Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2021/22 ac mae’n nodi sut mae’r Cyngor wedi gwireddu disgwyliadau’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol a’r Cynllun Trosiannol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, yr adroddiad a thynnodd sylw at rai o’r prif uchafbwyntiau o ran cynnydd yn erbyn y Cynllun Trosiannol a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol a chanlyniadau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer 2021/22.
Wrth ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn –
· Gwersi i’w hystyried ar gyfer y Cynllun y Cyngor newydd yn sgil cwblhau’r prosiectau/amcanion yn y Cynllun Trosiannol a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol. Sicrhawyd y Pwyllgor fod arfer da yn cael ei nodi drwy adolygiadau gwasanaeth rheolaidd a’i fod yn cael ei raeadru i staff trwy’r fforwm rheolwyr ac, yn fwy diweddar, trwy’r rheolwyr busnes.
· Heriau cynnal perfformiad da y Cyngor yn ystod y cyfnod anodd y mae disgwyl iddo ei wynebu. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol gyda bwlch posib o £18m yn y gyllideb yn ystod y cyfnod nesaf. Bydd y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, yn unol â’r gofynion, ond bydd hynny’n heriol oherwydd yr ansicrwydd am y sefyllfa economaidd ar lefel genedlaethol a’r dyraniad cyllid y bydd Llywodraeth Cymru, ac yn sgil hynny, cynghorau Cymru’n ei dderbyn ac mae’n debygol y bydd rhaid i’r Cyngor ganfod arbedion sylweddol. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ymgynghori ar y Cynllun y Cyngor newydd – Ein Dyfodol – ac mae’n rhaid i amcanion strategol y Cynllun ar gyfer ei gyfnod cychwynnol gydnabod yr hinsawdd y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddi a’r cyfyngiadau y mae hynny’n ei greu. Gellir addasu ac ehangu’r amcanion hynny os a phryd fydd y sefyllfa economaidd yn gwella.
· Yr angen i sicrhau ymateb mor eang â phosib i’r ymgynghoriad ar y Cynllun y Cyngor newydd fel bod amrediad o safbwyntiau gan bobl a sefydliadau yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor yn ystod y bum mlynedd nesaf. Sicrhawyd y Pwyllgor fod yr ymgynghoriad, a lansiwyd ar 20 Medi 2022 ac sy’n cau ar 14 Tachwedd 2022, wedi derbyn cyhoeddusrwydd mewn sawl gwahanol ffordd, gan gynnwys sianelau cyfryngau cymdeithasol, radio lleol, cyflwyniadau a thrwy ddosbarthu copïau papur i lyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac Oriel Môn.
· I ba raddau mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adlewyrchu gweithredoedd y Cyngor mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol a gwarchod a gwella’r amgylchedd. Awgrymwyd y dylid rhoi mwy o sylw i faterion gwyrdd yn y Cynllun y Cyngor newydd ac, yn ogystal, y dylid cynnwys yr amgylchedd fel un o egwyddorion arweiniol sgriwtini o dan adran 3 yn y templed sgriwtini fel nodyn atgoffa parhaol i Aelodau pan fyddant yn craffu ar faterion. Hysbyswyd y Pwyllgor fod rhaid i’r Cynllun y Cyngor newydd gydbwyso’r amgylchedd a materion gwyrdd gyda materion cymdeithasol a chreu swyddi a chyfleoedd gwaith. Ar ôl mabwysiadu’r Cynllun gellir datblygu cerdyn sgorio i gasglu mesurau rheoli perfformiad y Cyngor ar gyfer sero net a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae templedi adroddiadau a gwaith papur y Cyngor yn cael eu hadolygu drwyddynt draw i sicrhau fod materion gwarchod yr amgylchedd, sero net a lleihau carbon yn cael eu hystyried a bod hynny’n cael ei dystiolaethu yn y penderfyniadau a wneir gan y Cyngor. Y nod yw gwreiddio materion gwyrdd yn niwylliant a busnes o ddydd i ddydd y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi datblygu Cynllun Bioamrywiaeth hefyd ac mae’n ofynnol adrodd arno bob blwyddyn a byddai modd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol os yw’n dymuno hynny.
Fel rhan o argymhellion y Pwyllgor i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r Cynllun Perfformiad Blynyddol, awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnwys sicrhau cydbwysedd mewn perthynas ag agweddau bioamrywiaeth a sero net yn y Cynllun y Cyngor newydd. Er eu bod cytuno â’r safbwynt, roedd mwyafrif aelodau’r Pwyllgor o’r farn fod gwneud argymhellion ar gynnwys y Cynllun y Cyngor newydd yn gynamserol ar hyn o bryd gan nad yw’r ymgynghoriad ar y Cynllun yn cau tan ganol mis Tachwedd.
Penderfynwyd –
· Argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cytuno â chynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw a bod y Pwyllgor Gwaith yn argymell i’r Cyngor ei fod yn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod ar 27 Hydref 2022.
· Ychwanegu Cynllun Bioamrywiaeth y Cyngor i Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Dogfennau ategol: