Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – TPO/2022/16 - Tir rhwng yr cronfa ddwr a 30, Ty Mawr Estate, Porthaethwy

TPO/2022/16

 

12.2 – VAR/2022/48 - Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

VAR/2022/48

 

12.3 – FPL/2022/134 – Tithe Barn, Henblas, Llangristiolus

FPL/2022/134

 

12.4 – DIS/2022/62 - Ysgol Y Graig, Ffordd y Coleg, Llangefni

DIS/2022/62

 

12.5 – VAR/2021/65  - Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo

VAR/2021/65

 

12.6 – HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona

HHP/2022/46

 

12.7 – HHP/2022/219 – 7 Tre Gof, Llanddaniel

HHP/2022/219

 

12.8 – HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre

HHP/2022/171

 

12.9 – FPL/2022/216 – Glanllyn, Llanedwen

FPL/2022/216

 

12.10 – FPL/2022/198 – Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Mon, Llangefni

FPL/2022/198

 

Cofnodion:

12.1   TPO/2022/16 – Cais i wneud gwaith ar 6 o goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ar dir rhwng y gronfa ddŵr a 30, Ystâd Tŷ Mawr, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n berchen ar y safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cyfeirio at waith ar 6 choeden sy'n destun Gorchymyn Diogelu Coed o'r enw 'Hen Gronfa Ddŵr' Porthaethwy a wnaed yn 1988.  Mae'r coed wedi'u lleoli ar dir sy'n rhan o arglawdd gogleddol y gronfa ddŵr, oddi ar ffordd Pentraeth ym Mhorthaethwy.  Yn ddiweddar, cynhaliwyd arolwg ar y coed oherwydd clefyd y coed ynn a bwriedir torri chwe choeden

oherwydd eu cyflwr a’u lleoliad ger y llwybr troed ar hyd y briffordd a ddefnyddir gan y cyhoedd a phlant sy’n cerdded i Ysgol David Hughes. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   VAR/2022/48 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio rhif 45C260B (Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o A1 (man werthu) i ddefnydd cymysg A1 ac A3 (man werthu a bwyd a diod)) er mwyn newid oriau agor presennol yn Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Wrth siarad o blaid y cais dywedodd Ms Sue Madine mai hi, ynghyd â Diane Broad, sy’n rhedeg ac yn berchen a Gaffi Wiwer Goch ac Oriel Nyth y Wiwer yn Niwbwrch. Dywedodd fod slot 3 munud heddiw yn teimlo'n gwbl annigonol i ymateb i wrthwynebiadau i'r cais a dadlau’r achos dros ddiogelu swyddi a dyfodol y busnes. Mae’r adran gynllunio yn tybio y bydd agor y caffi gyda'r nos yn cael effaith andwyol ar drigolion cyfagos. Hwn yw'r unig fusnes allan o 5 ar y sgwâr sy'n gorfod cau am 5pm. Ers agor yn 2014, mae'r busnes wedi darparu swyddi i 25 o bobl leol sy'n siarad Cymraeg yn bennaf; Ar hyn o bryd mae'n cyflogi 5, gyda channoedd o filoedd o bunnoedd yn cael ei gynhyrchu i'r economi leol. Mae'r caffi yn cefnogi neu'n cael ei wasanaethu gan 8 o gwmnïau o Ynys Môn. Mae'r oriel yn fan arddangos a gwerthu i 12 o grefftwyr annibynnol Ynys Môn. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiadau a godwyd yn destun dyfalu, yn farn, yn ffug a heb unrhyw wir dystiolaeth. Ar ôl blynyddoedd o gwynion yn erbyn y caffi, mae cofnodion y cyngor yn cadarnhau, er gwaethaf nifer o ymweliadau gan y cyngor ac yn llythrennol cannoedd o geisiadau i fesur sŵn gan ein cymydog agosaf, nad oes unrhyw achos o niwsans statudol wedi'i ganfod erioed. Ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi erioed. Mae'r arferion gweithio presennol a’r drefn o weithio yn y gegin wedi lleihau ymhellach lefel y sŵn a’r arogleuon. Anwiredd yw dweud bod cwsmeriaid yn cael cyfarwyddyd i barcio ar draws tramwyfeydd pobol.  Bydd unrhyw un sydd yn Niwbwrch yn yr haf wrth i'r traffig adael y traeth yn gwybod am yr anrhefn a achosir gan bobl yn parcio'n anghyfreithlon, yn enwedig i ddefnyddio'r 'siop sglodion', mae pobl sy'n aros am decawê yn llawer mwy tebygol o wneud hyn na phobl sy'n mynd am bryd 'eistedd i mewn'; Bydd llawer o gwsmeriaid yn cerdded i'r caffi gyda'r nos. Mater i awdurdodau ddelio ag ef yw traffig a pharcio, a hynny mewn ffordd deg a chyfartal i holl fusnesau a thrigolion y pentref, gan roi cyfle cyfartal, ac i beidio â chosbi 1 busnes trwy ganiatáu i’r hyn sydd wedi digwydd ddatblygu. Cyfaddawd i’r bwriad i gau ein cegin am 9pm, fyddai rhoi'r gorau i weini alcohol am 9.30pm a chau am 10pm. Roedd yr adran gynllunio eisoes yn gwybod nad yw'r drwydded safle yn caniatáu i gwsmeriaid eistedd y tu allan ar ôl 9pm. Ond eto mae hyn wedi ei wrthod. Mae’n siomedig nad yw’r adran gynllunio am roi arweiniad ynghylch yr hyn a fyddai'n 'dderbyniol'. Sut y gall agor y caffi gyda'r nos fod yn fwy niweidiol nag effaith y dafarn sy'n ffinio â 2 eiddo preswyl ac sydd â gardd gwrw yn y cefn? Ym mha ffordd mae gwrthod ein cais yn deg a chyfartal pan fydd y caffi’n cau’n gynharach, yn dal llai o bobl, heb ‘focs jiwc’, karaoke na cherddoriaeth fyw? Rydym yn chwarae cerddoriaeth isel yn y cefndir. Trwy agor gyda’r nos, bydd y caffi ond yn ychwanegu at y gymuned a bywyd y pentref. Bydd yn creu swyddi ac yn cynnig opsiwn arall, nid tafarn neu glwb nos mohono, ond caffi, lle mae pobl yn dod yn bennaf i fwyta. Ar hyn o bryd, dim ond 3% o werthiant eitemau yw gwerthiant yr alcohol. Nid ydym mewn cystadleuaeth uniongyrchol ag unrhyw un o fusnesau eraill y pentref, sydd i gyd yn agor gyda’r nos. Yn syml, bydd yn cynnig opsiwn arall i fwyta-i-mewn. Bron i 4 mis ers cysylltu â’r adran gynllunio, rydym nawr yn gofyn i'r pwyllgor roi'r un hyblygrwydd ac ystyriaeth i ni â'r busnesau eraill yn y pentref. Yn yr amseroedd hyn lle mae ansolfedd busnesau lletygarwch bach wedi cynyddu 60% rydym yn gofyn i chi drin y cais hwn yn deg gyda gweledigaeth ac yn unol â Chynllun Trosiannol Môn 2022-2023, h.y. cefnogi busnesau. Rydym yn gobeithio bod y pwyllgor wedi gweld y nifer helaeth o sylwadau sy’n cefnogi ein cais a anfonwyd at aelodau ein cyngor a’r adran gynllunio. Gofynnwn hefyd i'r pwyllgor wneud penderfyniad nad yw'n golygu bod angen ceisiadau pellach, yn achosi oedi a chostau.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn adeilad cornel sydd wedi'i leoli ar groesffordd yng nghanol anheddiad Niwbwrch.  Defnyddiwyd yr adeilad yn flaenorol fel adeilad Dosbarth A1 (swyddfa’r post) a rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo ym mis Ionawr 2017 ar gyfer datblygiad cymysg sy'n cynnwys A1 ac A3 i'w ddefnyddio fel caffi/manwerthwr tecawê/bwyd poeth.  Roedd amod (04) o'r caniatâd yn cyfyngu ar oriau agor y safle i 9.00 - 5.00pm (Dydd Llun i ddydd Sadwrn a 10.00. i 4.00pm ar ddydd Sul).  Mae'r cais nawr yn gofyn am ymestyn yr oriau agor o 8.00. - 11.00pm am 7 diwrnod yr wythnos.  Prif ystyriaethau’r cais felly yw a fydd ymestyn yr oriau agor yn cael effaith niweidiol ar amwynderau eiddo cyfagos.  Mae'r eiddo sy’n union gyfagos ato, sydd wedi'i leoli ar Stryd y Capel yn Siop Pysgod a Sglodion sydd ar agor tan 8.30pm, yn yr haf a 7.30 p.m., yn y gaeaf ac mae siop bob dim wedi'i lleoli ar gornel dros y ffordd ar Stryd y Capel ar agor tan 9.00 p.m.  Mae yna hefyd Dafarn sydd wedi'i leoli dros ffordd i siop Premier Store.   Nododd ymhellach fod yr eiddo'n defnyddio'r ardal allanol i ddarparu lle eistedd i gwsmeriaid.  Yr argymhelliad yw gwrthod y cais gan y bydd ymestyn oriau agor yr eiddo tan 11pm, 7 diwrnod yr wythnos yn y lleoliad hwn â photensial uchel o achosi cynnydd mewn lefelau sŵn yn yr ardal gyfagos. Mae’n anochel y byddai’r cais yn achosi sŵn wrth agor gyda’r nos wrth i gwsmeriaid gymdeithasu a byddai cwsmeriaid yn mynd a dod yn siŵr o achosi sŵn ac aflonyddwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams nad oedd yn deall yr argymhelliad i wrthod y cais hwn i ymestyn oriau’r Caffi hwn yn Niwbwrch gan fod y Dafarn dros y ffordd i’r caffi ac sydd ar agor tan 11.00 p.m., ac y gallai o bosibl agor 24 awr y dydd.  Roedd yn ystyried na fyddai ymestyn oriau'r caffi yn effeithio ar amwynderau eiddo cyfagos. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis ei bod hithau hefyd yn ansicr pam mai gwrthod y cais hwn yw'r argymhelliad gan y bydd y cwsmeriaid yn y Dafarn yn eistedd y tu allan yn yr ardd gwrw i yfed, ysmygu a gwrando ar gerddoriaeth fyw.  Nododd fod y caffi yn gweini bwyd ac alcohol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygiad fod yr eiddo wrth ymyl y Dafarn wedi arfer ag oriau agor y dafarn ym mhentref Niwbwrch.  Fodd bynnag, os bydd yr eiddo drws nesaf i Gaffi Wiwer Goch wedi arfer â'r caffi'n cau am 5.00 pm, bydd ymestyn yr oriau o agor tan 11.00 pm, yn cael effaith ar amwynderau'r eiddo cyfagos. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mai cyfaddawd posibl fyddai ymestyn oriau agor y caffi am gyfnod prawf o 2 flynedd.  Gallai unrhyw niwsans sŵn a adroddir o'r safle gael ei fonitro a'i adrodd yn ôl drwy'r weithdrefn niwsans sŵn statudol.  Ar ddiwedd y cyfnod treialu gellid dod i benderfyniad a ddylid gwneud yr oriau agor estynedig yn barhaol neu eu gwrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robing Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo'n groes i argymhelliad y Swyddog a chaniatáu i’r caffi fod ar agor o 9.00 y bore, tan 10.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, gan dreialu hynny am gyfnod o 2 flynedd. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

Penderfynwyd:-

 

·         cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn na fyddai'r cais yn achosi effeithiau andwyol annerbyniol ar amwynderau preswyl trigolion cyfagos gan fod eiddo masnachol eraill wedi'u lleoli yn yr ardal gyfagos;

·         caniatáu i'r eiddo agor rhwng 9.00 a.m. a 10.00 p.m., saith diwrnod yr wythnos, gan dreialu hynny am gyfnod o ddwy flynedd.

 

(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad cafodd y cais ei ohirio'n awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i'r Swyddogion ymateb i'r rheswm a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).

 

12.3   FPL/2022/134 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i lety gwyliau 2 ystafell wely ar osod yn Ysgubor Ddegwm, Henblas, Llangristiolus

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Nicola Roberts oherwydd pryderon ynghylch effaith tai gwyliau ar yr Ynys a dywedodd hefyd fod angen craffu’n fanylach ar y cynllun oherwydd arwyddocâd hanesyddol a lleol yr adeilad.  Mae’r safle wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored yn ardal Llangristiolus, a cheir mynediad i’r safle ar hyd

lôn breifat sydd hefyd yn darparu mynediad i’r fferm a chyfleusterau priodas Henblas. Fe’i dynodwyd yn Ardal Tirwedd Arbennig ac mae’n ffurfio rhan o ddynodiad Cors Ddyga a’r Cyffiniau. Mae’r safle’n cynnwys yr Ysgubor Ddegwm a addaswyd yn ddiweddar, ynghyd â’r ardd gysylltiedig a’r lôn fach at yr adeilad.  Mae’r Ysgubor Ddegwm ei hun yn Adeilad Rhestredig ac felly, gan ei fod yng nghwrtil Adeilad Rhestredig, mae’r strwythur y mae a wnelo’r cais hwn ag o hefyd yn strwythur Rhestredig. Mae’r strwythur mewn cyflwr gwael iawn ac nid oes to nac unrhyw ffenestri/drysau arno. Yn hanesyddol roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel bwthyn ac mae caniatâd cynllunio’n bodoli’n barod i’w addasu’n garej o

dan gais rhif VAR/2020/15.  Mae’r cais hwn ar gyfer troi’r adeilad sydd wedi mynd â’i ben iddo yn uned wyliau dwy ystafell wely ynghyd a’i addasu a’i ymestyn. Mae’r cynnig yn bwriadu cadw’r strwythur adfeiliedig trwy ei ddefnyddio fel rhyw fath o gladin, gyda strwythur newydd yn cael ei adeiladu y tu mewn i’r waliau i ffurfio’r uned wyliau. Bydd y strwythur presennol yn cynnwys dwy ystafell wely, tra bydd yr estyniad yn darparu lle ar gyfer ardal fyw agored ynghyd ag ystafell cadw offer a storfa.  Mae cynllun y cynnig yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan Swyddog Treftadaeth yr awdurdod lleol ac nid ystyrir y bydd yn cael effaith andwyol ar yr Ysgubor Ddegwm.  Er nad yw’r cynllun yn cydymffurfio â TWR 2 mewn gwirionedd, ystyrir mai defnydd gwyliau yw’r defnydd mwyaf derbyniol o ran hwyluso datblygiad a pholisïau eraill yn y CDLlC. Mae caniatâd yn bodoli eisoes ar gyfer y strwythur, i’w ddefnyddio fel garej, ond ystyrir bod llety gwyliau yn ddefnydd mwy cydnaws o ystyried defnydd hanesyddol y strwythur fel bwthyn. Roedd y Cyngor Archeolegol Prydeinig yn rhannu’r farn hon hefyd, a chyflwynwyd y sylwadau a ganlyn ganddynt ar y cais Caniatâd Adeilad Rhestredig sy’n cyd-fynd â’r cais hwn, ‘mae’r defnydd domestig yn fwy cydnaws â threftadaeth y safle yn hytrach nag addasu’r adfeilion yn garej a storfa. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach nid yw’r cynllun yn cydymffurfio â pholisi llety gwyliau perthnasol y CDLl ar y Cyd mewn gwirionedd ond, serch hynny, yn unol â pholisi AT 2 ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol, ar ôl pwyso a mesur ystyriaethau cynllunio, gan y bydd yn diogelu defnydd y strwythur i’r dyfodol ac yn cadw’r ased hanesyddol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, ar ran y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd yn gorfod gadael y cyfarfod, fod y Cynghorydd Roberts wedi galw'r cais i mewn i'w ystyried gan y Pwyllgor ond ar ôl derbyn adroddiad y Swyddog, roedd hi o blaid cymeradwyo'r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4    DIS/2022/62 – Cais i ryddhau amod (02a) ( Archaeolegol), (07) (Asesiad Risg Bioddiogelwch) a (17) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/361 (codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd) a MAO/2022/16 (Mân newidiadau) ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu fod caniatâd cynllunio wedi’i roi o dan gais cynllunio FPL/2021/361 ar gyfer adeiladu uned cyfnod sylfaen a gofal plant newydd ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni. Cyflwynwyd cais am fân newidiadau wedi hynny o

dan MAO/2022/16 er mwyn gwneud mân newidiadau i eiriad rhai o’r amodau gwreiddiol.  Roedd Amod (02) (a) cais cynllunio FPL/2021/361 yn gofyn i’r ymgeisydd ddarparu manyleb ar gyfer rhaglen waith archeolegol ar gyfer y safle.  Derbyniwyd Cynllun Archwilio Ysgrifenedig ar gyfer Lliniaru Archeolegol gan yr ymgeisydd ac mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r wybodaeth ac y gellir rhyddhau Amod (02) (a).

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5   VAR/2021/65 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 13 a 14 o ganiatâd cynllunio rhif 47C74 Codi 34 o felinau gwynt 53 metr mewn uchder llawn ynghyd a darparu lôn atynt a gwneud gwaith datblygu cysylltiedig yn cynnwys darparu cyfnewidyddion ac is-orsaf a thri mast anemomedr ar dir tua'r Gogledd o  Lyn Alaw er mwyn ymestyn y cyfnod gweithredu tan 22/10/2032, ymestyn y cyfnod datgomisiynu i 12 mis a chael eglurhad ynghylch y cyfnod i ddatgomisiynu’r tyrbinau gwynt os yw'n methu â chynhyrchu trydan parhaus yn Fferm Wynt Llyn Alaw, Llanbabo

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod atodiad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn cyd-fynd â'r cais, ac mae angen ei gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.5(ii) o'r Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn gofyn am amrywio amod 13 i ganiatáu ymestyn cyfnod gweithredol y tyrbinau am gyfnod pellach o 10 mlynedd hyd at 22.10.2032. Wedyn, mae’r cais hefyd yn gofyn am amrywio amod 13 i ymestyn y cyfnod pryd y bydd angen datgomisiynu’r fferm wynt (ac eithrio’r is-orsaf) yn ogystal ag ymestyn y cyfnod pryd y bydd angen tynnu tyrbin gwynt i lawr os nad yw’n cynhyrchu trydan ar gyfer y grid lleol.  Roedd cronfa budd cymunedol yn ei lle fel rhan o’r cais gwreiddiol. Cyfanswm y gronfa oedd dros £42,000 y flwyddyn (£2,062 y mynegai MW wedi’i gysylltu). Fel rhan o’r cynnig presennol, mae’r ymgeisydd yn bwriadu cynyddu’r gronfa budd cymunedol i £3,000 y MW o’r adeg y daw’r caniatâd presennol i ben. Rhennir yr arian rhwng Cynghorau Cymuned Tref Alaw, Llannerch-y-medd a Mechell a fydd wedyn yn gyfrifol am weinyddu’r arian yn ôl y drefn bresennol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6   HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Nhan yr Allt Bach, Llanddona

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gwnaed cais gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol fod y pwyllgor yn ymweld â safle'r cais oherwydd pryderon lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor y dylid ymweld â'r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.7   HHP/2022/219 – Cais llawn i ddymchwel ac ehangu yn 7 Tre Gof, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais a gyflwynir yn un i godi estyniad un llawr i gefn yr annedd. Mae safle’r cais yn eiddo deulawr mewn tŷ pâr wedi’i leoli yn stad Tre Gof o fewn ffin datblygu Llanddaniel fel y diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Ystyriwyd y cynnig ac ni ystyrir y bydd yn cael effaith negyddol ar breifatrwydd ac amwynderau eiddo cyfagos.  Bydd ffens bren dwy fedr o uchder ar hyd ochr a chefn yr eiddo yn sicrhau na fydd unrhyw faterion edrych drosodd yn codi o ganlyniad i’r estyniad newydd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8    HHP/2022/171 – Cais llawn i addasu ac ehangu gyda balconïau Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gwnaed cais gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol fod y pwyllgor yn ymweld â safle'r cais gan fod trigolion lleol â phryderon y byddai'n gor-ddatblygu'r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid ymweld â'r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.9   FPL/2022/216 – Cais llawn ar gyfer estyniad i'r cwrtil yng Nglanllyn, Llanedwen, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig yn cynnwys ymestyn cwrtil preswyl yr eiddo.  Mae'r eiddo yn ffermdy pâr, sydd wedi'i leoli mewn lleoliad cefn gwlad agored yn Llanedwen.  Mae'r cynnig yn cynnwys ymestyn cwrtil preswyl Glanllyn i'r tir amaethyddol i'r gogledd-orllewin, a'r tu ôl i iard gefn Porth Amel.  Bydd y rhan estynedig o’r cwrtil yn mesur tua 451m² gan ddod â chwrtil preswyl Glanllyn i gyfanswm o 530m².  Mae safle’r cais o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Ystyrir y bydd graddfa fach y cais yn integreiddio’n dda i’r dirwedd gyfagos.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10  FPL/2022/198 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer 470kW ac ystafell beiriannau sy'n cynnwys 2 Bwmp Gwres Ffynhonnell Dŵr ynghyd â datblygiad cysylltiedig yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais yn dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig ar gyfer gosod cwpwrdd GRP sy’n mesur 8.3m x 5.3m x 3m i gadw 2 bwmp gwres ffynhonnell dŵr ynghyd â gosod 2 bwmp ffynhonnell aer ar ffrâm ddur fodiwlaidd 0.7m uwchben lefel y ddaear. Mae’r unedau wedi cael eu dylunio i’r safonau gofynnol er mwyn cyfyngu mynediad a sicrhau bod digon o le o amgylch y pwmp ffynhonnell aer a’r ystafell beiriannau er mwyn caniatáu gweithfan addas ac i wneud yn siŵr bod modd cael at yr unedau hyn. Bydd yr unedau arfaethedig wedi’u lleoli yng nghefn adeilad y Cyngor a byddant wedi’u sgrinio’n dda gan dopograffi a llystyfiant.  Mae Asesiad Effaith Sŵn yn cyd-fynd â'r cais.  Mae’r asesiad yn nodi bod angen mesurau lliniaru i fodloni meini prawf yr awdurdod lleol o safbwynt Iechyd yr Amgylchedd, ac felly fe argymhellir amgáu’r unedau er mwyn gostwng y sŵn ryw 22dB o leiaf. Dywedodd ymhellach fod Cynllun Gwella Bioamrywiaeth hefyd yn cyd-fynd â'r cais sy'n cynnig darparu 2 flwch ystlumod, 2 flwch adar ac ehangu’r ddôl blodau gwyllt i wneud iawn am y nodweddion bywyd gwyllt a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i’r datblygiad.  Ymgynghorwyd â'r Cynghorydd Ecolegol ar y cynigion ac mae'n fodlon bod y gwelliannau bioamrywiaeth a gynigir yn briodol o ran polisïau perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor fod y cais yn cael ei gymeradwyo.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig

Dogfennau ategol: