Eitem Rhaglen

Datblygu Aelodau

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar ddatblygiad a hyfforddiant Aelodau.  

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol ar y sesiynau hyfforddi a gynigwyd i’r aelodau ers mis Mai 2022.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol bod 47 o sesiynau hyfforddi wedi cael eu darparu i aelodau er mis Mai 2022. Darparwyd hyfforddiant ar bob math o bynciau ee Cynllunio, Trwyddedu, Archwilio, Sgiliau TGCh, Sgiliau Cadeirio ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini.  Bwriedir cynnal hyfforddiant bellach ar Iechyd, Diogelwch a Lles yn y Flwyddyn Newydd. Nodwyd bod lefelau presenoldeb yn ystod y sesiynau hyfforddi wedi amrywio. 

 

Roedd y Pwyllgor Safonau’n cytuno’n unfrydol bod cadeirio cyfarfodydd wedi dod yn fater mwy cymhleth ers cyflwyno cyfarfodydd hybrid, a chytunwyd y dylid gofyn i’r Arweinyddion Grwp fynnu bod yr hyfforddiant ar sgiliau cadeirio yn dod yn hyfforddiant mandadol ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau.  

 

Nodwyd gan y Rheolwr Hyfforddi bod amser yr hyfforddiant; yn ystod y dydd/ hwyr yn y prynhawn/ yn gynnar gyda’r nos, yn cael ei ystyried yn barhaus er mwyn ystyried ymrwymiadau gwaith/gofal yr aelodau.

 

Codwyd pryder nad oes modd gweld gwybodaeth ynglŷn â’r sesiynau hyfforddai a fynychwyd gan aelodau ar wefan y Cyngor. Nodwyd bod yr hyfforddiant a fynychir gan aelodau’n cael ei gofnodi gan yr aelodau yn eu hadroddiadau blynyddol a bod y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi bod staff AD ar gael i gefnogi aelodau i gwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol. Dywedodd nad ydi gwybodaeth ynglŷn â’r  hyfforddiant a’r sesiynau briffio y mae aelodau’r Pwyllgor Safonau wedi’u mynychu’n cael ei gyhoeddi ar-lein, ond bod eu presenoldeb yn cael ei nodi a’i gofnodi gan yr adran Adnoddau Dynol.  

 

Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor mewn perthynas â thri o’r pedwar hyfforddiant mandadol a amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae 35 wedi cwblhau’r modiwl ar ddiogelwch seibr ond dim ond 24 allan o’r 35 sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth a dim ond 12 allan o’r 35 sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ar ddiogelu data. Nodwyd hefyd bod 6 o’r 35 aelod heb gwblhau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad; er bod hyn yn orfodol o dan y Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y Cyngor Sir. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd, a’r Is-gadeirydd yn codi’r materion canlynol yn ystod cyfarfod o’r Arweinyddion Grwp yn y dyfodol:-

   Cynnig bod yr hyfforddiant Sgiliau Cadeirio yn dod yn hyfforddiant mandadol i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion wedi iddynt gael eu penodi (neu eu hail-benodi), a bod yr hyfforddiant yn cael ei gynnal pob 2 flynedd. Dylid cynnwys aelodau annibynnol anetholedig a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion cyfetholedig yn yr hyfforddiant hwn, ac

   Argymell bod yr Arweinyddion Grwp yn annog eu haelodau i ddiweddaru’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein mewn perthynas â’r hyfforddiant a’r sesiynau briffio y maent wedi eu mynychu. 

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn anfon copi o’r Newyddlen a fydd yn cael ei drafftio, yn dilyn y cyfarfod hwn, at yr Arweinyddion Grwp. 

  Ar ôl derbyn data gan swyddogion ar yr aelodau sydd heb gwblhau’r hyfforddiant mandadol bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn gofyn i’r Arweinyddion Grwp adrodd yn ôl ar y modd y maent yn bwriadu delio â’r mater.

  Bod sgiliau cadeirio Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Safonau yn cael ei godi yng nghyfarfod nesaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

Dogfennau ategol: