Eitem Rhaglen

Diweddariad Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg er mwyn darparu diweddariad o’r sefyllfa fel y mae’n sefyll ar 30 Medi, 2022, ynghylch yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf a gyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi llwyth gwaith presennol yr adran Archwilio Mewnol, a’i blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr i ganolig wrth fynd ymlaen. Cafodd aelodau’r Pwyllgor gopïau o’r tri darn o waith sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â Gwytnwch Ariannol (Sicrwydd Rhesymol); Ymdrin ag Arian yng Nghyswllt Môn (Sicrwydd Rhesymol), y Dreth Gyngor ac Ad-daliadau Cyfraddau Annomestig (Sicrwydd Rhesymol) dan yswiriant ar wahân. Cyhoeddwyd pedwerydd adroddiad ar ffurf Gwiriad Iechyd Newid Hinsawdd gan Zurich Municipal Risk Engineers a gafodd ei gomisiynu i adolygu’r maes hwn o fewn gwaith y Cyngor, er mwyn ei helpu i gael dealltwriaeth well o’r prif amlygiadau a gwelliannau risg sy’n ofynnol er mwyn rheoli’r risg ac i gefnogi amcanion y Cyngor o gyflawni statws net sero erbyn 2030. Roedd yr adroddiad gwiriad iechyd yn destun eitem agenda ar wahân.

 

Tynnodd y Pennaeth Archwilio a Risg sylw at yr adrodd sicrwydd Gwytnwch Ariannol fel prif faes, ac adnabod risg strategol ar y gofrestr risgiau corfforaethol. Eglurodd bod yr adolygiad archwilio mewnol wedi ceisio pennu a oes gan y Cyngor drefniadau digonol ar waith i reoli goblygiadau gostyngiadau ariannol go iawn, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei flaenoriaethau a darparu gwasanaethau o ansawdd. O fewn cwmpas ei reolaeth, dangosodd yr adroddiad fod gan y Cyngor fframwaith o reolyddion effeithiol ar waith i reoli goblygiadau gostyngiadau ariannu go iawn, ond er hyn, mae’n amlwg fod y Cyngor yn wynebu penderfyniadau heriol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd y sefyllfa economaidd heriol ac anrhagweladwy presennol. Daethpwyd i’r casgliad hwn ar y sail bod y Cyngor yn gweithredu proses monitor cyllidebau effeithiol, yn ogystal â pholisi i gadw 5% o’i gyllideb refeniw net mewn enillion cyffredinol, sy’n helpu i liniaru yn erbyn risgiau ariannol; mae ganddo Gynllun Ariannol Tymor Canolig sydd wedi’i ddatblygu’n llawn, sy’n amcanu gofynion y Cyngor o ran adnoddau a’r cyllid fydd ar gael dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hefyd wedi amlinellu nifer o ddangosyddion perfformiad ariannol allweddol sy’n cael eu holrhain drwy’r cerdyn sgorio corfforaethol chwarterol. Fodd bynnag, fe allai’r Cyngor elwa o ddefnyddio pum dangosydd CIPFA mewn perthynas â gwytnwch ariannol y sector cyhoeddus fel y dangoswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad adolygu, er mwyn helpu i asesu ei wytnwch ariannol tymor hirach.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad diweddaru archwilio mewnol, ac yng nghyd-destun yr adolygiad Gwytnwch Ariannol, trafodwyd y mater ynghylch enillion ysgolion, yn enwedig a oes modd trosglwyddo a defnyddio balansau gormodol sy’n cael eu cadw mewn cyllidebau ysgolion yn rhywle arall. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses ar gyfer rheoli balansau dros ben mewn ysgolion, a chadarnhaodd y gallai ysgolion gadw tanwariant ar eu cyllideb flynyddol, oni bai fod y ffigyrau yn mynd y tu hwnt i’r trothwy 10%, ac nad yw’r ysgol yn gallu dangos bod ganddi gynlluniau i ddefnyddio’r balansau dros ben. Yn yr achos hwn, byddai’r Awdurdod yn gallu casglu unrhyw gyllid y tu hwnt i’r trothwy, a byddai’r cyllid hwn yn cael ei ddychwelyd i gyllidebau’r ysgolion er mwyn cael ei ail-ddosbarthu drwy’r fformiwla ariannu. Golyga hyn na all ysgolion ag ychydig o enillion, neu ddim o gwbl, gael eu targedu am gymorth. Mae gan ysgolion falansau am nifer o resymau, er enghraifft i reoli amgylchiadau annisgwyl ac amrywiadau mewn gwariant. Gall maint poblogaeth disgyblion mewn ysgol, boed yn ostyngiad neu’n gynnydd mewn nifer, effeithio ar y fformiwla ariannu; os bydd nifer y disgyblion yn gostwng mewn ysgol yn ystod blwyddyn benodol, mae’n rhesymol i dynnu ar ei enillion er mwyn esmwytho’r effaith tymor byr.

 

Penderfynwyd nodi’r ddarpariaeth sicrwydd Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethu wrth fynd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: