Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd:Adroddiad Cynnydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi cynnydd a datblygiadau hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd yr adroddiad yn nodi hefyd y gwaith a gyflawnwyd gan y Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod Chwarter 1 2022/23, gan gynnwys crynodeb o’r materion a ystyriwyd yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf a 12 Medi 2022.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith o ddatblygu gwasanaethau’n parhau ochr yn ochr â chyflawni cyfrifoldebau statudol o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd at rai o’r mentrau sy’n cael eu datblygu ac sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, fel a ganlyn -

·                Llwyddwyd i benodi i’r swydd newydd, Rheolwr Gwasanaeth – Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau Ieuenctid a Llesiant Pobl Ifanc, ac mae’r swydd yn pontio’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gwireddu’r weledigaeth i fod yn Ynys sy’n Wybodus o Drawma, gan gwmpasu ysgolion, y Blynyddoedd Cynnar, y Gwasanaethau Ieuenctid, y Gwasanaeth Maethu a’r Timau Gwaith Cymdeithasol.

·                Rhoi dull integredig ar waith – y Model Ysgolion Rhithwir – er mwyn gwella canlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal yn unol ag argymhellion adolygiad Syr Alasdair Macdonald o ffyrdd o wella canlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal trwy roi dull integredig ar waith ar draws Cymru.

·                Ymestyn Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru i gynnwys 49 o blant ychwanegol ar Ynys Môn yn ystod 2022/23 fel rhan o’r cam cyntaf. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos â darparwyr gofal plant a rhieni/gofalwyr yn yr ardal Dechrau’n Deg newydd.

·                Cyflawni targed Maethu Cymru Môn ar gyfer recriwtio teuluoedd maeth yn ystod 2021/22 tra’n canolbwyntio ymdrechion ar gadw gofalwyr maeth hefyd, sydd i’w weld yn gwella, gan olygu bod nifer y Teuluoedd Maeth a gymeradwywyd ac a gofrestrwyd gyda’r Cyngor yn cynyddu’n raddol.

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion drosolwg o weithgareddau yn y Gwasanaethau Oedolion yn ystod y cyfnod ers y diweddariad diwethaf, gan gynnwys –

·                Penodi Rheolwr Trawsnewid a Datblygu i weithio ar nifer o brosiectau, gan gynnwys y Rhaglen Anableddau Dysgu.

·                Cwblhau adolygiad Archwilio Mewnol cadarnhaol ar Daliadau Uniongyrchol.

·                Datblygu ystod o weithgareddau cymunedol yng Nghaergybi gan weithio ochr yn ochr â Boston Centre Stage.

·                Rhoi trefniadau cronfeydd cyfun ar waith gyda BIPBC i gefnogi pecynnau gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

·                Sefydlu Canolfan Dementia sy’n cynnig gwasanaethau dementia pwrpasol ar gyfer unigolion a gofalwyr.

·                Uno gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt y Gwasanaethau Oedolion a Theulu Môn er mwyn ffurfio un pwynt mynediad, neu ddrws ffrynt, integredig.

·                Cynyddu ymdrechion i recriwtio gweithwyr gofal cartref a chartrefi gofal gydag ymgyrch hysbysebu ar gerbydau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol.

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel tystiolaeth o gynnydd a wnaed a thynnodd sylw at nifer o agweddau i’w canmol yn neilltuol, ac yn arbennig llwyddiant yr ymgyrch i recriwtio Gofalwyr Maeth, y fenter cronfeydd cyfun gyda’r Bwrdd Iechyd a’r dull creadigol a dyfeisgar o fynd i’r afael â phroblemau a goresgyn anawsterau. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod rhaid costio pob cynllun/newid yn llawn a bod rhaid iddynt fod yn gost effeithiol yn ogystal â gwella ansawdd ac effeithiolrwydd.

Er bod cyllid yn ffactor bob amser, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth yn ofalus o ran ei wariant a’i fod yn defnyddio adnoddau yn y gymuned os yw’n gallu gwneud hynny. Er bod nifer o’i gyfrifoldebau yn statudol, sy’n golygu mai dim ond y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gallu eu cyflawni, mae’n ceisio canfod atebion creadigol i’r heriau sy’n ei wynebu, gan gynnwys bod yn barod ar gyfer y gaeaf gan wybod y gallai problemau annisgwyl godi, megis tymor ffliw difrifol a’i effaith bosib ar absenoldebau staff. Mae’r Gwasanaeth yn cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau fod mesurau ar waith a rhoi sicrwydd y gellir cyflawni’r gwasanaethau a gynlluniwyd. Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos hefyd â’r Gwasanaeth Cyllid a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng swyddogion priodol.

Nododd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Plant ac Ieuenctid, fod y Cyngor yn aml ar flaen y gad o ran datblygu syniadau a mentrau newydd yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a bod nifer ohonynt yn canolbwyntio ar ataliaeth a’u bod, o’r herwydd, yn arbed arian drwy leihau’r angen i blant ddod i mewn i’r system ofal yn y lle cyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion, fod angen ateb gwleidyddol ar gyfer y problemau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a bod angen rhoi mwy o bwyslais ar ofal cymdeithasol o ran sylw gwleidyddol a buddsoddiad, yn arbennig o ystyried yr heriau sydd o’n blaenau.

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynwyd –

·                Cadarnhau fod y Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau hyd yma ym maes y Gwasanaethau Cymdeithasol, a bod

·                Y Pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod cynnydd a chyflymder y gwelliannau ym maes y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.

 

Dogfennau ategol: