Eitem Rhaglen

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg sydd yn ymateb i’r argymhellion o’r arolwg Estyn.

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Iaith Gymraeg fod Awdurdod Addysg Ynys Môn wedi cael ei arolygu gan Estyn ym mis Mehefin eleni a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 22 Gorffennaf 2022. Roedd yr arolygiad yn edrych ar ddeilliannau, dysgu ac addysgu, arweinyddiaeth a rheolaeth ac roedd yn nodi llwyddiannau ac unrhyw feysydd i’w gwella. Dywedodd fod yr adroddiad yn un cadarnhaol iawn ac roedd yn nodi fod ansawdd gadarn ac effeithiolrwydd arweinwyr y Gwasanaeth Dysgu yn yr Awdurdod yn cyfrannu’n effeithiol tuag at sicrhau gwasanaethau addysg o ansawdd uchel. Nodwyd fod ethos a meddylfryd ‘Tîm Môn’ wedi cael ei ddatblygu lle mae cydweithrediad a chyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, ei feithrin a’i ddefnyddio er budd plant a phobl ifanc yr ynys. Nodwyd dau faes o arfer dda ac mae’r Gwasanaeth Dysgu’n paratoi astudiaethau achos ar y gwaith cydlynus hwn, ynghyd â dau faes sydd angen eu gwella fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod adroddiad Estyn ar Wasanaeth Dysgu’r Awdurdod Lleol yn adroddiad cadarnhaol iawn. Roedd yr adroddiad yn nodi fod ansawdd gadarn ac effeithiolrwydd y Gwasanaeth Dysgu wedi cyfrannu at wasanaethau addysg o ansawdd uchel ar yr ynys. Mae’r tîm wedi gosod disgwyliadau uchel, wedi arwain timau’n effeithiol ac wedi cyd-weithio’n dda i yrru blaenoriaethau strategol. Mae’r Tîm, gan gynnwys aelodau etholedig, yn barod i wneud penderfyniadau anodd ac amserol trwy newid a mireinio cynlluniau a blaenoriaethau yn unol â’r amgylchiadau. Nododd fod cyfeiriadau mynych yn yr adroddiad at weithio’n effeithiol ac at weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod a gydag ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y cyfeiriad at lesiant yn yr adroddiad, a’r cyfeiriad penodol at gefnogi a hyrwyddo llesiant y dysgwyr a’r gweithlu, yn enwedig yn ystod y pandemig, a bod yr ethos o weithio mewn modd ataliol yn greiddiol i waith yr Awdurdod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, fod y Panel Sgriwtini Addysg a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022 wedi derbyn cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Arolygiad Estyn o’r Awdurdod Addysg ynghyd â’r Cynllun Gweithredu drafft. Yn y cyfarfod, tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sylw at brif negeseuon ac argymhellion yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Panel wedi nodi fod dau argymhelliad yn yr adroddiad yn cyfeirio at feysydd sydd angen eu gwella: Cryfhau prosesau ar gyfer arfarnu effaith gwaith y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu a chryfhau trefniadau sgriwtini ffurfiol. Bydd y Panel Sgriwtini yn hunanarfarnu ei gyfraniad i’r broses sgriwtini er mwyn darparu tystiolaeth o’r gwerth a ychwanegir i’r gyfundrefn addysg fel rhan o’r rhaglen waith; rhagwelir y bydd hyn yn cael ei drafod ym mis Chwefror 2023. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y Panel yn croesawu Adroddiad Arolygiad Estyn ac y bydd yn monitro’r cyflawniadau yn erbyn y Cynllun Gweithredu Drafft.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol gan Estyn a chodwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Cwestiynwyd i ba raddau mae’r cynllun gweithredu’n ymateb yn llawn i argymhellion arolygiad diweddar Estyn o’r Awdurdod Addysg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod argymhellion yr adroddiad wedi cael eu casglu ynghyd mewn Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg, er nad yw hynny’n ofyniad statudol gan Estyn. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini hefyd y byddai blaen raglen waith y Pwyllgor Sgriwtini Addysg yn canolbwyntio ar ofynion Estyn er mwyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr arolygiad diweddar. Yn dilyn hynny, bydd y Pwyllgor Sgriwtini Addysg yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn ar y gwaith a gyflawnwyd.

·           Gofynnwyd a oedd unrhyw beth wedi’i adael allan neu unrhyw feysydd sydd angen eu hystyried ymhellach yn dilyn yr adroddiad gan Estyn; a chyfeiriwyd at y blynyddoedd cynnar a’r ddarpariaeth feithrin mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd y gwasanaeth yn rhoi sylw i’r argymhellion yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at y blynyddoedd cynnar a’r ddarpariaeth cyn ysgol mewn ysgolion a nododd fod tîm yn y gwasanaeth addysg yn gweithio ar wella’r ddarpariaeth a gynigir.

·           Cwestiynwyd pa mor gyraeddadwy yw’r amserlen a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Addysg ar gyfer mynd i'r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad Estyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod gwaith eisoes ar y gweill i fynd i’r afael ag argymhellion adroddiad Estyn trwy’r Panel Sgriwtini Addysg.

 

PENDERFYNWYD fod y Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg yn ymateb i argymhellion arolygiad Estyn.

 

GWEITHRED: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: