Eitem Rhaglen

Rhaglen Arfor 2

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gytuno i ymuno â’r Rhaglen Arfor 2.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth grynodeb o’r Rhaglen Arfor 1 a oedd yn weithredol rhwng 2019 a 2020 sef cynllun gwerth £2m a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru i beilota gwahanol ddulliau a phrosiectau i hybu mentergarwch, twf busnes, gwydnwch cymunedol a’r Gymraeg ym mhedair sir y rhaglen Arfor sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn nodi’r allbynnau ar gyfer Ynys Môn lle dyrannwyd 75 o grantiau i gefnogi busnesau a busnesau newydd, swyddi, cynnyrch a gwasanaethau. Roedd hefyd yn cyfeirio at y rhaglen werthuso a gadarnhaodd bod y rhaglen, er gwaetha’r gyllideb cymharol fach ac effaith y pandemig, wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi sefydlu arfer o gydweithio rhwng y pedair sir. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £11m o gyllid pellach i gyflawni ail wedd y Rhaglen Arfor hyd at fis Mawrth, 2025 i gryfhau gwydnwch economaidd a ffyniant yn y pedair sir sy’n gadarnleoedd y Gymraeg a thrwy hynny gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Adfywio a Datblygu Economaidd bod mwy o gyllid ar gael ar gyfer Arfor 2 a bod disgwyl i Ynys Môn dderbyn £1.125m.  Cyfeiriodd at elfennau arfaethedig y rhaglen Arfor 2 fel y nodwyd yn adran 4 yn  yr adroddiad ac mewn perthynas â rheoli’r rhaglen cadarnhaodd bod Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin wedi datgan dymuniad i Gyngor Gwynedd barhau i gydlynu ac arwain y rhaglen ar ran y pedair sir. Mae Bwrdd Arfor, sy’n cynnwys Arweinwyr y pedair sir, wedi cyflwyno Cynnig Amlinellol ar gyfer ail wedd y rhaglen i Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Bydd dogfen i hyrwyddo Arfor 2 yn amlygu’r llwyddiannau yn ystod y wedd gyntaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y Pwyllgor wedi cefnogi’r rhaglen yn ei gyfarfod ar 18 Hydref, 2022 a’i fod yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Aelod Portffolio a’r eglurhad a roddodd o’r modd y mae busnesau lleol wedi elwa o’r wedd gyntaf. Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai’n fuddiol monitro’r ail wedd i weld pa wahaniaeth y mae’n ei wneud yn enwedig mewn perthynas â chreu cyfleoedd i bobl ifanc aros neu ddychwelyd i gymunedau ar yr Ynys.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ail wedd y rhaglen Arfor a chytunwyd y byddai’n fuddiol monitro sut y mae’r rhaglen, drwy’r prosiect Llwyddo’n Lleol 2050, yn galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ar Ynys Môn Dylid canolbwyntio hefyd ar gyhoeddusrwydd fel bod cymaint o fusnesau â phosibl yn gallu manteisio ar y rhaglen.

 

Penderfynwyd -

 

·      Cytuno y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu ar y cyd efo awdurdodau sirol eraill perthnasol fel partner yn Rhaglen ARFOR 2

·      Cytuno y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu ar y cyd efo awdurdodau sirol eraill perthnasol fel partner yn Rhaglen ARFOR 2

·      Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaeth – Rheoleiddio a Datblygu Economi i wneud y canlynol, gyda chytundeb y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog 151 mewn perthynas â phenderfyniadau Cyllidol, a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â chytundebau cyfreithiol:

 

·        Derbyn telerau cytundeb(au) rhanbarthol yn ymwneud â rhaglen ARFOR 2

·        Derbyn cyllid ARFOR 2 a rheoli’r cyllid yma yn unol ag amodau’r cyllid

·        Gweinyddu cynlluniau a grantiau ARFOR 2 sy’n gyfrifoldeb arnom

·        Cynrychioli’r Cyngor mewn gweithgareddau rhanbarthol ARFOR 2, yn cynnwys cytuno manylion y rhaglen sy’n berthnasol i Ynys Môn

 

Dogfennau ategol: