Eitem Rhaglen

Cynllun Arfor

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth drosolwg o Raglen Arfor 1, sef cyllid refeniw gwerth £2m a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019/20 a 2020/21 i Gynghorau Sir Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Ar Ynys Môn, defnyddiwyd cyllid refeniw Arfor gwerth £468k ar gyfer Grantiau Busnes, Grantiau Iaith mewn Busnes, Llwyddo’n Lleol 2050 ac i ariannu llyfryn i hyrwyddo’r Gymraeg a llyfryn penodol ar gyfer busnesau, ynghyd â hyrwyddo a chreu adran newydd y Gymraeg ar wefan y Cyngor. Derbyniodd Ynys Môn swm ychwanegol o £160k gan Lywodraeth Cymru ddiwedd 2020/21 er mwyn darparu nifer o grantiau cyfalaf ARFOR. Roedd y rhaglen ehangach yn cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd ond roedd elfennau o’r gwaith ar Ynys Môn yn cael eu gweinyddu gan Fenter Môn. Roedd manylion y prosiectau a dderbyniodd gyllid wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y cynnig ar gyfer Rhaglen ARFOR 2 sydd wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn; bydd cyllid ychwanegol o £11m yn cael ei ddarparu i gyflawni ail gam Rhaglen ARFOR hyd at fis Mawrth 2025. Ym mis Ebrill 2022, cyflwynodd Bwrdd ARFOR (Arweinwyr y pedwar sir) ‘gynnig amlinellol’ ar gyfer ail gam y rhaglen i Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi rhesymeg, pwrpas, amcan strategol ac egwyddorion ar gyfer ARFOR 2. Mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, mae swyddogion y pedair sir wedi datblygu cynigion ar gyfer troi’r amcanion strategol yn brosiectau y gellir eu cyflawni. Amlygwyd prif elfennau arfaethedig ARFOR 2 yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod cyfanswm o 75 grant wedi’u dyfarnu i gefnogi 42 o fusnesau a oedd yn bodoli’n barod, 18 busnes newydd, 60 o swyddi newydd, 108 o swyddi a oedd yn bodoli’n barod a 36 o gynhyrchion neu wasanaethau newydd, ynghyd â £750k o fuddsoddiad preifat. Amharodd y pandemig ar gyfnod gweithredu’r rhaglen ond, serch hynny, roedd arfarniad y rhaglen yn nodi ei bod wedi gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi nifer o fusnesau a swyddi newydd a sefydlu trefniadau cydweithio defnyddiol rhwng y pedair sir. Ychwanegodd fod y rhaglen ARFOR wedi rhoi cyfle i fusnesau elwa ar yr arian grant. Bydd cam nesaf y rhaglen ARFOR yn rhoi cyfle i fusnesau elwa ar y cyllid sydd ar gael.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at adroddiadau a dderbyniwyd dros nifer o flynyddoedd fod pobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith. Gofynnwyd a yw arian grant ARFOR wedi denu pobl ifanc yn ôl i’r ynys i weithio. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod y model ‘Llwyddo’n Lleol’ sy’n rhan o’r rhaglen ARFOR yn cael ei gydnabod fel enghraifft dda o ran denu pobl ifanc yn ôl i’r ynys. Dywedodd y Prif Weithredwr na chasglwyd gwybodaeth yn ystod y rhaglen ARFOR 1 ac y gallai’r Pwyllgor Sgriwtini wneud cais i’r data hwn gael ei gasglu fel rhan o’r model monitro y bydd rhaid i’r pedair sir ei gweithredu yn ystod y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o raglen ARFOR 2.

·           Nodwyd fod 18 busnes newydd wedi’u sefydlu trwy raglen ARFOR 1. Gofynnwyd ymhle ar yr ynys y sefydlwyd y busnesau hyn ac a ydynt wedi cael eu cefnogi gan dechnoleg. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod amrywiaeth o wahanol fusnesau wedi cael eu creu trwy’r rhaglen ARFOR 1 megis:- busnesau bwyd a diod, busnesau technegol, ymgynghorol a dylunio.

·           Gofynnwyd i ba raddau y mae cam cyntaf y rhaglen ARFOR wedi cael ei gynllunio a’i gyflawni’n llwyddiannus ar Ynys Môn a pha wersi a ddysgwyd ar gyfer y cam nesaf, sef ARFOR 2. Dywedodd y Rheolwr Adfywio y bydd y rhaglen ARFOR 2 yn darparu cyllid ychwanegol tuag at farchnata a hyrwyddo gan fod diffyg yn yr elfennau hyn yn ystod cam cyntaf y rhaglen oherwydd y pandemig. Mae nifer o fusnesau a dderbyniodd gymorth trwy’r rhaglen ARFOR 1 wedi buddsoddi hefyd mewn peiriannau rhad ar ynni er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau ynni. Ychwanegodd y bydd grantiau ar gael hefyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac y bydd gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar y posibilrwydd o ariannu cynlluniau arbed ynni er mwyn cefnogi busnesau lleol.

·           Gofynnwyd sut mae Bwrdd ARFOR yn penderfynu pa fusnesau fydd yn derbyn cymorth. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod cyllid sylweddol ar gael trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi busnesau ac mae’n bwysig nad yw’r rhaglen ARFOR yn dyblygu’r broses gyllido. Targedir cyllid ARFOR tuag at brosiectau fydd yn arwain at lwyddiant y busnesau a gefnogir. Gofynnwyd a fydd y busnesau sydd wedi derbyn cymorth yn parhau ar ôl i’r arian grant ddod i ben. Dywedodd y Rheolwr Adfywio fod y rhaglen ARFOR 1 yn cefnogi cynlluniau buddsoddi gan fusnesau ac y byddai busnesau yn darparu eu cyllid eu hunain tuag at brosiectau penodol; nid pwrpas y grant oedd cyfrannu at gostau rhedeg y busnesau. Mae’r prosiectau a gefnogwyd yn parhau a dim ond un busnes sydd wedi dod i ben.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Nodi cyflawniad cam cyntaf y rhaglen ARFOR ar Ynys Môn yn 2019/2020 a 2020/2021.

·           Nodi’r cynnig i gyflawni ail gam y rhaglen ARFOR hyd at fis Mawrth 2025.

·           Yr angen i fonitro data ynghylch nifer y bobl ifanc sy’n dychwelyd i’r ynys o ganlyniad i’r arian grant a roddwyd i fusnesau trwy’r rhaglen ARFOR.

 

GWEITHRED : Fel y nodir uchod.

 

 

Dogfennau ategol: