Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2 (2022/23)

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 2, 2022/2023. Dangosai’rcerdyn sgorio sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion llesiant.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth a chadarnhaodd bod 94% o'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn eu targedau. Cyfeiriodd at y perfformiad yn erbyn tri amcan llesiant y Cyngor a thynnodd sylw at sawl hanesyn cadarnhaol ar draws yr amcanion hynny. Fodd bynnag, er bod perfformiad yn erbyn targedau ar y cyfan yn wyrdd neu’n felyn, roedd tueddiadau yn gostwng yn erbyn nifer o ddangosyddion oedd yn ymwneud â pherfformiad, yn enwedig felly mewn perthynas ag Amcan Llesiant 2. Byddid yn rhoi sylw penodol i’r dangosyddion hynny, ynghyd â’u prosesau a’u ffrydiau gwaith cysylltiedig, wrth i'r Cyngor symud i gyfnod y gaeaf, yn enwedig felly o ystyried cyd-destun mwy o dlodi tanwydd a bwyd, a phwysau costau byw uwch.

 

Rhoddodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd 22 Tachwedd, 2022, lle trafodwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Chwarter 2. Cadarnhaodd y cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad cynhwysfawr ynghylch perfformiad corfforaethol yn erbyn y gwahanol ddangosyddion a bu iddo herio’r Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ar nifer o feysydd. Roedd y Pwyllgor wedi croesawu’r sicrwydd a'r ymatebion a gafodd gan y Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ac yn eu gwerthfawrogi ac wedi argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru oedd ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Mewn perthynas â nifer o ddangosyddion perfformiad Melyn ac un Coch yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y cyfeiriadau’n cynyddu a bod achosion hefyd yn mynd yn fwy cymhleth ac, felly, yn rhoi pwysau ar y broses asesu. Cyflwynodd fwy o fanylion am Ddangosydd Perfformiad 23 (y cyfnod, ar gyfartaledd, y bu’r holl blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn ac a gafodd eu dadgofrestru yn ystod y flwyddyn) oedd wedi’i dynodi’n Goch. Eglurodd bod pob plentyn oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant am gyfnod hwy na’r targed, sef 270 o ddiwrnodau, yn destun achos gofal Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) h.y. roeddynt yn parhau ar y gofrestr am resymau cyfreithiol a gofal cyfreithlon. Sicrhaodd fod yr holl ddangosyddion oedd wedi’u dynodi’n Felyn yn cael eu hadolygu'n fewnol yn rheolaidd a bod Dangosydd Perfformiad 23 yn cael ei ystyried er mwyn sefydlu a oedd modd mesur perfformiad mewn ffordd oedd yn adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol yn gywirach a'r cymhlethdodau dan sylw.

 

Wrth gydnabod cysondeb perfformiad ar draws gwasanaethau’r Cyngor, awgrymodd y Pwyllgor Gwaith, gan fod Cynllun newydd y Cyngor ar y gweill, y gallai hefyd fod yr amser iawn i adolygu ac adfywio’r fframwaith rheoli perfformiad a’r broses adrodd. Byddai hyn, efallai, yn rhoi mwy o sylw i nifer ddethol o ddangosyddion perfformiad a thargedau bob chwarter yn hytrach na'r fformat safonol a chyffredinol a ddefnyddid ar hyn o bryd i adrodd arno.

 

Wrth gydnabod y pwynt, dywedodd y Prif Weithredwr mai elfen bwysig arall wrth loywi adroddiadau perfformiad oedd y defnydd a wnaed o dechnoleg, cyfryngau digidol a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol i olrhain agweddau ar berfformiad. Elfen arall, hefyd,  fyddai tynnu sylw'r cyhoedd at lwyddiannau'r Cyngor ac at unrhyw newidiadau mewn perfformiad trwy ddulliau ac eithrio cyfarfodydd ffurfiol a dogfennau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar fonitro’r Cerdyn Sgorio am Ch2 2022/23, ynghyd â’r mesurau lliniaru a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: