Eitem Rhaglen

Cyfrifiad 2021 - Data Poblogaeth Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori gwybodaeth am ddemograffeg poblogaeth y Cyngor ar ôl rhyddhau cyfrifiad 2021.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth, ei fod yn seiliedig ar set gyntaf data’r cyfrifiad a ryddhawyd ar 28 Mehefin, 2022; bydd data’r cyfrifiad a ryddheir yn y dyfodol yn cael ei arfarnu a bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru yn ôl y gofyn. Mae’r data a gyflwynwyd yn amlygu’r newidiadau ym mhoblogaeth Ynys Môn rhwng 1981 a 2021 o ran dwysedd y boblogaeth, nifer yr aelwydydd, y boblogaeth fesul oedran a newidiadau a gwahaniaethau rhanbarthol. Mae’r data’n werthfawr er mwyn cynorthwyo i deilwra a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol. Dengys y prif ystadegau ar gyfer Ynys Môn fod poblogaeth yr Ynys wedi gostwng ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011; mae cyfran y boblogaeth 65 oed neu hŷn wedi cynyddu, yn ogystal â maint y boblogaeth sydd yn 85 oed neu’n hŷn, a rhagwelir y bydd yn parhau i gynyddu. Er bod cyfran y boblogaeth o dan 16 oed yn sefydlog ar hyn o bryd, gwelwyd gostyngiad ers 1981; adlewyrchir gostyngiad mwy amlwg ym maint y boblogaeth oedran gweithio, gyda gostyngiad o 4.2% o gymharu â ffigwr cyfrifiad 2011.

Wrth ystyried data’r cyfrifiad a’i oblygiadau mewn perthynas â darparu gwasanaethau, trafododd y Pwyllgor y canlynol –

·         I ba raddau y mae’r data’n dylanwadu ar strwythur a natur gwasanaethau’r Cyngor yn y tymor hir?

Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd angen i’r Cyngor addasu ac ail-lunio ei gyllidebau er mwyn sicrhau fod cyllid ac adnoddau yn cael eu blaenoriaethu i gyd-fynd â’r meysydd hynny y bydd yr angen mwyaf amdanynt, yn unol â data’r cyfrifiad, e.e. poblogaeth hŷn sy’n cynyddu, yn ogystal ag ehangu ei ddarpariaeth o ran tai, cludiant a chefnogaeth gymunedol. Yr her yw cyflawni’r newidiadau hynny fesul cam i sicrhau nad yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd bresennol yn cael ei heffeithio gan benderfyniadau strategol tymor hir. Mae ymdrechion y Cyngor i dyfu economi Ynys Môn trwy ddenu buddsoddiad a chyflogaeth i’r Ynys yn hanfodol bwysig er mwyn gwrthsefyll y tueddiad tuag at boblogaeth sydd, ar y cyfan, yn heneiddio.

·         Sut fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio’r data i baratoi ar gyfer newidiadau demograffig?

Hysbyswyd y Pwyllgor mai’r cynnydd yn y boblogaeth dros 85 oed sy’n creu’r her fwyaf o ran y math o ddarpariaeth y bydd rhaid ei ddarparu, yn ogystal â sut y caiff ei darparu ac ym mhle. Mae’r Cyngor yn parhau i ddatblygu ac ehangu ei ddarpariaeth gofal ychwanegol, yn ogystal â darparu tai addas ar gyfer pobl hŷn sydd yn gallu addasu wrth i’w hanghenion newid. Mae’r nifer gynyddol o bobl hŷn â dementia lle mae darpariaeth gymunedol yn risg iddynt, ynghyd â diffyg cymorth gan deulu oherwydd bod y boblogaeth yn gynyddol ar wasgar, yn ffactorau y mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymdrin â nhw ac mae’n golygu nad oes un ateb yn unig; mae angen cyfuniad o wahanol ddulliau i fynd i’r afael â’r sefyllfa ac mae’n golygu hefyd bod yn eglur ac yn onest ynghylch yr hyn y gall y Cyngor ei wneud a’r hyn na all ei wneud.

·         Yr heriau wrth geisio darparu tai fforddiadwy addas ar gyfer pobl ifanc, sydd yn un o flaenoriaethau’r Cyngor, law yn llaw â chwrdd ag anghenion tai poblogaeth sydd yn heneiddio, ar ddau begwn y sbectrwm oedran.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod data’r cyfrifiad yn darparu gwybodaeth sylfaenol ddefnyddiol am boblogaeth yr Ynys a’r tueddiadau i’r dyfodol. Mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tai gynnal arolwg lleol o dai bob pum mlynedd sydd yn nodi’r anghenion tai am y cyfnod hwnnw a disgwylir i’r proffiliau oedran a ddarparwyd yn y cyfrifiad gael eu hadlewyrchu yn yr arolwg. Mae cynlluniau tai gofal ychwanegol, yn ogystal â chynllun i ddatblygu mwy o fyngalos, yn cael eu dylunio i gynorthwyo pobl hŷn i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach, yn ogystal â rhyddhau cartrefi teuluol mwy o faint; mae’r rhaglen adeiladu tai cyngor yn lliniaru rhai o’r risgiau o ran cyflenwad tai ac mae gwahanol denantiaethau’n cael eu datblygu hefyd, gan gynnwys tai rhent cymdeithasol cyffredinol, tai rhent canolradd a chynllun rhannu ecwiti. Mae tair cymdeithas dai yn gweithredu ar yr Ynys hefyd ac maent yn darparu cymorth gwerthfawr er mwyn bodloni anghenion tai.

·         I ba raddau y mae’r cynnydd yn y boblogaeth hŷn yn cael ei adlewyrchu yn y fformiwla gyllido ar gyfer Ynys Môn a’r angen i gyflwyno achos er mwyn sicrhau setliad teg ar gyfer yr Ynys?

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y fformiwla dyrannu cyllid yn ystyried proffil y boblogaeth, gan gynnwys niferoedd pobl hŷn, yn ogystal â ffactorau eraill megis disgyblion ysgol; pobl sy’n derbyn budd-daliadau a phlant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim. Mewn ymateb i’r sylw am yr angen i ddefnyddio gwybodaeth y cyfrifiad am boblogaeth sy’n heneiddio’r Ynys i gyflwyno achos trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am gyllid teg ar gyfer y Cyngor, darparwyd sicrwydd y byddai’n mater yn cael ei gyfeirio, er trafodaeth, at Fforwm Gwledig CLlLC, sydd yn delio â materion sy’n ymwneud yn benodol â siroedd a chymunedau gwledig.

·         Cynllunio lleoedd mewn ysgolion ac i ba raddau y mae angen adolygu’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn sgil yr hyn a ddywed ystadegau’r cyfrifiad am y gostyngiad ym mhoblogaeth plant a phobl ifanc o dan 16 oed

Hysbyswyd y Pwyllgor fod cynlluniau moderneiddio ysgolion yn destun trafodaeth ac y bydd y data poblogaeth a’r tueddiadau a ddatgelwyd yn y data a ryddhawyd ar gyfer cyfrifiad 2021 yn cael eu hystyried fel mater o drefn. Mae’n rhaid i gynlluniau ar gyfer lleoedd ysgol adlewyrchu anghenion presennol, yn ogystal ag anghenion yn y dyfodol ac, oherwydd y cyd-destun ariannol, bydd rhaid iddynt hefyd ystyried yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor.

Penderfynwyd derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ar ddata’r cyfrifiad.

 

Dogfennau ategol: