Eitem Rhaglen

Tlodi ac Heriau'r Argyfwng Costau Byw

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu sut mae’r Cyngor yn ymateb i dlodi a heriau’r argyfwng costau byw cenedlaethol sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau, busnesau a chyrff eraill ar Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am argaeledd budd-daliadau a chymorth ariannol, y cynllun cinio ysgol am ddim a chynlluniau ataliol eraill.

Wrth osod y cyd-destun, dywedodd y Prif Weithredwr fod tlodi a heriau costau byw yn effeithio ar fywydau llawer o drigolion Ynys Môn erbyn hyn, gan gynnwys plant, ac mae’n cael effaith ar draws Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol hefyd. Mae prinder cyfleoedd gwaith o ansawdd, cyflogau digonol, dibyniaeth ar fudd-daliadau a chostau cynyddol oll yn cyfrannu at yr argyfwng. Mae cynnydd diweddar mewn chwyddiant, cyfraddau llog, morgeisi a chostau benthyg yn creu pwysau ychwanegol i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau. Mae’r ansicrwydd cyffredinol yn effeithio ar bawb, gan gynnwys y Cyngor, ac mae’n anodd darogan sut ac ymhle fydd mesurau pellach gan Lywodraeth y DU a Banc Lloegr yn effeithio ar bobl Ynys Môn. Er bod y newid diweddar ym mholisi Llywodraeth y DU, gan gynnwys y penderfyniad i beidio â pharhau â’r cynllun twf, wedi arwain at sefydlogrwydd ariannol i raddau, mae’r ansicrwydd yn parhau ar lawr gwlad. Dylai cyhoeddi cynllun economaidd newydd y Canghellor ar 31 Hydref, ochr yn ochr â rhagolwg gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ddarparu mwy o eglurder mewn perthynas â chyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw a’r sgil effeithiau ar gyllidebau Llywodraeth Cymru.

Sicrhaodd y Prif Weithredwr y byddai staff y Cyngor yn parhau i weithio’n galed yn y cyfamser i gefnogi trigolion Ynys Môn cystal ag y gallant. Er nad oes gwybodaeth gyfredol ar gael gan nad yw prosesau cenedlaethol ar gyfer casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata wedi eu hadfer yn llawn ers y pandemig Covid, dengys gwybodaeth a gasglwyd gan Gyngor Ar Bopeth mai’r pum prif fater yn gysylltiedig â’r argyfwng costau byw a welwyd yn lleol yn ystod y pum mis diwethaf yw taliadau annibyniaeth personol, capasiti ariannol, costau ynni, capasiti ariannol a digwyddiadau bywyd, a chynllun gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod tlodi plant wedi cynyddu ar Ynys Môn rhwng 2015 a 2021, yn ôl ffigyrau a ddarparwyd gan y Gynghrair Dileu Tlodi Plant. Mae cynnydd mewn costau tanwydd yn taro ardaloedd gwledig yn galed iawn ac er bod nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi gostwng o 4.7% i 3.2% ym mis Awst 2022, mae’r newyddion am ddiswyddiadau posib yn ffatri Alpoco yng Nghaergybi yn peri pryder. Mae’r Cyngor yn ceisio creu dadansoddiad mwy manwl a mwy cyfredol o ddangosyddion tlodi a chostau byw ond mae’n dasg heriol.

Er bod yr argyfwng wedi arwain at gynnydd yn y galw am nifer o wasanaethau sy’n gofyn am ddarparu ymyraethau a mesurau cymorth, ni welwyd yr un cynnydd mewn capasiti er mwyn delio â’r gwaith ychwanegol. Er gwaetha’r ansicrwydd a phwysau personol, mae ymrwymiad staff y Cyngor a’u dyhead i helpu eraill yn parhau i fod yn gryf ac mae angen diolch iddynt, ac yn arbennig staff rheng flaen a staff a fu’n prosesu taliadau budd-daliadau, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Wrth weithio gyda chymunedau a sefydliadau eraill, bydd y Cyngor yn gallu cyflawni mwy ac mae’r trefniadau cydweithio rhwng y Cyngor a sefydliadau lleol, a weithiodd mor effeithiol yn ystod y pandemig, yn profi eu gwerth unwaith eto yn ystod yr argyfwng presennol. Mae’r Cyngor wedi diweddaru ei wefan er mwyn darparu gwybodaeth am ble gellir cael cymorth a chefnogaeth gyda chostau byw ac mae dolenni’n cael eu rhannu ar ei sianelau cyfryngau cymdeithasol. Er bod yr heriau presennol yn sylweddol, mae’r Cyngor yn gwneud popeth posib gyda’r adnoddau sydd ar gael i helpu pobl yn lleol trwy weinyddu budd-daliadau a chymorth ariannol, cinio ysgol am ddim, a thrwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth ac ymyraethau amrywiol, a nifer ohonynt mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Bydd rhaid i’r Cyngor ei hun addasu yn wyneb y gostyngiad disgwyliedig mewn cyllid ac adnoddau a hynny mewn cyfnod pan mae galwadau am gymorth gan y Cyngor yn cynyddu.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 drosolwg o’r buddiannau a’r cymorth ariannol sydd ar gael ac sy’n cael eu darparu i unigolion sy’n wynebu caledi ariannol. Roedd manylion am yr ymyraethau hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc wybodaeth am sut mae’r Cyngor wedi rhoi’r Cynllun Cinio Ysgol am Ddim newydd ar waith, gan weithio gyda’r cwmni arlwyo, Chartwells, a’r Gwasanaeth Eiddo i wireddu’r cynllun hwn yn ysgolion Ynys Môn (Atodiad 2 yn yr adroddiad) a chyfeiriodd hefyd at y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol fel elfen bwysig arall o’r cymorth a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Ddysgu. Mae’r rhaglen yn darparu addysg ar fwyd a maeth, gweithgareddau corfforol, sesiwn gyfoethogi a phrydau iach yn ystod gwyliau’r haf i blant mewn ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd cymdeithasol.

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai sut ac ymhle mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau ac ymyraethau, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth, er mwyn lleihau effaith tlodi ar yr Ynys. Roedd y tabl yn Atodiad 3 yn yr adroddiad yn rhoi trosolwg o rai o’r meysydd tlodi a nodwyd y mae trigolion Môn wedi’u hwynebu ac yn parhau i wynebu ac mae’n amlygu’r risgiau a nodwyd a sut mae’r risgiau hyn yn cael eu lliniaru wrth i’r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner.

Wrth gydnabod difrifoldeb a chymhlethdod yr argyfwng costau byw presennol, cydnabu’r Pwyllgor waith caled swyddogion y Cyngor wrth geisio lleddfu’r effeithiau gwaethaf ar bobl a chymunedau Môn trwy ddarparu cymorth ariannol, cefnogaeth a chyngor a thrwy gyfeirio unigion a theuluoedd at sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig cymorth. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, ystyriwyd y materion a ganlyn a darparodd Swyddogion eglurhad a sicrwydd ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion a godwyd -

·         Niferoedd sy’n hawlio taliadau tanwydd gaeaf ac annog pobl sy’n gymwys i dderbyn y taliad i hawlio

·         Pwysigrwydd cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth am y cymorth amrywiol sydd ar gael, yn enwedig ymysg y boblogaeth wledig a phobl nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd.

·         Digonolrwydd ymyraethau cenedlaethol wrth gefnogi unigolion a chymunedau ar Ynys Môn.

·         Cost-effeithiolrwydd is-gontractio rhywfaint o’r gwaith asesu neu brosesu taliadau i gwmnïau allanol.

·         Cefnogi ysgolion i ymateb i sefyllfaoedd sensitif os oes teuluoedd ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i dderbyn cinio am eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy incwm.

·         Cynorthwyo pobl mewn ffyrdd eraill, ar wahân i gymorth ariannol, trwy eu cyfeirio neu ddarparu cyngor iddynt ar sut i ddefnyddio llai o ynni a gwella eu sgiliau cyllidebu a choginio er enghraifft, er mwyn lleihau costau bwyd.

·         Bylchau mewn meysydd sydd angen eu hystyried ymhellach o safbwynt gwaith blaengynllunio’r Cyngor.

·         Cyflymu’r gwaith o ddatblygu gwasanaeth dyledion yn y Gwasanaethau Tai er mwyn ategu a lleihau’r pwysau ar Gyngor Ar Bopeth, sef yr unig ddarpariaeth cyngor dyledion ar Ynys Môn.

Sicrhaodd yr Aelodau Portffolio y Pwyllgor eu bod yn gweithio’n agos gyda Swyddogion yn y gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt i sicrhau eu bod ym ymwybodol o ddatblygiadau ac i sicrhau fod y defnydd gorau’n cael ei wneud o adnoddau prin a bod y Cyngor yn derbyn gwerth am arian ym mhopeth a wna.

Penderfynwyd –

·                     Nodi’r cynlluniau a’r ymyraethau sydd ar waith i gefnogi unigolion a chymunedau ledled Ynys Môn drwy’r argyfwng costau byw

·                     Nodi a derbyn cadernid a digonolrwydd y cynlluniau a’r ymyraethau sydd ar waith i gefnogi pobl yr Ynys.

 

Dogfennau ategol: