Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2022/60 – Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen y Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

12.2 – VAR/2022/69 – Bryn Meurig, Llangefni

VAR/2022/69

 

12.3 – VAR/2022/52 – Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

VAR/2022/52

 

12.4 – FPL/2022/247 – Parc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan

FPL/2022/247

 

12.5 – FPL/2022/195 – Pendref, Llanfairynghornwy

FPL/2022/195

 

12.6 – FPL/2022/215 – Capel Bach, Rhosybol

FPL/2022/215

 

Cofnodion:

12.1  FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref Street, Niwbwrch

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.2  VAR/2022/69 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynllun sydd wedi ei ganiatáu) a (08) (Draenio dŵr wyneb) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb ddraenio i un pwynt cyswllt y garthffos gyhoeddus yn Bryn Meurig, Llangefni

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.3  VAR/2022/52 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a ganiatawyd), (03)(Oriau Gweithredu), (04)(Oriau Dosbarthu) a (05)(Oriau Gwirio Gwesteion) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/317 (Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig) er mwyn caniatáu amodau gweithredu/agor diwygiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Nick Smith, a oedd yn cefnogi’r cais, fod caniatâd cynllunio wedi rhoi gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf, 2022, ar gyfer adeiladu adeilad tri llawr sy’n cynnwys 10 ystafell westy, gyda bwyty a dau fflat. Roedd amodau sy’n rheoli amser gweithredu’r bwyty, dosbarthu ac amser cyrraedd gwesteion wedi’u hatodi i’r caniatâd. Mae’r amodau presennol yn gorfodi’r bwyty i gau am 8pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a 9pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae hyn yn gyfyngiad afresymol, ac yn gwbl ddiangen ar gyfer sicrhau bod y datblygiad yn dderbyniol. Mae’r cais yn ceisio diwygio amodau ar y caniatâd cynllunio blaenorol drwy ganiatáu’r bwyty i weithredu am 2 awr ychwanegol gyda’r nos, sy’n cynnwys dan 10pm rhwng dydd Sul a dydd Iau a dan 11pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

 

Byddai amser cyrraedd i westeion hefyd yn cael ei ddiwygio i gyd-fynd â’r oriau gweithredu hyn. Ni fyddai’r oriau ychwanegol arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar fwynder eiddo cyfagos. Fel y nodwyd, mae cymysgedd o eiddo masnachol, gan gynnwys tafarndai a bwytai, yn agos at y safle, sy’ cael gweithredu tan amser hwyrach gyda’r nos na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y cais hwn. Nid oes gan y caniatâd cynllunio presennol unrhyw hawl dros ddefnyddio ardal eistedd allanol. Ar hyn o bryd, mae’r ardal eistedd allanol yn cael ei defnyddio dim ond yn ôl yr oriau agor sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer y bwyty. Cynigir amod ychwanegol i reoli’r defnydd o’r ardal eistedd allanol, felly ni fyddai’n cael ei ymestyn y tu hwnt i’r oriau gweithredu presennol, a byddai wedi’i gyfyngu i 8pm o ddydd Sul i ddydd Iau, a 9pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Mae’r cynllun seddi hefyd wedi’i ddiwygio i gael gwared ar unrhyw seddi allanol yn nhu blaen yr adeilad sy’n agos i’r ffin gydag eiddo cyfagos i’r de, er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw effaith andwyol ar fwynder yr eiddo hwnnw.

 

Tynnodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw at y prif ystyriaethau cynllunio fel y’u nodwyd yn adroddiad y Swyddog Achos, i ddiwygio amodau (03) oriau gweithredu, (04) oriau dosbarthu, (06) oriau cyrraedd i westeion, ynghyd a diwygio amod (02) cynlluniau a ganiatawyd, er mwyn galluogi’r diwygiadau ar gyfer yr ardal eistedd allanol. Ystyrir na fydd y diwygio’r oriau gweithredu ac oriau dosbarthu’n cael effaith andwyol ar fwynder yr eiddo cyfagos, ac mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams i gymeradwyo’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Ken Taylor y cynnig i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  Cais llawn ar gyfer adeiladu 10 uned llety ar gyfer gwesteion priodas ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mharc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Mr Gerwyn Jones, a oedd yn cefnogi’r cais, a oedd yn datgan bod y cais a dogfennau ategol yn egluro mai cais ar gyfer gwesteion priodas yn unig yw hwn, ac ni fydd y safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion llety gwyliau. Mae’r ymgeisydd yn fodlon derbyn y cyfyngiad hwn fel amod o gymeradwyo. Nid yw’r cais yn ceisio cynyddu capasiti’r lleoliad priodas, nac addasu unrhyw gymeradwyaeth blaenorol sy’n gysylltiedig â’r lleoliad priodas (h.y. oriau trwyddedu ac ati), felly drwy gymeradwyo’r cais hwn, yr unig gynnydd a welir fydd yr unedau llety sydd ar gael i westeion sy’n mynychu priodasau yn y lleoliad ar hyn o bryd. Mae graddfa’r cais yn parchu maint y safle a’r ardal gyfagos, ac mae’r unedau arfaethedig wedi’u cynllunio i ymdebygu unedau amaethyddol i weddu a’r dirwedd o’u hamgylch. Mae sawl ffin sefydlog yn cynnwys gwrychoedd brodor a choed aeddfed sy’n creu sgrin o amgylch y safle arfaethedig, a bydd gwrychoedd brodor a choed yn cael eu plannu yn y ffiniau sy’n llai ar ffurf sgrin i sgrinio’r safle ymhellach. Mae’r cais hefyd yn cydymffurfio â gwelliannau bioamrywiaeth gofynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd Cymru (2016).

 

Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ati i drafod y prif faterion cynllunio fel y’u nodwyd yn adroddiad y Swyddog Achos, a dywedodd fod yr unedau llety yn cael eu defnyddio ar gyfer gwesteion priodas ar y safle. Ystyrir bod y cynllun yn cael ei ystyried dan bolisi cynllunio PS13 a CYF 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn hytrach na pholisi cynllunio TWR 2. Mae safle’r cais o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig Cors Ddyga a’r Cyffiniau, ac felly mae’n ofynnol bod y cynllun yn cyd-fynd â pholisi cynllunio AMG 2. Nid yw’r safle’n weladwy o’r briffordd gyhoeddus oherwydd topograffi lleol a llystyfiant aeddfed. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Geraint Bebb a Nicola Roberts, Aelodau Lleol, pe allai’r cais gael ei ystyried dan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd pryderon lleol. Yn dilyn sicrwydd ac amodau sy’n sicrhau y bydd yr unedau’n cael eu defnyddio ar gyfer menter busnes priodasol presennol ar y safle, roeddent yn fodlon â’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts pe byddai’r busnes priodasau’n dod i ben ar y safle hwn, a fyddai modd troi’r unedau hyn yn llety gwyliau. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio bod amod o fewn y gymeradwyaeth yn sicrhau mai dim ond ar gyfer gwesteion priodasau y defnyddir yr unedau hyn. Byddai angen cyflwyno cais i droi’r unedau hyn yn llety gwyliau i’r Awdurdod Cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Ken Taylor y cynnig i gymeradwyo

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

(Erbyn hyn, roedd y cyfarfod wedi bod yn mynd yn ei flaen ers tair awr, ac yn unol â gofynion paragraff 4.1.10 y Cyfansoddiad, gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn dymuno parhaus. Pleidleisiodd y mwyafrif o’r Aelodau presennol i barhau â’r cyfarfod).

 

12.5 FPL/2022/195 – Cais  llawn ar gyfer codi tyrbin gwynt 13.5m o uchder, 5kW yn Pendref, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jackie Lewis, gan siarad fel Aelod Lleol, pe allai’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais oherwydd pryder lleol a gan fod y safle mewn AHNE, ac yn weladwy o fewn yr ardal gyfagos. Dywedodd y byddai ymweliad safle rhithiol yn addas, ac y dylai Swyddogion drafod y fideos y dylid eu cymryd gyda’r Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams i gynnal ymweliad safle ar y safle. Eiliodd y Cynghorydd John I Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6  FPL/2022/215 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i storio peiriannau ynghyd â chadw'r gwaith ail wynebu yn Capel Bach, Rhosybol

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu, gadawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Neville Evans, y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones i’r Pwyllgor gynnal ymweliad ffisegol ar safle’r cais, er mwyn gweld lleoliad y safle o fewn y gymuned leol, gan nad yw’r map amgaeedig o fewn yr adroddiad yn adlewyrchu’r ardal yn deg.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cynnal ymweliad safle ffisegol ar safle’r cais. Eiliodd y Cynghorydd R Ll Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

Dogfennau ategol: