Eitem Rhaglen

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn adolygiad o weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 a pherfformiad yn erbyn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22.

 

Gan nad oedd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yn bresennol, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg a thynnodd sylw at y gofynion adrodd statudol yng nghyswllt Rheoli'r Trysorlys a'r canlyniadau penodol a gâi eu cynnwys yn adroddiad adolygu 2021/ 22. Yn ei gyfarfod 28 Medi 2022, craffodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adroddiad a chadarnhau bod perfformiad Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn unol â'r strategaeth o fuddsoddiadau risg isel, enillion isel a dull benthyca a gynlluniwyd i leihau costau llog.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor Gwaith nad oedd cyfrifon y Cyngor am 2021/22 wedi’u cymeradwyo oherwydd bod disgwyl datrys mater technegol oedd yn cael effaith ar gyfrifon holl awdurdodau lleol Cymru a rhai awdurdodau yn Lloegr. Roedd Llywodraeth Cymru, CIPFA ac Archwilio Cymru bellach wedi dod i gytundeb ar ffordd ymlaen, oedd yn golygu bod gwaith archwilio'r cyfrifon yn debygol o gael ei gwblhau ym mis Ionawr, 2023. Cadarnhaodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw faterion yn codi oedd yn cael effaith ar y ffigyrau yn yr adroddiad adolygu. Fodd bynnag, ers cyfnod yr adroddiad roedd y sefyllfa ariannol wedi newid yn sylweddol mewn perthynas â chyfraddau llog gwell oedd wedi esgor ar enillion gwell ar fuddsoddiadau’r Cyngor. Golygai hyn y gellid cynyddu’r llog a dderbynnir wrth osod cyllideb 2023/24. Ni fenthycwyd yn allanol o gwbl yn y flwyddyn ariannol 2021/22, gyda'r Cyngor, yn hytrach, yn cadw at ei strategaeth o ddefnyddio balansau arian parod yn lle hynny. Er y byddai’r sefyllfa honno'n debygol o newid yn 2023/24, byddai unrhyw fenthyciadau newydd y byddai’r Cyngor yn eu cymryd yn y dyfodol yn ddrytach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 na châi adroddiad yr adolygiad ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn nes bod y cyfrifon wedi'u cymeradwyo. Barn y Cadeirydd oedd y byddai’n briodol cyflwyno’r cyfrifon terfynol a’r adroddiad ar adolygiad o waith Rheoli’r Trysorlys gyda’i gilydd i’r un cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151  hefyd, sut roedd gwaith benthyca’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn gweithio a sut roedd ei gyfraddau llog yn cael eu pennu. Roedd hyn yn cadarnhau bod y gosb am ad-dalu’n gynnar yn uwch na’r llog a arbedwyd er bod benthyciadau’r Bwrdd yn rhatach ar y cyfan na rhai banciau masnachol,  gan ei wneud yn aneconomaidd i ad-dalu’n gynnar.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi y byddai’r ffigurau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes y byddai gwaith archwilio Datganiad Cyfrifon 2021/22 wedi'i gwblhau a'i gymeradwyo. Byddir yn adrodd fel bo'n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i'r ffigurau yn yr adroddiad.

·      Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2021/22 yn yr adroddiad.

·      Anfon yr Adroddiad ar yr Adolygiad Blynyddol o waith Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22 ymlaen i'r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.

 

Dogfennau ategol: