Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2021/22

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i osod a chyhoeddi amcanion llesiant a chymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyda chynrychiolaeth o gyrff cyhoeddus allweddol. Bob pum mlynedd mae’n rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd a’i ddefnyddio fel sylfaen i’r Cynllun Llesiant ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Nododd fod gweithio mewn partneriaeth wedi canolbwyntio ar chwe maes yn ystod cyfnod Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2017-2022 h.y. Yr iaith Gymraeg, Tai i bobl leol, Effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau, Effaith newid hinsawdd ar lesiant cymunedau, Iechyd a gofal oedolion a Lles a chyflawniad plant a phobl ifanc. Dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir bod angen fframwaith i amlygu’r ffaith fod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gwaith partneriaeth yn ychwanegu gwerth yn y prif feysydd y mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

 

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Pwyllgorau Sgriwtini awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn yn craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyflwynir adroddiad ddwywaith y flwyddyn. Nododd fod gweithdai wedi’u cynnal, gyda chymorth Cyd-gynhyrchu Cymru, er mwyn caniatáu i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried a yw blaenoriaethau presennol yn parhau i fod yn berthnasol ac adolygu rôl a phwrpas y Bwrdd yn y dyfodol. Mae aelodau’r Bwrdd yn awyddus i wneud cyfraniad ystyrlon i’r dirwedd partneriaethau heb ddyblygu gwaith partneriaethau eraill, felly bydd y Cynllun Llesiant nesaf yn nodi’n glir ai rôl arweiniol neu rôl gyflawni sydd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â’r blaenoriaethau Llesiant. Bwriedir cyhoeddi’r Cynllun Llesiant terfynol ynghyd ag amcanion manwl ym mis Mai 2023.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Nodwyd fod y Pwyllgor wedi cael ei hysbysu yn y gorffennol nad yw sefydliadau partner yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rheolaidd. Gofynnwyd a yw presenoldeb wedi gwella yng nghyfarfodydd y Bwrdd yn ddiweddar. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod rhaid i rai cynrychiolwyr statudol fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a’r bwriad yw ailymweld ag aelodaeth y Bwrdd i weld a ellir gwahodd cynrychiolwyr o sefydliadau eraill i fynychu. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ac Arweinydd Cyngor Gwynedd yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a bod presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd wedi gwella ers symud i gyfarfodydd rhithwir.

·           Nodwyd nad yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno dyblygu’r gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill. Codwyd cwestiynau am y sefydliadau niferus eraill sy’n bodoli ac sy’n cyhoeddi cynlluniau datblygu strategol a gofynnwyd a fydd y cynlluniau datblygu strategol a gyhoeddir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ychwanegu gwerth. Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid edrych ar y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o bersbectif cymunedol a’r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar breswylwyr yr Ynys a Gwynedd. Dywedodd ei fod yn hyderus fod y Bwrdd yn canolbwyntio ar wella llesiant preswylwyr Ynys Môn a Gwynedd a bod gweithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol yn creu cyfleoedd, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol o dlodi a’r argyfwng costau byw.

·           Gofynnwyd cwestiynau am y gwerth ychwanegol sy’n deillio o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i breswylwyr yr Ynys. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth sefydlu’r Cynllun Llesiant nesaf, yn bwriadu mesur y blaenoriaethau a’r targedau yn y ddau awdurdod lleol a sicrhau bod fframwaith ar gael i fesur yr effaith y gall y Bwrdd ei gyflawni yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2021/22.

 

GWEITHRED : Fel y nodir uchod.  

 

Dogfennau ategol: