Eitem Rhaglen

Adolygiad o Adroddiadau Archwilio Cymru a Zurich Risk Engineering yn ymwneud ag Ymateb i Newid Hinsawdd yn y Sector Cyhoeddus a Chyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr, a oedd yn cynnwys dadansoddiad gan y Cyngor o’r argymhellion a wnaed yn adroddiadau Archwilio Cymru a Zurich Risk Engineering mewn perthynas â’r ymateb i newid hinsawdd, ynghyd â’r camau a gafodd eu crybwyll gan y Cyngor i gryfhau ei agwedd tuag at newid hinsawdd, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd llythyr gan Archwilio Cymru hefyd wedi’i atodi a oedd yn cynnwys diweddariad a chrynodeb o gynnydd datgarboneiddio’r Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd, adroddiad a oedd yn cynnwys adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar barodrwydd y sector cyhoeddus i fod yn sero net carbon erbyn 2030 ac adroddiad gwirio iechyd hinsawdd gan Zurich Risk Engineering, a gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor fel asesiad dechreuol o ymateb yr Awdurdod i newid hinsawdd. Croesawodd y ddau adroddiad a thynnodd sylw at ymateb y Cyngor sy’n adnabod newidiadau fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod byr, canolig a hir er mwyn sicrhau bod ei agwedd ar newid hinsawdd yn addas at ei ddiben.

 

Ar y cyfan, mae’n deg dweud bod y Cyngor ar y trywydd cywir o ran ei agwedd at fod yn garbon sero net hyd yma, ac mae Cynllun Tuag at Sero Net y Cyngor yn adnabod y llwybr ymlaen ar gyfer y Cyngor gyda’i feysydd rhaglen penodol. Fodd bynnag, rhaid dod i’r casgliad hwn gan gofio bod angen camau a newidiadau sylweddol er mwyn i’r Cyngor gyflawni ei darged sero net mewn modd realistig.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cyd-destun gan nodi fod y Cyngor wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi, 2020, a gwnaeth ymrwymiad i ddod yn Gyngor sero net erbyn 2030. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mabwysiadwyd Cynllun Sero Net gan y Cyngor ym mis Mawrth, 2022; mae cyllid hefyd wedi’i neilltuo at ddibenion newid hinsawdd ac mae swydd fel Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd wedi cael ei chreu er mwyn cydlynu a gyrru’r newidiadau ymlaen ar lefel gorfforaethol. Er bod cynnydd sylweddol wedi digwydd, mae’r Cyngor yn cydnabod ei fod yn ystod y cyfnodau cynnar o’r daith tuag at gyflawni sero net. Er gwaethaf ei benderfynoldeb a’i ddyhead i weithredu a chyfrannu at ddatgarboneiddio, mae’r Cyngor yn cydnabod, oherwydd y sefyllfa ariannol heriol, bydd cyflawni’r targed sero net yn heriol, ac oherwydd hyn, ni ellir rhagweld gydag unrhyw sicrwydd y bydd y targed yn cael ei gyflawni erbyn 2030, er y gellir sicrhau’r Pwyllgor y bydd y Cyngor yn parhau i weithio at y canlyniad hwnnw. Mae rhan hanfodol o waith yn mynd rhagddo, sef creu llinell sylfaen fydd yn helpu’r Cyngor i ddeall ei sefyllfa bresennol, ac ar y sail honno, datblygu targedau penodol a monitor cynnydd; gan fod y llinell sylfaen yn blaenoriaethu ymyraethau, buddsoddiadau a newidiadau, bydd yn helpu i fesur eu heffaith o ran allyriadau carbon a’r amgylchedd. Mae ymgorffori camau gweithredu dros yr hinsawdd o fewn gweithgareddau a phrosesau dyddiol y Cyngor yn cynnwys newid diwylliant a chyflwyno elfen newydd i weithrediad y Cyngor. Bydd rhaglen hyfforddiant llythrennedd carbon yn cael ei chyflwyno yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cadarnhawyd asesiad y Prif Weithredwr gan y Rheolwr Newid Hinsawdd.

 

Wrth ystyried y ddogfennaeth, aeth y Pwyllgor ati i drafod y canlynol -

 

·   Yr arbedion ynni o fesuriadau sydd eisoes wedi’u cymryd e.e. gosod paneli solar ar adeiladau’r Cyngor. Cadarnhaodd y Rheolwr Newid Hinsawdd y bydd buddsoddiadau i wella effeithlonrwydd ynni'r adeiladau yn cyflwyno buddion ac arbedion yn y tymor hir, a’u bod yn rhan o’r achos busnes.

·   Y metrigau a ddefnyddir i fesur cynnydd ac a fyddant yn rhai unigryw ac yn cael eu datblygu’n fewnol o fewn y Cyngor, neu ar gael eisoes ac ‘oddi ar y silff’. Dywedodd y Rheolwr Newid Hinsawdd mai’r bwriad yw i ddilyn y canllawiau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Daenlen a Chanllaw Adrodd Sero Net Carbon Sector Cyhoeddus Cymru, a bod y llinell sylfaen a'r darlun cyffredinol mae’r Cyngor yn ei ddatblygu yn seiliedig ar hynny hefyd.

·   Y costau tymor byr a chanolig ar gyfer cyflawni’r targed sero net, ac a yw’r Cyngor wedi dechrau amcangyfrif y costau hynny, ac yng ngoleuni’r gydnabyddiaeth gan Archwilio Cymru, fod cyllid yn cael ei ddarparu gan gyrff y sector cyhoeddus, yw’r rhwystr mwyaf i gyflawni’r targed, a hyd yn oed os bydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru, dylid sicrhau nad yw’r gost o gyflawni’r targed sero net yn cael ei fodloni drwy gyllid craidd y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er ei bod hi’n amhosibl amcangyfrif y costau yn eu cyfanrwydd, mae’r gwaith o asesu costau wedi dechrau mewn nifer o feysydd ble mae hynny’n bosibl, er enghraifft, defnyddio cerbydau trydan yn hytrach na cherbydau fflyd y Cyngor a sicrhau bod stoc tai’r Cyngor yn garbon niwtral. Cymhlethir y gwaith o asesu costau ymhellach oherwydd cynnydd chwyddiant, a dyna pam ei bod hi’n bwysig i ganolbwyntio ar y ddwy a thair blynedd nesaf wrth flaen gynllunio, a defnyddio’r llinell sylfaen er mwyn gwybod lle all y Cyngor wneud buddsoddiad er mwyn sicrhau’r buddion gorau o ran yr amgylchedd wrth fod yn ystyriol o’r gofynion tymor hirach a’r goblygiadau ariannol. Fel rhan o’r broses, mae angen newid ffordd o feddwl er mwyn defnyddio’r llu o grantiau mae’r Cyngor wedi’u dyfarnu ar gyfer sawl diben gwahanol ac i yrru’r agenda net sero yn ei blaen yn hytrach na gadael i’r gost ddisgyn ar brif gyllideb y Cyngor. Mewn perthynas â hyn, mae’r Cyngor angen pennu ei flaenoriaethau yng nghanol argyfwng costau byw, sef yr argyfwng diweddaraf mewn llu o sefyllfaoedd argyfwng y mae’n rhaid i’r Cyngor ddelio â hi, gan gynnwys y pandemig a newid hinsawdd. Pe na fyddai unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael i ddatblygu’r rhaglen ddatgarboneiddio, bydd yn rhaid i’r Cyngor wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael. Derbyniodd gyrff y sector cyhoeddus gyllid ychwanegol i gwblhau gwaith ychwanegol a oedd ei angen er mwyn ymateb i’r pandemig, ac er bod grantiau ar gael ar gyfer agweddau gwahanol ar waith ddatgarboneiddio, nid yw’r cyllid ar yr un lefel â’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer argyfwng Covid-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai prif flaenoriaeth y Cyngor yw ariannu’r gwasanaethau mae’n eu darparu, a diogelu’r gwasanaethau hynny wrth i sefyllfa’r gyllideb waethygu o fewn y ddwy flynedd nesaf. Oherwydd hyn, mae gwneud buddsoddiad ychwanegol mewn mentrau datgarboneiddio yn heriol dan yr amgylchiadau hynny, ac er y bydd darparu gwasanaethau’n cael ei flaenoriaethu, bydd yn rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i ffyrdd i gyflawni’r targed sero net erbyn 2030. O ystyried yr argyfwng ariannol presennol, byddai’r her yn sylweddol, hyd yn oed gyda chymorth ychwanegol, ond heb y cymorth hwn, mae’n annhebygol y cyflawnir y targed.

 

Wrth olrhain yr ymatebion, roedd y Pwyllgor eisiau gwybod a oedd y Cyngor mewn perygl o golli cyllid grant os nad oedd yn gallu dangos cynnydd o ran symud at gyflawni’r targed seto net erbyn 2030.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y bydd Llywodraeth Cymru’n debygol o fod yn chwilio am dystiolaeth o ostyngiad carbon wrth asesu prosiectau ar gyfer gyllid grant yn fuan, sy’n golygu bod cael llinell sylfaen ar waith er mwyn mesur cynnydd a chofnodi cerrig milltir yn holl bwysig. Er na chredir y bydd y Cyngor yn wynebu beirniadaeth ar sail ei sefyllfa bresennol am ei bod eisoes wedi gwneud gwaith sylweddol o ran ysgolion, ystadau a thai, mae’r risg o fethu cyfleoedd grant sy’n fwy tebygol o ddeillio o safbwynt gwyrdd yn golygu ei bod yn hanfodol fod y Cyngor yn gallu dangos effaith gadarnhaol ei waith ar yr amgylchedd, ac ar leihau allyriadau carbon.

 

·    A yw’r Cyngor wedi ystyried ymrestru cymorth, arbenigedd a phrofiad trydydd partïon i gyflawni ei darged net sero.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai prif flaenoriaeth y Cyngor yw pennu ei sefyllfa ei hun, ac i adnabod sut ac ymhle y mae angen targedu ei ymdrechion er mwyn gwneud gwahaniaeth; bydd hyn yn cael ei yrru gan y llinell sylfaen, a fydd yn ei dro yn gyrru opsiynau gan gynnwys ychwanegu trydydd partïon. Ar wahân i hynny, mae gan y Cyngor rôl bwysig fel arweinydd cymunedol i ddylanwadu ar weithredoedd, ac mewn pryd, hoffai weld rhaglen wella amgylcheddol sero net yn seiliedig ar y gymuned yn cael ei rhoi ar waith a fyddai’n cynnig cyfleoedd i gynnal partneriaethau â thrydydd partïon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch y camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei darged sero net, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r llinell sylfaen yn fan cychwyn ar gyfer yr holl weithgarwch ychwanegol; drwy greu fersiwn dangosfwrdd o’r llinell sylfaen ceir darlun gweledol fydd yn ei gwneud hi’n haws i adnabod tueddiadau a newidiadau gyda’r bwriad o ddatblygu llinell sylfaen awtomataidd a ellir ei diweddaru’n syml. Argymhellodd diweddaru’r Pwyllgor ar gynnydd yn ystod Gwanwyn 2023, gyda’r bwriad o gyflwyno’r llinell sylfaen a’r dangosfwrdd i’r Pwyllgor er mwyn cael gwell synnwyr o effaith gwaith y Cyngor mewn ymateb i newid hinsawdd.

 

Penderfynwyd nodi adroddiadau risg Archwilio Cymru a Zurich Municipal, a nodi hefyd bod y Pwyllgor yn sicrhau bod y ddau adroddiad wedi’u hadolygu ac y nodwyd newidiadau i wella agwedd y Cyngor o ran ymateb i newid hinsawdd.

 

Camau Eraill – diweddaru’r Pwyllgor ynghylch cynnydd yn ystod Gwanwyn 2023.

 

Dogfennau ategol: