Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddiben gosod sylfaen Treth y Cyngor am 2023/24.
Cyflwynodd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, gan nodi mai 31, 272.36 oedd y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen Treth y Cyngor i’w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw i’r Cyngor ar gyfer 2023/24. Nid oedd y ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddwyd gan rai awdurdodau (nid Ynys Môn), mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B, ac C. Y ffigur ar gyfer y Sylfaen Dreth at ddibenion pennu treth oedd yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau oedd 32,819.56.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses a ddefnyddiwyd i gyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor at ddiben Llywodraeth Cymru, wrth iddi bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd at ddibenion pennu treth leol a’r ffactorau dan sylw. O ran pennu’r dreth leol, eglurodd y cynnydd yn y premiwm ail gartref o 50% i 75%, yr oedd disgwyl iddo gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn wrth osod y gyllideb ym mis Mawrth, 2023. Cyfeiriodd at newidiadau yn y sylfaen drethu o'r flwyddyn flaenorol o ran nifer yr eiddo a dalai Dreth safonol y Cyngor, eiddo oedd yn wag yn y tymor hir ac ail gartrefi a chadarnhawyd y byddai cynyddu’r premiwm ail gartrefi o 50% i 75% yn esgor ar £800mil ychwanegol i’w ail-fuddsoddi mewn prosiectau tai i helpu pobl ifanc brynu cartref yn eu hardal. Mewn ymateb i gwestiynau am effaith y premiwm ail gartrefi ar y Grant Cynnal Refeniw ac a oedd y Grant Cynnal Refeniw yn ystyried proffiliau demograffig, yn benodol poblogaeth hŷn a’u hangen, oedd yn fwy, am wasanaethau, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sut y câi Asesiad o Wariant Safonol, sef asesiad o'r swm yr oedd angen i awdurdodau yng Nghymru ei wario ar wasanaethau, ei gyfrifo. Eglurodd, hefyd, y ffactorau a ystyriwyd, oedd yn cynnwys nifer o setiau data gwahanol, gan gynnwys poblogaeth. Cadarnhaodd nad oedd y premiwm ail gartrefi’n cael effaith ar faint o gyllid yr oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a dywedodd nad oedd poblogaeth lle'r oedd y mwyafrif yn hŷn yn cynhyrchu mwy o gyllid. Fodd bynnag, roedd gostyngiad yn y boblogaeth iau yn cael effaith ar y fformiwla ar gyfer cyfrifo’r Asesiad o Wariant Safonol ac yn lleihau faint o gyllid a gâi’r Cyngor.
Penderfynwyd –
· Nodi cyfrifiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 o Sylfaen Treth y Cyngor – câi hwn ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wrth gyfrifo'r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2023/24 31,272.36 (Rhan E6 Atodiad A yr adroddiad).
· Cymeradwyo cyfrifiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau o'r ardal am y flwyddyn 2023/24 (Rhan E5 Atodiad A yr adroddiad).
· Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (OS 19956/2561), fel y'i diwygiwyd gan OS1999/2935 a'r Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei sylfaen treth ar gyfer y flwyddyn 2023/24 fyddai 32,819.56 a byddai’r rhannau o'r ardal fel y'u rhestrir yn y tabl dan argymhelliad 3 yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: