y safle. Yn dilyn arolwg annibynnol o'r safle canfuwyd bod y datblygiad wedi ei adeiladu o fewn ffin cais y caniatâd sy'n bodoli a bod lleoliad y yn unol â'r manylion a gymeradwywyd dan ganiatâd VAR/2020/48. Er bod y datblygiad arfaethedig, a’r un sydd wrthi’n cael ei adeiladu, yn cynnwys estyniad ochr, porth blaen, modurdy a mynedfa, mae, fel arall, yn cyd-fynd â'r cynlluniau a gymeradwywyd yn wreiddiol. O ganlyniad, ystyrir bod y caniatadau blaenorol wedi'u gweithredu a'u bod yn sefyllfa wrth gefn ddilys.

 

Fodd bynnag, yn yr amser ers y caniatâd gwreiddiol, mae polisïau wedi newid gyda mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd). Gan fod y bwriad y tu allan i’r ffin datblygu fel y’i nodir yn y CDLl ar y Cyd ac nad yw’n cwrdd â pholisïau’r Cynllun, mae’n rhaid ei ystyried yn erbyn y sefyllfa wrth gefn, sef a oes tebygolrwydd y bydd y caniatâd presennol yn cael ei weithredu ac a yw’n debygol bod newidiadau/ychwanegiadau i'r caniatâd yn welliant ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol. Cadarnhaodd y Swyddog fod y caniatadau perthnasol y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol wedi'u gweithredu gan fod dipyn o waith datblygu wedi’i wneud ar yr annedd. At hyn, ystyrir bod y newidiadau/ychwanegiadau arfaethedig, sef porth blaen, estyniad ochr, garej ar wahân a mynedfa ddiwygiedig yn dderbyniol ac yn welliant ar y cynllun a ganiatawyd yn flaenorol. Nid ystyrir y bydd y newidiadau hyn yn amharu ar gymeriad ac edrychiad yr ardal nac ar fwynderau eiddo cyfagos. Argymhellir, felly, ganiatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Liz Wood.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.2 FPL/2022/151 – Cais llawn i newid defnydd o fod yn dir amaethyddol i fod yn rhan o’r cwrtil preswyl yn Rhyd Goch, Llanfaethlu

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasolfel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro, fel sy'n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod yr ymgeisydd yn datgan bod safle'r cais, yn hanesyddol, wedi ei ddefnyddio’n rhan o gwrtil preswyl yr eiddo a bod cais arfaethedig am Dystysgrif Cyfreithlondeb i ddefnyddio'r tir fel cwrtil preswyl wedi ei atal oherwydd bod defnydd amaethyddol wedi’i wneud yn ddiweddar o'r tir. Mae'r ymgeisydd hefyd wedi cadarnhau bod ei fam oedrannus yn byw yn Rhyd Goch ar hyn o bryd ac mai'r rheswm dros ymestyn y cwrtil yw er mwyn gallu gosod carafán sefydlog ar y tir. Bydd y garafán sefydlog yn cael ei defnyddio’n atodol i’r a bydd mab yr ymgeisydd yn byw ynddi er mwyn bod wrth law i gynorthwyo gyda gofal ei nain. Bydd amod ar ddefnydd y cwrtil a'r garafán sefydlog sy'n atodol i'r prif er mwyn sicrhau na fydd cwrtil nac uned breswyl yn cael eu creu, sydd ar wahân i ddefnyddio'r cwrtil a'r garafán sefydlog yn atodol i ddefnydd presennol Rhyd Goch. Er nad yw'r bwriad yn cynnwys gosod carafán sefydlog, caniateir lleoli carafán sefydlog yn atodol i ddefnyddio'r preswyl dan hawliau datblygu a ganiateir. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddatblygiadau eraill yn cael eu cyflawni ar y safle, bydd amod yn cael ei gosod ar ganiatâd yn dileu unrhyw hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas ag unrhyw adeilad neu dir caeedig. Oherwydd ei leoliad, nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar fwynderau’r eiddo cyfagos na’r ardal gyfagos ac, felly, bydd yn cydymffurfio â Pholisi PCYFF 2.

 

Y cynllun gwreiddiol a gyflwynwyd fel rhan o'r cais presennol oedd newid defnydd y cae cyfan yn rhan o gwrtil preswyl estynedig yr eiddo. Oherwydd y câi ei ystyried yn annerbyniol oherwydd maint y cwrtil estynedig, gostyngwyd y cynllun 50% ac mae bellach yn ymwneud â hanner y cae cyfagos yn unig. Ymgynghorwyd eto â deiliaid eiddo cyfagos ar y cynllun diwygiedig a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau oedd 8 Medi, 2022. Argymhelliad y Swyddog yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Liz Wood,.

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig a dirprwyo awdurdod i’r Swyddogion gyflwyno hysbysiad penderfynu yn sgil cwblhau’r cyfnod ymgynghori 8 Medi, 2022.

11.3 HHP/2022/172 – Cais llawn i ddymchwel garej a chodi un newydd yn ei lle ym  Mryn Parys, Amlwch

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan Aelod Etholedig. Mae’r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro, fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu yr ystyrir fod y bwriad yn welliant ar y garej ardd bresennol sydd ar hyn o bryd yn dadfeilio, gyda deunyddiau gwydn o ansawdd uchel wedi eu dewis ar gyfer y modurdy newydd. Gan fod yr eiddo agosaf 120m i ffwrdd, nid ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith andwyol ar fwynderau'r gymdogaeth. Nid ystyrir ychwaith fod y bwriad yn orddatblygiad o'r safle gan mai cynnydd bychan sydd mewn ôl troed o’i gymharu â’r garej presennol. O ystyried cyd-destun adeiladau eraill a defnyddiau presennol yn ogystal â maint y garej arfaethedig, ni chredir y bydd yn cael effaith ar ardal tirwedd arbennig Mynydd Parys. Mae ei ddyluniad a'i osodiad hefyd yn cael eu hystyried yn briodol ar gyfer y safle. Mae'r argymhelliad felly yn un o ganiatáu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Swyddog na fyddai codi'r garej newydd yn cael effaith andwyol ar y llwybr cyhoeddus sy'n croesi cwrtil yr eiddo.

Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robert Ll Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: