Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, iddo ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, blwyddyn ariannol 2022/23.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg a rhoddodd wybodaeth gefndir am y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2022/23. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelwyd ar gyfer 2022/23, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor, oedd tanwariant o £1.128m, sef 0.71% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23. Fodd bynnag, roedd cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch y sefyllfa derfynol oherwydd costau ychwanegol yn sgil dyfarniadau cyflog staff a phrisiau ynni cynyddol; prisiau uwch i'w talu am y mwyafrif o'r nwyddau a gwasanaethau a brynir gan y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant; cynnydd yn y galw a'r costau oedd yn gysylltiedig â misoedd y gaeaf yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y galw oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y tanwariant a ragwelwyd hefyd yn cynnwys defnyddio £3m o gronfeydd wrth gefn i ymateb i bwysau ychwanegol. Er bod y prif ffigwr a ragwelwyd, felly, yn dangos sefyllfa bositif ar gyfer 2022/23, nid oedd yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa ac roedd yn hynod debygol ar ddiwedd y flwyddyn mai cadw ei phen uwchlaw’r dŵr fyddai’r gyllideb refeniw neu, o bosib, yn gorwario. Ar ôl defnyddio'r cronfeydd wrth gefn a chyllid grant ychwanegol, roedd y sefyllfa sylfaenol yn sylweddol waeth, gyda diffyg sylfaenol o dros £4m y byddai’n rhaid mynd i'r afael ag o wrth bennu cyllideb 2023/24.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylwadau’r Aelodau Portffolio a dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn debygol o ddirywio yn ail hanner y flwyddyn gan olygu, hefyd, y byddai gosod cyllideb 2023/24 yn heriol iawn oherwydd y ffactorau y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Portffolio ac a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at bryderon penodol ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, oedd dan bwysau cynyddol oherwydd y galw cynyddol. Rhagwelwyd y buasent yn gorwario i raddau sylweddol er y câi grantiau a chronfeydd wrth gefn ychwanegol eu defnyddio i leihau’r gorwariant. Ar y llaw arall, roedd gwarged a ragwelwyd yng nghyllideb y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff, yn bennaf yn sgil gwerthu tanysgrifiadau gwastraff gwyrdd a deunyddiau ailgylchadwy, yn gyfle i addasu’r gyllideb incwm at i fyny. Er rhagweld y byddai incwm craidd presennol Treth y Cyngor yn uwch na'r gyllideb a, hefyd, gyllideb Premiwm Treth y Cyngor, gallai’r sefyllfa newid wrth i amgylchiadau pobl newid, apeliadau gael eu gwneud, gostyngiadau ac eithriadau fod yn berthnasol a, hefyd, wrth i eiddo gael ei drosglwyddo o'r gofrestr ddomestig i'r gofrestr ardrethi busnes. Byddai’n rhaid i unrhyw orwariant diwedd blwyddyn gael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor oedd, yn ei dro, yn lleihau’r sgôp i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i fantoli cyllideb 2023/24. Y disgwyl oedd y byddai gosod y rhain yn dasg anodd iawn. Câi’r gyllideb refeniw ei hadolygu'n fisol yn ail hanner y flwyddyn.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Craffu Cyllid, y byddai’r Panel yn canolbwyntio ar y sefyllfa yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd mewn cyfarfodydd i ddod.
Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa a chydnabod yr heriau oedd i ddod a chydnabuwyd bod llawer ohonynt yn deillio o ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nododd y Pwyllgor Gwaith, hefyd, nad oedd y prif ffigurau yn unig yn dangos y gwir ddarlun, sef cyllidebau oedd yn dod dan bwysau cynyddol o ganlyniad i gostau uwch a galw cynyddol am wasanaethau'r Cyngor, yn enwedig yn y maes Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, a bod defnyddio cronfeydd wrth gefn a grantiau yn cuddio'r gwir sefyllfa. Holwyd ynghylch costau ynni'r Cyngor a'r sefyllfa o ran bargeinion sefydlog yr oedd y Pwyllgor Gwaith yn eu hystyried yn risg uchel, o ystyried nifer ac ystod ei adeiladau. Holwyd, hefyd, ynghylch dyfarniad cyflog staff ac a ddylid disgwyl i'r Cyngor ariannu dyfarniadau cyflogau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac a allai ychwanegu swm sylweddol at ei filiau cyflog. Yng ngoleuni'r holl faterion a allai ddylanwadu ar sefyllfa'r gyllideb, holodd y Pwyllgor Gwaith pa mor realistig oedd y rhagolygon am ddiwedd y flwyddyn.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sut y pennwyd y dyfarniadau cyflog i staff addysgu a staff nad oeddynt yn addysgu a chadarnhaodd nad oedd disgwyl i unrhyw arian ychwanegol gael ei roi i dalu'r costau cysylltiedig ar gyfer y naill grŵp na'r llall. Roedd y Cyngor yn rhan o fframwaith cenedlaethol ar gyfer prynu ynni tan 2023/24, gwaith a wnaed gan gwmni hyd braich oedd yn gysylltiedig â Chyngor Sir Caint, oedd yn prynu ar ran nifer o awdurdodau lleol yn genedlaethol. Fodd bynnag, câi prisiau eu hadolygu'n flynyddol ym mis Hydref ac er bod y prisiau diweddaraf newydd ddod i law a heb eu harchwilio eto, roedd ffigurau a gyflwynwyd gan y cwmni ddeufis yn ôl yn dangos cynnydd o 60% yn y pris a dalai’r Cyngor am ei drydan a chynnydd o 160% ym mhris nwy, a olygai y byddai gwariant ynni blynyddol y Cyngor yn codi o tua £3m i £5m ar y sail hon. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei bod yn debygol bod y tanwariant o £1.128m a ragwelwyd ar gyfer 2022/23 yn rhy optimistaidd, o ystyried popeth, ac y byddai gan hyn, yn ei dro, oblygiadau i strategaeth cyllideb 2023/24.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Rhaglen Re:fit, oedd â'r bwriad o helpu cyrff cyhoeddus i leihau faint o ynni a ddefnyddient drwy weithredu mesurau effeithlonrwydd ynni, ac oedd yn cynhyrchu tua £300mil o arbedion y flwyddyn, yn ddigon i wneud iawn am y bwlch pris yn yr hyn oedd yn farchnad ynni oedd yn newid yn gyflym.
Penderfynwyd –
· Nodi'r sefyllfa a nodwyd yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.
· Nodi'r crynodeb o'r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23, fel y’i manylir yn Atodiad C.
· Nodi gwaith monitro costau asiantaeth ac ymgynghori ar gyfer 2022/23 yn Atodiadau CH a D.
· Cymeradwyo trosglwyddo'r tanwariant o £100mil i gynyddu band eang mewn ysgolion i gronfa wrth gefn a glustnodwyd i ariannu gwaith gwella band eang yn 2023/24 - gwaith oedd wedi'i ohirio oherwydd gwaith cwblhau prosesau caffael priodol.
Dogfennau ategol: