· Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: 2021/22
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
· Adroddiadau Cynnydd Ch1 : 2022/23 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - yr adroddiadau canlynol gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:-
· Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2021/2022
· Adroddiad Cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Ch1 2022/2023
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r Fargen Twf a’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r prosiectau ynghyd â cherrig milltir allweddol eraill yn ystod y flwyddyn. Dywedodd bod yr Adroddiad Cynnydd Chwarter 1 yn rhoi trosolwg o’r cynnydd mewn perthynas â rhaglenni a phrosiectau’r Fargen Twf.
Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru grynodeb o waith y Bwrdd Uchelgais o ran cyflawni prosiectau’r Fargen Twf. Adroddodd ar amcanion y Bwrdd Uchelgais i greu 4,200 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £2.4 biliwn o GVA ychwanegol. Adroddodd y Rheolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo a Rheolwr y Rhaglen Ddigidol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar yr uchafbwyntiau o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022:-
Ebrill 2021 – Sicrhawyd cyllid o £500k o Gynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan Llywodraeth Cymru i helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio;
Mai 2021 – Sicrhawyd grant o £200,000 o gynllun Adfer Gwyrdd OFGEM i ddatblygu technolegau carbon isel ar gyfer cartrefi megis pwyntiau gwefru cerbydau trydan a systemau gwresogi;
Mehefin 2021 – Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda'r sectorau preifat a chyhoeddus i helpu i adnabod blaenoriaethau ar gyfer cysylltedd symudol ar draws rhwydweithiau trafnidiaeth y rhanbarth;
Gorffennaf 2021 – Trefnwyd ymweliadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru;
Awst 2021 – Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon;
Medi 2021 -Lansiwyd Strategaeth Ynni ar gyfer y Gogledd gyda Llywodraeth Cymru, i drawsnewid y ffordd y defnyddir ynni ar draws y rhanbarth;
Hydref 2021 – Codwyd £2,300 ar gyfer Mind, gyda'r rhoddion yn cael eu rhannu ar draws canghennau’r Gogledd;
Tachwedd 2021 - Sicrhawyd grant o £387,600 drwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol i gynnal astudiaethau dichonoldeb y System Ynni Lleol Blaengar;
Rhagfyr 2021 – Cymeradwywyd yr Achos Busnes Llawn cyntaf ar gyfer y Ganolfan Prosesu Signal Digidol ym Mhrifysgol Bangor
Ionawr 2022 –Diweddarwyd gwasanaethau band llydan mewn 300 safle drwy'r Cynllun Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol;
Chwefror 2022 – Rhoddwyd cefnogaeth i dri sefydliad i lansio systemau amaethyddol newydd a fydd yn helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio;
Mawrth 2022 –Daeth Morlais, y prosiect llif llanw a redir gan Menter Môn, yn barod i ddechrau ar y gwaith adeiladu.
Adroddodd y Pennaeth Gweithrediadau ar y cynnydd ers mis Ebrill 2022 yn cynnwys yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y Ganolfan Peirianneg ac Optegol gyda Phrifysgol Glyndŵr a’r prosiect Ychydig % Olaf. Ym mis Gorffennaf 2022 lansiwyd y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd at benderfyniadau diweddar i dynnu’r prosiect Safle Strategol Allweddol a Fferm Sero Net Llysfasi yn ôl o’r Fargen Twf. Aeth ymlaen i ddweud bod Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru wedi cytuno i fenter ar y cyd arfaethedig gyda Llywodraeth Cymru ym Mryn Cegin, Bangor sydd yn brosiect cynllun twf.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
· Cyfeiriwyd at flaenoriaethau allweddol Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu strategaeth i ddenu buddsoddiadau gan y sector preifat tuag at y Cynllun Twf. Holwyd p’un ai a fyddai’r drydedd bont dros y Fenai o fewn cylch gwaith y Bwrdd Uchelgais gan y byddai’n denu busnesau i’r Ynys a chreu swyddi. Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau nad ydi’r drydedd bont dros y Fenai yn rhan o’r Cynllun Twf gan fod y Cynllun yn cynnwys 20 o brosiectau sydd wedi cael eu creu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth bod adeiladu trydedd bont dros y Fenai yn fater sydd wedi cael ei godi’n barhaus gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd ac yn enwedig yn ddiweddar ers cau Pont y Borth gan fod traffig yn creu pwysau ychwanegol ar Borthladd Caergybi. Byddai’n costio £400m i adeiladu trydedd bont ar hyn o bryd ac fe allai peidio â chodi pont arall effeithio ar brosiectau’r Bwrdd Uchelgais. Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyfrifoldeb statudol i greu cynllun trafnidiaeth strategol ar gyfer y rhanbarth drwy’r Cydbwyllgor Corfforedig. Nododd bwysigrwydd cydnabod yr angen am drydedd bont fel blaenoriaeth yn y cynllun trafnidiaeth strategol newydd ac i weithio gyda’r Cydbwyllgor Corfforedig i amlygu hyn fel blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth;
· Mewn perthynas â’r Cydbwyllgor mynegwyd bod gan yr awdurdod ran i’w chwarae yn y broses o sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig sydd yn broses gostus gydag awdurdodau lleol ledled Cymru’n wynebu sefyllfa ariannol heriol ar hyn o bryd. Holwyd ynglŷn ag anawsterau sefydlu darpariaeth o’r fath heb ddyblygu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill. Ymatebodd y Prif Weithredwr bod y Cydbwyllgor yn gorff newydd gyda chyfrifoldebau statudol a bod Cyfarwyddwr Portffolio cyfredol y Bwrdd Uchelgais wedi cael ei secondio i rôl Prif Weithredwr y Cydbwyllgor (rhan amser) a’i fod yn ystyried sut i gyfuno strwythurau, lleihau dyblygu a chadw costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r Cydbwyllgor cyn ised â phosib. Nododd bod tri o raglenni y mae angen mynd i’r afael â hwy ar hyn o bryd, sef y Cynllun Trafnidiaeth Strategol, y Strategaeth Cynllunio Strategol ar gyfer y Rhanbarth a’r Rhaglen Datblygu Economaidd;
· Holwyd ynglŷn â statws y Ganolfan Ragoriaeth Carbon Isel ym Mhrifysgol Bangor a p’un ai a ydi’r prosiect yn llithro. Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau bod y Prosiect Egin yn rhan o strategaeth ystadau ehangach ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Bwrdd Uchelgais yn gweithio gyda noddwyr y prosiect;
· Cyfeiriwyd at y ffaith nad ydi’r adroddiad yn cyfeirio at nifer o gyfleoedd cyflogaeth sy’n debygol o gael eu creu yn sgil y prosiectau, yn enwedig ar Ynys Môn. Mynegwyd bod pobl ifanc angen sicrwydd a gweledigaeth y bydd cyfleoedd ar gael i’w galluogi i aros ar yr Ynys. Pwysleisiwyd y bod angen creu a chefnogi cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau yn ogystal. Holwyd a ydi’r Bwrdd Uchelgais yn mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd gwaith i bobl ifanc, yn enwedig o fewn y 5 ysgol uwchradd ar yr Ynys. Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau bod y Bwrdd Uchelgais wedi gofyn am gyllid refeniw tuag at y rhaglen sgiliau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ond nad oedd y cais wedi bod yn llwyddiannus gan mai dim ond cyllid cyfalaf sydd ar gael tuag at y Cynllun Twf. Fodd bynnag, nodwyd bod dau Swyddog wedi cael eu penodi gan y Bartneriaeth Sgiliau i weithio gyda Gyrfa Cymru, STEM Gogledd Cymru a gweithwyr eraill i sicrhau bod pobl ifanc mewn ysgolion lleol yn ymwybodol o gyfleoedd cyflogaeth. Aeth ymlaen i ddweud bod bwriad i wneud cais am adnoddau gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddatblygu’r rhaglen STEM yng Ngogledd Cymru ynghyd â rhaglenni sgiliau a dysgu o fewn yr ysgolion uwchradd. Mae cynrychiolwyr o’r Bartneriaeth Sgiliau yn barod i fynychu’r cyfarfod hwn i drafod y gwaith a gyflawnwyd;
· Holwyd ynglŷn â’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r 3 prosiect yng Nghaergybi sef Morlais, adfer y Morglawdd ac ehangu’r Porthladd. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau mai’r unig brosiect sydd yn weithredol ar hyn o bryd ydi’r prosiect Morlais ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i greu’r seilwaith sydd ei angen i fwrw ‘mlaen â’r gwaith. Adroddodd y Rheolwr Tir ac Eiddo ar y prosiect i ehangu’r porthladd a dywedodd bod ymgynghorwyr Stena wedi drafftio achos busnes mewn perthynas ag ailfeddiannu tir y Porthladd. Mae rôl y Bwrdd Uchelgais wedi cynnwys helpu i sicrhau cyllid ar gyfer y Cynllun Twf, fodd bynnag mae’r Bwrdd Uchelgais wedi’i gyfyngu oherwydd y rheolau cymhorthdal. Nododd y gellir defnyddio adnoddau’r Cynllun Twf a'r prosiect Porth Caergybi i gefnogi’r prosiect i adnewyddu’r Morglawdd. Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd y gwaith ar y Morglawdd a’r estyniad i’r Porthladd yn dechrau yn 2023 ac y bydd y gwaith adeiladu’n para dwy flynedd;
· Cyfeiriwyd at yr argyfwng costau byw a holwyd ynglŷn â’r effaith ar y prosiectau a’r Cynllun Twf. Ymatebodd y Pennaeth Gweithrediadau bod yr argyfwng costau byw yn achosi her i’r Bwrdd Uchelgais gyda chostau chwyddiant ac adeiladu 30% i 40% yn uwch na’r disgwyl ac felly mae heriau sylweddol ar gyfer y prosiectau mwyaf aeddfed sy’n barod i fynd rhagddynt. Mae’n debygol na fydd rhai o brosiectau’r Cynllun Twf yn mynd rhagddynt bellach.
PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/2022 a nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 1 – 2022/2023.
GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: