12.1 DIS/2022/68 – Llain 9 (rhan dwyreiniol) Parc Cybi, Caergybi
12.2 FPL/2022/189 – Bilash, Dew Street, Porthaethwy
12.3 FPL/2022/53 – Cae Braenar, Penrhos, Caergybi
12.4 HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw
12.5 VAR/2022/41 - 1 Clos Dwr Glas, Bae Trearddur.
12.6 DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
12.7 – FPL/2022/225 – Cae Mawr, Trefor
12.8 – FPL/2022/172 – Eirianallt Goch, Carmel
Cofnodion:
12.1 DIS/2022/68 - Cais i ryddhau amod (07) (cynllun arwyddion) o ganiatâd cynllunio FPL/202/65 (cadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis) ym Mhlot 9 (rhan ddwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
Adroddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer rhyddhau amod a osodwyd gan y Pwyllgor o dan gais cynllunio rhif FPL/2022/65 ar gyfer cadw ardal barcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis ym Mhlot 9 (hanner dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, 2022.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, fod yr amod (07) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd roi manylion am bob arwydd y tu mewn a’r tu allan i'r safle. Pwrpas hyn yw diogelu a chynnal y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg. Daeth manylion i law gan yr ymgeisydd yn cadarnhau y bydd y cynllun arwyddion yn ddwyieithog. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda'r wybodaeth a ddarparwyd ac ystyrir ei bod yn ddigonol i ryddhau'r amod yn llawn.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; roedd y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad.
12.2 FPL/2022/189 – Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Dew Street, Porthaethwy
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.
Wrth siarad fel Aelod Lleol, cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid ymweld â'r safle oherwydd pryderon lleol ynglŷn ag edrychiad y cynnig mewn ardal gadwraeth. Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2022/53 – Cais llawn ar gyfer codi 22 annedd marchnad agored ac 1 annedd fforddiadwy, addasu'r fynedfa bresennol, creu ffordd fynediad fewnol yn ogystal â gwaith cysylltiedig ar dir ger Cae Braenar, Caergybi.
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Ar ôl datgan diddordeb oedd yn rhagfarnu o ran y cais, ymneilltuodd y Cynghorwyr Glyn Haynes a Robin Williams o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Cododd y Cynghorydd Jeff Evans faterion yn ymwneud â’r cais ar sail fod y datblygiad eisoes wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a'r goblygiadau yn ogystal â chynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith o'i gymharu â'r cais a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn, yn benodol y gostyngiad yn nifer y cartrefi fforddiadwy ac a fyddai'r Pwyllgor Gwaith wedi dod i'r penderfyniad i gymeradwyo'r datblygiad (cwestiynwyd y geiriad o ystyried mai'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion sydd ag awdurdodaeth dros geisiadau cynllunio o fewn y broses ddemocrataidd), pe bai wedi'i gyflwyno gyda'r cais yn ei ffurf bresennol.
Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, cyn belled â bod y Swyddogion Cynllunio yn gallu cadarnhau na ymyrrwyd â’u hasesiad, eu casgliad na'u hargymhelliad mewn perthynas â'r cais, yna nid oes pryder o safbwynt cynllunio bod corff arall o fewn y Cyngor wedi ystyried y mater.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r canlynol -
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb, ac eiliodd y Councillor Ken Taylor, bod y Pwyllgor yn ymweld â safle’r cais oherwydd maint y datblygiad a chryfder y teimlad yn lleol ynghylch y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2022/230 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Dinas Bach, 5 Ystâd y Fron, Aberffraw
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol ynglŷn â'r cais.
Gwnaed cais gan y Cynghorydd Arfon Wyn, Aelod Lleol, fod y pwyllgor yn ymweld â’r safle ar sail pryderon lleol ynglŷn â'r cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Tayler, ac eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y Pwyllgor yn ymweld â'r safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.5 VAR/2022/41 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) (draenio dŵr wyneb), (13) (cymeradwyo lle i barcio cerbydau a cheir), a (14) (yn unol â chynlluniau i'w cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 46C188G (ailddatblygu'r safle presennol ynghyd â chodi hyd at 6 o unedau) er mwyn caniatáu cyflwyno cynllun draenio dŵr wyneb, man troi cerbydau a maes parcio, ynghyd ag ail-leoli a dyluniad diwygiedig yr anheddau arfaethedig yn 1 Blue Water Close, Trearddur.
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gwnaed cais gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Lleol fod y pwyllgor yn ymweld â’r safle ar sail pryderon am draffig, llifogydd a draeniad yn yr ardal.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb, ac eiliodd gan y Cynghorydd Jackie Lewis eu bod yn ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.6 DIS/2022/63 – Cais i ryddhau amod (05)(tirweddu) (08)(arwyddion) (16)(asesiad risg lliniaru) o ganiatâd cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin (IBF) yn hen safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
Adroddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer rhyddhau amod(au) a osodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrth benderfynu ar gais rhif FPL/2021/337 yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth, 2022.
Ers cyhoeddi'r agenda ac adrodd ar gyfer y cyfarfod hwn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth bellach am amod (16) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad risg a oedd yn cynnwys mesurau lliniaru pe na bai'r safle'n gallu cynnal y gwiriadau gofynnol neu weithredu'r safle oherwydd cau’r safle’n annisgwyl. Yn sgil y cais gan Lywodraeth Cymru, mae Swyddogion yn argymell y dylid ystyried y cais.
Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
12.7 FPL/2022/225 - Cais llawn am estyniad i'r adeilad amaethyddol lles presennol yng Nghae Mawr, Trefor, Caergybi.
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor Sir.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y prif faterion cynllunio fel y nodir yn adroddiad y Swyddog Achos a chyfeiriodd at ddimensiynau'r estyniad croes arfaethedig er mwyn cadw mwy o le i gadw buchod llaeth o fewn y sied fel rhan o ailstrwythuro'r busnes wrth newid i gadw gwartheg godro yn lle bîff. Mae'r cynnig yn cael ei ystyried yn estyniad ar raddfa fach ac mae egwyddor y datblygiad ar gyfer dibenion amaethyddol yn cael ei derbyn mewn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Nid yw'n cael ei ystyried y bydd y datblygiad arfaethedig yn arwain at unrhyw effeithiau negyddol ar yr ardal nac unrhyw eiddo cyfagos.
Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor, ac eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
12.8 FPL/2022/124 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd, addasu ac ehangu adeilad allanol presennol i fod yn annedd gweithwyr menter wledig ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd yn Fferm Eirianallt Goch, Carmel, Llannerch-y-medd
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Wrth siarad fel Aelod Lleol ac ar ran Aelod Lleol arall, y Cynghorydd Llinos Medi a oedd wedi cyfeirio'r cais at y Pwyllgor, cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylid ymweld â’r safle er mwyn i’r Aelodau allu gweld drostynt eu hunain yr adeilad allan a'r anheddau amaethyddol ar y safle oedd yn gysylltiedig â'r fferm. Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
Dogfennau ategol: