Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Cymru ar ei Raglen Waith a’r Amserlen ar 30 Mehefin, 2022 er gwybodaeth i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd a statws gwaith archwilio ariannol a pherfformiad Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys astudiaethau wedi'u cynllunio a'u cyhoeddi ac yn cynnwys gwaith Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch archwilio'r datganiadau ariannol a ph’un ai y gallai fod unrhyw faterion a allai ohirio’r gwaith o gwblhau'r archwiliad erbyn y dyddiad cau ar ddiwedd mis Tachwedd, cadarnhaodd Ms Yvonne Thomas, Arweinydd Archwilio Cymru, fod yr archwiliad yn parhau a bod rhan sylweddol o'r gwaith wedi ei gwblhau. Er nad oes unrhyw faterion wedi'u nodi hyd yma mae rhai gwelliannau wedi'u hamlygu; unwaith y daw'r cyfrifon diwygiedig i law Archwilio Cymru ynghyd â’r wybodaeth brisio y mae'r Cyngor yn ei darparu - deallir bod hynny ar fin digwydd - ni ddylai’r gwaith o gwblhau'r archwiliad gael ei ohirio. Fodd bynnag, mae mater posibl wedi codi mewn perthynas â thrin asedau isadeiledd a sut mae'r rhain yn cael eu harchwilio – disgwylir am ganllawiau pellach a chadarnhad ynghylch y sefyllfa derfynol ar y mater hwn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredu (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 er y cytunwyd ag Archwilio Cymru i flaenoriaethu’r meysydd hynny o'r cyfrifon y gellir eu harchwilio, mae dau fater sy'n effeithio ar bob cyngor yng Nghymru a'r rhan fwyaf yn Lloegr sy'n ymwneud â –
· Phrisio eiddo, peiriannau ac offer. Gan fod prisiau eiddo ar gynnydd a gan nad yw pob eiddo'n cael ei brisio'n flynyddol, mae pryderon wedi'u lleisio y gallai gwerth eiddo felly gael ei dan ddatgan ar fantolenni’r awdurdod lleol. Mae'r Cyngor yn gorfod gwneud gwaith pellach i ddangos nad yw gwerth ei eiddo yn cael ei dan ddatgan neu os ydyw, o faint. Tra bod trafodaethau rhwng Archwilio Cymru a CIPFA ynglŷn â sut y gall cynghorau ddangos hyn wedi achosi rhywfaint o oedi, mae Ynys Môn wedi penderfynu cynnal prisiad bwrdd gwaith sydd yn y broses o gael ei gwblhau ac yn dilyn hynny bydd yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r archwilwyr.
· Trin asedau isadeiledd sy'n cynnwys ffyrdd a phontydd. Yn hanesyddol mae'r rhain wedi cael eu prisio ar y fantolen yn ôl y gwariant arnynt a chânt eu dibrisio dros amser. Mae mater wedi ei godi mewn perthynas â sut mae cynghorau'n dangos, pan fydd rhan o ased isadeiledd yn cael ei newid fod gwerth yr ased gwreiddiol wedi ei ddibrisio i sero yn y cyfrifon. Er mai dyna'r dybiaeth, gofynnir i gynghorau ddarparu tystiolaeth ategol sef gwybodaeth nad yw llawer o gynghorau yn ei chadw gan nad ydynt yn cofnodi gwariant/gwerth asedau fel hyn.
Mae trafodaethau rhwng y cyrff cyfrifo perthnasol i ddod o hyd i ffordd ymlaen o ran cyfrifon 2021/22 (ac yn achos rhai awdurdodau lleol yn Lloegr o ran cyfrifon 2020/21 lle mae hyn yn parhau i fod yn fater sydd angen sylw ac yn atal eu cadarnhau) yn parhau a gallai hyn ohirio’r gwaith o gwblhau’r broses archwilio cyfrifon. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno hawl statudol i ddiystyru’r maes hwn o’r gofynion yn y Cod Ymarfer. Fodd bynnag, hyd nes y gwneir hynny neu os na fydd yr hawl statudol yn cael ei gyhoeddi mewn pryd gallai cyfrifon 2021/22 y Cyngor fod yn destun barn archwilio gymwys ar y sail nad ydynt yn cydymffurfio â'r Cod wrth drin asedau isadeiledd fel y mae, neu tra bo’n aros am ateb i'r mater, bydd y dyddiad cau statudol ar gyfer cyhoeddi'r cyfrifon archwilio yn cael ei fethu. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Prif Swyddogion Cyllid y 22 awdurdod lleol yng Nghymru fel Cymdeithas Trysoryddion Cymru wedi uwchgyfeirio’r mater i Archwilio Cymru a Cipfa Cymru a bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'u pryderon gan fod cynrychiolaeth o'r gwasanaeth sifil yn y cyfarfodydd hynny.
Gan gydnabod yr angen am ddatrysiad buan i'r mater, mynegodd y Pwyllgor bryder am y diffyg cynnydd i ddod i benderfyniad ar sut i fwrw ymlaen a'r effaith bosibl o ganlyniad ar broses archwilio’r cyfrifon os na wneir penderfyniad mewn pryd i'r Cyngor allu cadw at y dyddiad cau statudol. Pwysleisiwyd y dylid ystyried pob llwybr ac awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi’r sylwadau a wnaed eisoes neu fod y Cyngor trwy'r Arweinydd a/neu'r Prif Weithredwr yn gweithredu law yn llaw â chynghorau eraill Cymru i gyflwyno sylwadau yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru ynghylch yr angen i gyflwyno hawl statudol i ddiystyru’r maes hwn. Er mwyn hwyluso'r mater ymhellach, dywedodd Cyfarwyddwyr Swyddogaeth (Adnoddau)/y Swyddog Adran 151 y byddai'n codi pryderon y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf o Grŵp Gweithredu Cymdeithas Trysoryddion Cymru ddydd Mercher, 5 Hydref, 2022.
Nodwyd Rhaglen Archwilio Cymru a'r Diweddariad o’r Amserlen.
Dogfennau ategol: