Eitem Rhaglen

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ddyletswyddau mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Rheoliadau (Parodrwydd a Gwybodaeth Gyhoeddus) Argyfyngau Ymbelydrol 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio gydag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru, a Chyngor Sir y Fflint yw’r awdurdod lletyol ar gyfer y gwasanaeth. O fewn y Cyngor, mae cyfrifoldebau am gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt yn cael eu rhannu ymysg y gwasanaethau ac mae cynrychiolwyr gwasanaeth dynodedig yn cael eu nodi o fewn strwythur y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng. Amlygodd y Prif Weithredwr rôl Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad. Nododd y bydd angen adolygu’r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y pandemig ynghyd â’r angen i adolygu cynlluniau parhad busnes yr Awdurdod er mwyn sicrhau y gall y Cyngor ymateb yn effeithlon i unrhyw argyfwng.

 

Cyfeiriodd Mr Jon Zalot o Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru at brif weithgareddau’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng ar Ynys Môn, fel y nodir hwy yn yr adroddiad. Yn benodol, nododd fod cynllun pwrpasol wedi’i lunio ym mis Mawrth, mewn cydweithrediad â’r gwasanaethau argyfwng, mewn ymateb i amheuon y byddai nifer fawr o ffoaduriaid yn dod i’r wlad o Iwerddon oherwydd y rhyfel yn Wcráin. Trefnwyd i ddefnyddio Canolfan Hamdden Caergybi er mwyn sicrhau fod llety addas ar gael pe byddai nifer fawr o bobl yn cyrraedd yn y porthladd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at y pwysau cynyddol ar adnoddau llywodraeth leol a chefnogi partneriaethau rhanbarthol. Gofynnwyd a fydd ariannu partneriaethau rhanbarthol a gwasanaethau argyfwng yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau’r Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd cefnogi partneriaethau rhanbarthol yn cael ei ystyried oherwydd problemau o ran adnoddau mewn llywodraeth leol ac i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth i’r Awdurdod. Nododd fod cydweithio rhanbarthol gyda’r Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn gryf gan na fyddai cynnal chwe thîm unigol ym mhob awdurdod lleol yn gynaliadwy.

·           Gofynnwyd a fyddai’r Awdurdod yn cael unrhyw fudd ychwanegol o gael ei Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng ei hun oherwydd y Porthladd yng Nghaergybi, y ddwy bont a Gorsaf Bŵer Wylfa. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gweithio ar lefel ranbarthol ym maes Cynllunio at Argyfwng yn cynnig manteision enfawr. Dywedodd fod cael arbenigedd staff mewn un Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng rhanbarthol yn ychwanegu gwerth i’r chwe awdurdod lleol. Mae lefel cyfraniad pob awdurdod lleol tuag at y gwasanaeth yn cael ei fesur gan lefel y boblogaeth ac mae’r Cyngor hwn yn derbyn yr un cymorth a chapasiti gan y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol â’r pum awdurdod lleol arall.

·           Gofynnwyd cwestiynau am rôl y Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol mewn perthynas â llifogydd a damweiniau difrifol. Dywedodd y Prif Weithredwr mai staff yr awdurdod lleol yw’r ymatebwyr cyntaf i lifogydd a damweiniau difrifol. Ychwanegodd y gallai nifer o wasanaethau brys gael eu galw i ddigwyddiad os yw’r digwyddiad yn un digon difrifol. Gofynnwyd hefyd a yw gwersi a ddysgwyd wrth ddelio gyda digwyddiadau penodol yn derbyn sylw ar lefel ranbarthol er mwyn sicrhau ymateb effeithiol i ddigwyddiadau yn y dyfodol. Dywedodd Ms Carol Dove o’r Tîm Cynllunio at Argyfwng fod Rheolwr y Tîm yn mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a Chymru gyfan, yn ogystal â chyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau sydd ar y gorwel.

·           Cyfeiriwyd at yr argyfwng ynni a’r ffaith fod pobl yn wynebu biliau ynni uchel er mwyn gwresogi eu cartrefi. Gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y mater yn derbyn sylw ac mae’r gwaith o gefnogi a chydweithio gyda Grwpiau Cymunedol yn cael ei arwain gan Medrwn Môn, mae Menter Môn yn arwain y gwaith gyda busnesau a thafarndai, mae’r Gymdeithas Elusennol yn canolbwyntio ar hybiau mewn neuaddau pentref ac mae’r Gwasanaethau Tai yn edrych ar ddarparu cyfleusterau lleoedd cynnes mewn lolfeydd cymunedol. Ychwanegodd fod y Tîm Pobl Hŷn yn cefnogi unigolion bregus. Derbyniwyd grant gwerth £21,580 i ariannu’r ymateb i’r argyfwng costau ynni a bydd angen arian craidd ychwanegol er mwyn caniatáu i’r cynlluniau hyn fynd rhagddynt. Nododd hefyd y bydd aelodau etholedig yn derbyn manylion am gynnydd y cynllun maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru yn 2021/2022.

 

GWEITHRED : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: