Eitem Rhaglen

Adolygiad Canol Blwyddyn o Reoli'r Trysorlys

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli’r trysorlys a’r sefyllfa bresennol i’w ystyried gan y Pwyllgor. Ysgrifennwyd yr adroddiad yn unol â gofynion Cod Ymddygiad CIPFA ar Reoli Trysorlys (diwygiwyd 2017) a rhoddodd ddiweddariad ynghylch y sefyllfa yng ngoleuni’r newidiadau cyllidebol a’r sefyllfa economaidd sydd eisoes wedi’u cymeradwyo.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod strategaeth buddsoddi’r Cyngor yn parhau i ddiogelu cyfalaf a datodiad a chynnal lefel briodol o adenillion sy’n cyd-fynd â pharodrwydd y Cyngor i dderbyn risg. Yn y sefyllfa economaidd bresennol, ystyrir ei bod yn briodol gwneud buddsoddiadau tymor byr er mwyn bodloni anghenion llif arian, ond hefyd er mwyn gweld y gwerth sydd ar gael mewn cyfnod o hyd at 12 mis, gyda sefydliadau ariannol â chyfradd credyd uchel. Darparwyd rhestr lawn o fuddsoddiadau dyddiedig 30 Medi, 2022, yn Atodiad 3, a chrynodeb o fuddsoddiadau a chyfraddau yn Atodiad 4. Mae’r tabl yn adran 5.7 o fewn yr adroddiad yn dangos rhestr o fuddsoddiadau a wnaed yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, a gan gofio bod diogelwch cronfeydd yn ddangosydd allweddol i’r Cyngor a bod diffyg galw gan awdurdodau lleol eraill, ystyrir mai cyfrifon galw banc yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian. Ni thorrwyd y cyfyngiadau cymeradwyedig o fewn y Strategaeth Buddsoddi Blynyddol yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn; fodd bynnag, yn sgil balansau arian uwch a galw gan awdurdodau lleol eraill, gofynnir bod y cyfyngiad benthyca ar gyfer awdurdodau eraill yn codi o £5 miliwn i £10 miliwn, er budd y cyfleoedd buddsoddi gorau posibl. Adenillion o fuddsoddi’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 yw £200k, gyda disgwyl i’r gyllideb fynd y tu hwnt i’r llwyddiant a ddisgwylir erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r cynnydd mewn cyfraddau llog wedi arwain at enillion gwell, a bydd yn cynyddu lefel yr incwm buddsoddiad y mae’r Cyngor yn gallu cyllidebu ar ei gyfer, a’i gyflawni yn 2023/24.

 

Mae’r Cyngor yn parhau i gynnal strategaeth ar gyfer defnyddio balansau arian sydd ar gael lle y bo’n bosibl er mwyn cefnogi gwariant cyfalaf. Mae’r Cyngor wedi rhagamcanu benthyciadau diwedd blwyddyn o £122.7 miliwn, a bydd wedi defnyddio £24.2 miliwn o gronfeydd llif arian yn hytrach na benthyca. Ni fenthycwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, ac ni ragwelir y bydd angen benthyca unrhyw arian yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Mae’r rhaglen gyfalaf yn cael ei hadolygu’n rheolaidd oherwydd effeithiau pwysau chwyddiannol a phrinder deunyddiau a llafur, a bydd strategaeth y Cyngor hefyd yn cael ei hadolygu’n rheolaidd, a’i diwygio os yn berthnasol, er mwyn cyflawni’r gwerth gorau ac amlygiad risg hir dymor.

 

Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i bennu’r cyfyngiadau benthyca fforddiadwy, a’u hadolygu. Yn ystod yr hanner blwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi, 2022, mae’r Cyngor wedi gweithredu o fewn dangosyddion y drysorfa a’r dangosyddion darbodus a nodwyd yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Drysorfa 2022/23 y Cyngor, ac ni ddisgwylir unrhyw heriau o ran cydymffurfio gyda’r dangosyddion hyn ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

 

Codwyd y materion canlynol gan y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad -

 

·         Rhesymau a diogelwch rhoi benthyg a benthyca rhwng awdurdodau lleol, ac a fyddai cynyddu’r cyfyngiadau benthyca ar gyfer awdurdodau lleol i £10 miliwn yn risg credydol o ystyried bod sawl awdurdod dan bwysau ariannol ac o ystyried y rhagamcanir y bydd incwm o enillion a enillwyd yn y farchnad yn gyffredinol yn uwch yn 2023/24 gan felly leihau’r angen am amlygiad i sector a ystyrir yn brin o arian.

        

  • Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y Cyngor yn ymgymryd â diwydrwydd taladwy mewn perthynas â’r awdurdodau lleol y mae’n darparu benthyciadau iddynt drwy archwilio eu cyfrifon mwyaf diweddar, a’i fod yn rhoi benthyg yn bennaf i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ystyrir benthyca’n fewnol rhwng awdurdodau fel opsiwn diogel, risg isel, ac oherwydd hyn, mae’n elwa’r awdurdod sy’n benthyca tra bo’r awdurdod sy’n derbyn y benthyciad yn gallu cael cyfradd well na’r hyn fyddai ar gael gan ffynonellau eraill megis PWLB, yn enwedig yn y tymor byr ar gyfer prosiectau penodol neu at ddibenion llif arian ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mae’r rhagolygon incwm buddsoddiad amgen ar gyfer diwedd y flwyddyn yn cynnwys yr enillion a gynhyrchir o fuddsoddi gydag awdurdodau lleol eraill. Er y bydd cynyddu’r cyfyngiad o £10 miliwn yn ymestyn cyfleoedd buddsoddi, mae strategaeth y Cyngor yn parhau i ddiogelu ei gyfalaf a sicrhau diddymiad digonol cyn cynyddu enillion. Ni fydd yn defnyddio uchafswm y cyfyngiad a gynyddwyd i gynhyrchu enillion er eu budd personol, ac ni fyddai’n defnyddio’r cyfyngiad uchaf yn syth. Dywedodd y Swyddog Adran 151 bod y risg o awdurdod lleol yn profi methiant ariannol ac yn methu ac ad-dalu ei ddyledion yn isel iawn.

·      P’un a yw amcangyfrifiadau’r Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn realistig o ystyried tanwariant cyson y gyllideb cyfalaf gyda dim ond £17.465 miliwn wedi’i wario erbyn 30 Medi, 2022, gan adael £28.8 ar ôl i’w wario yn ail hanner y flwyddyn ariannol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y pwynt a nodwyd yn gynharach ynghylch llithriant wedi’i nodi; mae cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai wedi cael ei adolygu, ac mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i leihau’r gyllideb ar sail y Cynllun Busnes HRA. Er bod y tanwariant o’r gyllideb cyfalaf oddeutu 40% ar gyfer 2021/22, bydd yn nes at 11% ar gyfer 2022/23, sy’n welliant sylweddol. Mae problemau wedi codi eleni ynghylch prisiau tendro uchel, ac oherwydd hyn, mae wedi bod yn ofynnol mewn rhai achosion i adolygu manylebau contractau sydd wedi arwain at oediadau; gall problemau tywydd sy’n gysylltiedig â chyfnod y gaeaf hefyd oedi cynnydd prosiectau cyfalaf.

 

Penderfynwyd –

 

·    Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y newid mewn cyfyngiad i barti i gontract ar gyfer awdurdodau lleol eraill fel y nodwyd yn adran 5.3 yr adroddiad, yn cael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Gwaith a’i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

·    Nodi adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23, a chyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylw pellach.

 

Dogfennau ategol: