Eitem Rhaglen

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar gynigion drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24, sy’n nodi’r math a’r lefelau o daliadau y gall awdurdodau lleol eu cynnig i’w haelodau. Yn dilyn proses ymgynghori, bydd fersiwn terfynol o Adroddiad Blynyddol y Panel ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, ac yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar gyfer ei fabwysiadu.   

 

Cyflwynwyd y newidiadau arfaethedig i’r lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer taliadau sylfaenol i aelodau, ynghyd ag uwch gyflogau a chyflogau dinesig yn yr adroddiad. Nodwyd fod y Panel wedi cyfyngu nifer yr uwch gyflogau i 17.     

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod y Panel wedi gosod pum cwestiwn penodol yn yr ymgynghoriad eleni. Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ddarparu Ymateb i bob un o’r cwestiynau canlynol (C):-

 

C1 -   Yw’r Panel yn cytuno y dylai’r elfen cyflog sylfaenol fod yn gysylltiedig â data Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2021?

C2 -   A ddylai’r Panel gynnwys yr adolygiad hwn yn ei gynllun gwaith ar gyfer y dyfodol ac adeiladu sylfaen dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau?

C3 -   A ddylai’r Panel gynnwys yr elfennwyddau traulfel costau ar gyfer aelodau o gynghorau tref a chymuned?

C4 -  Sut byddai’r Pwyllgor yn dymuno cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad gan yr IRPW?  Yw’r Pwyllgor wedi profi unrhyw heriau wrth gael gafael ar ein canllawiau a’n gwybodaeth neu wrth geisio eu deall drwy wefan yr IRP? Sut y gellir gwneud pethau’n haws?

C5 -  Mae’r Panel yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r holl randdeiliaid perthnasol dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac adeiladu ei dystiolaeth a’i strategaeth ymchwil.  Sut all y panel siapio’r ymgysylltu hyn?

         

O ran yr ymgysylltu, roedd y Pwyllgor yn teimlo bod angen gwneud mwy er mwyn annog pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn materion cysylltiedig â Llywodraeth Leol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn lefelau cydnabyddiaeth ariannol arfaethedig Panel Annibynnol Cymru ar gyfer 2023/24 ar gyfer cyflogau sylfaenol aelodau a’r uwch

  gyflogau a chyflogau dinesig, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad.

Y1 -  Derbyn cyfeiriad y Panel at y data ASHE 2021 ar gyfer penderfynu ar yr elfen cyflog sylfaenol ar gyfer Aelodau. Cytunodd y Panel hefyd â

chynnydd arfaethedig y Panel o 4.76% yn y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau.

Y2 -  Cefnogi cynnig y Panel i gysylltu ag Aelodau Etholedig er mwyn adolygu eu llwyth gwaith a chasglu data presennol ar gyfer

Penderfyniadau yn y dyfodol, ac, adeiladu hyn i mewn i’w gynlluniau gwaith ar gyfer y dyfodol ac adeiladu’r sail dystiolaeth er mwyn cefnogi

penderfyniadau.

Y3 - Derbyn cynnig y Panel i dalu’r costaunwyddau traul” i aelodau cynghorau tref a chymuned; £156 y flwyddyn tuag at gopstau gweithio o

adref, a £52 y flwyddyn tuag at gostau deunyddiau ysgrifennu.

Y4 - Derbyn yr opsiynau canlynol mewn perthynas â chael mynediad at wybodaeth ac arweiniad gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol:-

 

1. Crynodeb gyda dolenni at ganllawiau manwl;

2. Canllawiau hawdd eu defnyddio;

3. Cwestiynau Cyffredin.

           

Y5 - Derbyn bod cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rhithiol ac y dylai aelodau etholedig, aelodau lleyg a chynrychiolwyr cynghorau tref a

chymuned ac Un Llais Cymru fod yn rhan o’r broses ymgysylltu.

Dogfennau ategol: