Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch2 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2022/23, i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, sylw at nifer o straeon cadarnhaol mewn perthynas â pherfformiad Chwarter 2, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd fod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer monitro perfformiad wedi’u halinio â thri amcan llesiant presennol y Cyngor a chadarnhaodd fod yr holl ddangosyddion yn gysylltiedig ag Amcan llesiant 1, lle mae’r cyngor yn sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir, yn wyrdd yn erbyn eu targedau perfformiad. Yn yr un modd, mae’r dangosyddion ar gyfer Amcan 2, lle mae’r Cyngor yn cefnogi oedolion a theuluoedd bregus er mwyn eu cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib, hefyd yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau, gyda dim ond un o’r 16 dangosydd yn tanberfformio. Fodd bynnag, er bod perfformiad yn erbyn y targedau yn wyrdd neu’n felyn yn gyffredinol, mae tueddiad ar i lawr yn dechrau esblygu yn erbyn nifer o ddangosyddion perfformiad, yn enwedig mewn perthynas ag Amcan Llesiant 2. Cydnabyddir y bydd angen rhoi sylw penodol i’r dangosyddion hyn wrth i’r gaeaf agosáu, ynghyd â’r prosesau a’r ffrydiau gwaith cysylltiedig, yn neilltuol oherwydd yr heriau costau byw a chynnydd mewn tlodi bwyd a thanwydd mewn cymunedau. Mae perfformiad y dangosyddion sy’n monitro Amcan llesiant 3, lle mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau tra’n gwarchod ein hamgylchedd naturiol, wedi bod yn dda hefyd gyda 70% ohonynt yn uwch na’r targed.

Wrth adolygu’r data perfformiad ar gyfer Chwarter 2, cododd y Pwyllgor y materion a ganlyn gyda Swyddogion ac Aelodau Portffolio –

·                Y duedd ar i lawr yn erbyn nifer o ddangosyddion perfformiad, yn arbennig mewn perthynas ag Amcan llesiant 2. Wrth geisio eglurhad pellach am y meysydd lle disgwylir yr heriau mwyaf, a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael a/neu liniaru’r heriau hynny, nododd y Pwyllgor hefyd fod angen monitro’r meysydd y rhoddwyd statws Melyn iddynt er mwyn sicrhau nad yw eu perfformiad yn dirywio.

Derbyniodd y Pwyllgor sicrwydd gan Swyddogion fod perfformiad yn cael ei fonitro ar nifer o lefelau trwy’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol, Penaethiaid Gwasanaeth a’r Gwasanaeth Trawsnewid, a hynny mewn sawl gwahanol ffordd. Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried yr hyn sy’n digwydd mewn cyd-destun ehangach fel rhan o’i waith cynllunio strategol. Er bod dangosyddion perfformiad a thargedau’n cael eu gosod ar gyfer y flwyddyn, gellir cyflwyno mesurau lliniaru megis adnoddau ychwanegol, er enghraifft, lle nodwyd yr angen a lle byddai’n cynorthwyo i wella perfformiad.

Gan fod nifer o’r meysydd sydd yn Felyn yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn anodd rhagweld sut fydd dangosyddion perfformiad y Gwasanaeth yn perfformio yn ystod cyfnod y gaeaf gan fod nifer yr atgyfeiriadau’n cynyddu ac maent yn fwy cymhleth eu natur, ond nid yw nifer y gweithwyr cymdeithasol a gyflogir i gwblhau’r asesiadau wedi cynyddu. Cynhelir cyfarfodydd mewnol rheolaidd i fonitro pwysau ac ymateb y gwasanaeth, yn ogystal â pherfformiad dangosyddion perfformiad sy’n ymwneud â gwasanaethau penodol, a defnyddir dull hyblyg i sicrhau fod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd y misoedd nesaf yn heriol.

 

·                Wrth gyfeirio at ddangosydd perfformiad 23 (yr amser cyfartalog a dreuliodd pob plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn, ac a gafodd eu dadgofrestru yn ystod y flwyddyn) a oedd yn Goch, er fod y Pwyllgor yn derbyn nad yw data crai bob amser yn cyfleu’r darlun llawn, yn arbennig mewn perthynas ag achosion cymhleth megis diogelu ac amddiffyn plant, gofynnodd a oes dull dadansoddi amgen a thecach ar gael.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y dangosydd hwn wedi’i gyflwyno yn ystod cyfnod pan oedd nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn uwch ac roedd y plant yn aros ar y gofrestr am amser sylweddol. Er bod y sefyllfa wedi gwella’n fawr erbyn hyn mae’r Gwasanaeth yn rhoi sylw i’r dangosydd hwn, o ran gwella perfformiad a sut mae perfformiad yn cael ei fesur o dan y dangosydd gyda’r bwriad o adlewyrchu’r sefyllfa a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar berfformiad yn y maes hwn yn well. Rhagwelir y bydd perfformiad yn erbyn y dangosydd yn debygol o aros yn Goch ar gyfer gweddill y flwyddyn; byddir yn ystyried ail asesu’r dangosydd ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau arfarniad mwy ystyrlon.

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch beth sydd angen ei wneud i alinio’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol gyda’r Cynllun y Cyngor newydd, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi ymgynghori ar y Cynllun y Cyngor newydd ac, ôl mabwysiadu’r Cynllun, bydd Cerdyn Sgorio Corfforaethol newydd a chyfres o ddangosyddion yn cael eu datblygu i gyd-fynd â blaenoriaethau’r Cynllun a’r nodau strategol; Bydd dangosydd perfformiad 23 yn rhan o’r broses honno a bydd yn cael ei asesu i weld a fydd modd ei addasu ar gyfer y cerdyn sgorio newydd.

·                Trafodwyd y sefyllfa ariannol mewn perthynas â phwysau ar Ofal Cymdeithasol, lle rhagwelir gorwariant o £1.361m yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant erbyn diwedd y flwyddyn, ac mewn perthynas â’r effaith ehangach ar wasanaethau rheng flaen, a gofynnwyd cwestiynau am fesurau lliniaru. Hysbyswyd y Pwyllgor, er bod pob llinell yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael eu harchwilio i geisio canfod arbedion maint ac arbedion effeithlonrwydd, mae natur y Gwasanaeth, sy’n cael ei arwain gan y galw, yn ogystal â rhwymedigaethau statudol, yn golygu bod rheoli gwariant yn heriol. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid a gyda’r Bwrdd Iechyd i geisio rheoli’r galw a bydd hefyd yn parhau i archwilio dulliau amgen mwy darbodus o ddarparu gwasanaethau a fydd yn caniatáu i gyfrifoldebau statudol barhau i gael eu bodloni. Bydd y Panel Sgriwtini Cyllid yn craffu’n fwy manwl ar y mater hwn yn ei gyfarfod fis nesaf. O ran y cyd-destun ehangach, cyflwynir adroddiad ar sefyllfa’r Gyllideb Refeniw yn Chwarter 2 i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd ac, er y dengys yr adroddiad fod y Cyngor yn rhagweld tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol, bydd nifer o feysydd o bryder yn cael eu hamlygu a allai effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor yn y dyfodol. Gallai ffactorau tymhorol effeithio ar berfformiad y gyllideb hefyd ac, yn draddodiadol, gwelir cynnydd yn y galw yn ystod y gaeaf. Disgwylir i flwyddyn ariannol 2023/24 fod hyd yn oed yn fwy heriol, gan olygu y bydd rhaid ystyried y gwasanaethau a ddarperir a’r ffordd y cânt eu darparu er mwyn lleihau costau.

Yn ystod trafodaethau pellach, hysbyswyd y Pwyllgor fod cynnydd o 20% yng nghyllideb y Gwasanaethau Oedolion yn ystod y 3 blynedd diwethaf, a gwelwyd cynnydd o 19% yng nghyllideb y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, wrth y Pwyllgor fod rhaid i gynghorau yng Nghymru wneud trefniadau darparu gofal er mwyn caniatáu i 1,000 o gleifion gael eu rhyddhau o’r ysbyty, yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn costio oddeutu £400k i Ynys Môn ac nid oes unrhyw arwydd fod  Llywodraeth Cymru am ddarparu cyllid i gwrdd â’r gwariant. Oherwydd yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, awgrymodd aelod o’r Pwyllgor y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru am adnoddau ychwanegol er mwyn cynorthwyo i gwrdd â chost y ddarpariaeth hon.

·                A yw capasiti’n broblem oherwydd nad oes digon o swyddi neu oherwydd bod problemau wrth recriwtio gweithwyr i swyddi. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y broses recriwtio’n golygu fod swyddi angen eu llenwi yn barhaus mewn sefydliad tebyg i’r Cyngor, er bod llif swyddi o wasanaethau wedi lleihau gan fod llai o bobl yn newid eu swyddi yn ystod cyfnod y gaeaf, ac oherwydd yr amgylchiadau presennol. Oherwydd nad yw capasiti wedi cynyddu yn unol â’r galw, mae’n rhaid i wasanaethau ystyried gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, er enghraifft trwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg.

·                Cyfeiriwyd at y premiwm ar ail gartrefi ac, mewn achosion lle mae trethdalwyr lleol sydd yn adnewyddu eiddo gwag yn wynebu oedi wrth gwblhau’r gwaith, neu os yw’r gwaith yn mynd tu hwnt i’r cyfnod rhyddhad dewisol oherwydd effaith barhaus y pandemig a phrinder deunyddiau ac ati, gofynnwyd i’r Cyngor ddarparu cyfleuster, ar ffurf porth, pan fydd y biliau Treth Gyngor yn cael eu dosbarthu, er mwyn caniatáu i bobl esbonio eu sefyllfa a darparu tystiolaeth i’r Cyngor fel na chodir y premiwm tai gwag arnynt. Wedi i’r Gwasanaeth Cyllid fod yn dosbarthu grantiau cefnogi busnes, hysbyswyd y Pwyllgor ei fod bwriadu symud ymlaen yn awr ac ymestyn y defnydd a wneir o’r system CRM i ryngweithio gyda dinasyddion, gan gynnwys caniatáu iddynt gael mynediad ar-lein a darparu gwybodaeth, gan gynnwys ynghylch eithriadau’r Dreth Gyngor; gellir cynnwys ffurflen eithrio’r premiwm ar dai gwag fel rhan o’r broses honno.

Ar ôl ystyried adroddiad y cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2022/23, y pwyntiau a godwyd a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio yn y cyfarfod, ac ar ôl cydnabod y straeon cadarnhaol mewn perthynas â pherfformiad Chwarter 2, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad a’i argymell i’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’r mesur lliniaru mewn perthynas â monitro tueddiadau ar i lawr yn gysylltiedig â dangosyddion Amcan Llesiant 2.

 

Dogfennau ategol: