Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2021/22

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol bod gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r pwyllgor hwn bob blwyddyn er mwyn cyflwyno trosolwg o weithgareddau.  Nododd bod presenoldeb wedi gwella ers i’r cyfarfodydd hyn gael eu cynnal yn rhithiol.

 

Adroddodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn bod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn

1998, a'r diwygiadau dilynol yn sgil deddf Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a

2006, i weithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth

Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub er mwyn rhoi sylw i'r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gofyniad hefyd i bartoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol

yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn o ganlyniad i’r Ddyletswydd Trais Difrifol y flwyddyn nesaf. Aeth ymlaen i ddweud mai un o’r prif heriau y mae’r bartneriaeth yn ei wynebu ar hyn bryd ydi colli grantiau lleol - mae'r holl grantiau a fyddai’n arfer dod i’r bartneriaeth, naill ai wedi dod i ben, neu wedi symud i fod yn grantiau rhanbarthol sy’n cael eu rheoli ar sail Gogledd Cymru. Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol at y data troseddu ar gyfer Ynys Môn ar gyfer Tachwedd 2022 a dderbyniwyd gan y Dadansoddwr Partneriaeth o fewn Heddlu Gogledd Cymru fel y nodir yn yr adroddiad.  Aeth ymlaen i nodi yn dilyn cydweithrediad rhwng yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol a’r Cyngor Tref, cyflwynwyd cais llwyddiannus ar gyfer Caergybi ym mis Mai o dan Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4 y Swyddfa Gartref.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Er eu bod yn croesawu’r cais llwyddiannus o dan y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4 ar gyfer Caergybi, nododd yr aelodau nad oes modd i gymunedau gwledig elwa o brosiect o’r fath a chodwyd cwestiynau ynglŷn ag argaeledd camerâu CCTV symudol mewn cymunedau gwledig. Atebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol bod y meini prawf cymhwystra ar gyfer y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4  yn ymwneud â’r lefel troseddu a adroddir mewn ardal benodol.  Nododd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Heddlu mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer cymunedau gwledig. Mewn perthynas â chamerâu CCTV nododd mai’r Cynghorau Tref sydd bellach yn gyfrifol am gamerâu CCTV, fodd bynnag rhoddodd sicrwydd i’r aelodau y byddai’n gwneud ymholiadau mewn perthynas ag argaeledd camerâu CCTV symudol. Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai, fel Cadeirydd y Bartneriaeth, yn codi’r mater yn ystod y cyfarfod nesaf o’r Bartneriaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai pryderon yn ymwneud â throseddau gwledig fod yn fater priodol i’w godi yn Fforwm Gwledig CLlLC;

·           Cyfeiriwyd at Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a chodwyd cwestiynau o ran y modd y mae’r bartneriaeth yn gweithredu mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â disgwyliadau’r Ddeddf. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol bod sefydliadau partner o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gallu creu cysylltiadau a rhannu arbenigedd i sicrhau yr eir i’r afael â materion yn ymwneud â throsedd ac anrhefn;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn ag effaith y pandemig ar ffigurau troseddu ar yr Ynys. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol bod ffigurau troseddu wedi gostwng yn ystod y pandemig oherwydd bod siopau a thafarndai ar gau ac oherwydd bod pobl yn gweithio o’r cartref. Fodd bynnag, cynyddodd troseddau casineb  oherwydd bod pobl yn teithio dros y ffin i ardaloedd gwledig a gwelwyd cynnydd sylweddol mewn twyll ar-lein gan fod mwy o bobl yn prynu nwyddau ar-lein.    Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau wedi cael eu cynnal o fewn y Bartneriaeth yn sgil yr argyfwng costau byw mewn perthynas â’r cynnydd posib mewn troseddu h.y. dwyn o siopau ac o gartrefi;

·           Holwyd i ba raddau y mae’r cynllun gweithredu’n ddigon cadarn i ddelio gyda’r meysydd blaenoriaeth er budd cymunedau Ynys Môn.  Dywedodd yr Aelodau y byddai’n well ganddynt weld Swyddogion yr Heddlu mewn cymunedau lleol yn siarad gyda thrigolion ynglŷn â’u pryderon.  Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ei bod hi’n bwysig bod y Bartneriaeth yn gwneud ceisiadau am gyllid megis o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4. Nododd bod adnoddau ar gael drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer cymunedau gwledig.

·           Bu i’r aelodau ystyried gwahodd cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru i’r cyfarfod hwn pan fo eitem ar Ddiogelwch Cymunedol ar yr agenda.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol, a nodi a yw'r Pwyllgor Craffu yn cefnogi'r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.

·         Gweld a oes modd darparu camerâu CCTV symudol drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol mewn cymunedau gwledig;

·         Sicrhau bod modd i gymunedau gwledig gymryd mantais o unrhyw gyllid sydd ar gael er mwyn amddiffyn eu cymunedau.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: